
Eich diogelwch
Mae eich diogelwch yn bwysig i ni. Wrth i ni ddechrau gweithio ar y Metro, gofynnwn i chi fod yn ymwybodol pan fyddwch yn agos i Linellau Craidd y Cymoedd. Mae ein rhwydwaith rheilffyrdd yn ddiogel on...
Mae miloedd o bobl yn byw ger ein rheilffyrdd. Bydd ein gwaith yn effeithio ar y llawer o bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau, ac ar y cymunedau a'r amgylchedd y mae ein rheilffyrdd yn rhan ohonynt.
Boed ni'n adeiladu'r seilwaith i greu'r Metro, neu'n gwneud gwaith cynnal hanfodol i wneud yn siŵr bod ein gwasanaethau'n rhedeg yn ddiogel ac yn ddidrafferth, byddwn yn gwneud ein gwaith gan fod mor ofalus ac ystyriol â phosib er mwyn y 50,000 o bobl yr amcangyfrifir eu bod yn byw o fewn 200 metr i'n rheilffyrdd.
Ym mis Mawrth 2020, fe wnaethom gymryd perchnogaeth o linellau Aberdâr, Coryton, Merthyr Tudful, Rhymni a Threherbert, yn ogystal â Llinell y Ddinas rhwng Caerdydd a Radur, gan Network Rail.
Rydyn ni'n awyddus i fod yn gymdogion da a byddwn yn cydweithio â'r bobl y mae ein gweithgareddau'n effeithio arnynt.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am amhariadau a tharfu posib a achosir gan ein gwaith helaeth yn datblygu system trafnidiaeth gyhoeddus Cymru;