Cadwch yn ddiogel, cynlluniwch ymlaen llaw a byddwch yn deithiwr cyfrifol

Mae diogelwch a lles ein cwsmeriaid a'n staff yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i ni.

 

Cyn teithio

  • Cynlluniwch eich taith
  • Peidiwch â theithio os ydych chi'n yn teimlo'n sâl

 

Defnyddio tacsi neu gerbyd llogi preifat

Defnyddiwch dacsi a cherbydau llogi preifat yn gyfrifol.  Bydd eich cwmni tacsi neu logi preifat lleol yn dweud wrthych chi am y gwasanaethau maen nhw'n eu darparu ar hyn o bryd a'r mesurau diogelwch sydd ar waith.

 

Dilynwch gyngor y gyrrwr

Dilynwch gyngor y gyrrwr. Bydd eich gyrrwr yn gallu dweud wrthych am y mesurau sydd ar waith i sicrhau eich bod chi'n gallu teithio mor ddiogel â phosib. Efallai y gofynnir i chi eistedd ar yr ochr chwith yn y sedd gefn os ydych chi'n teithio ar eich pen eich hun, er enghraifft.

 

Dolenni defnyddiol