Y canllawiau presennol gan Lywodraeth Cymru yw aros gartref a gadael cartref dim ond os yw eich taith yn hanfodol.
Dim ond at ddibenion cyfyngedig y dylid defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus sy'n cynnwys:
• mynd i'r gwaith os na allwch weithio gartref.
• mynd i'r ysgol, y coleg neu ar gyfer addysg
• ar gyfer anghenion siopa neu feddygol hanfodol
• darparu gofal hanfodol
• dianc rhag risg o salwch neu anaf, megis i ddioddefwyr neu bobl sydd mewn perygl o gam-drin domestig
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Peidiwch â gadael cartref a theithio o gwbl os oes gennych unrhyw symptomau Coronafeirws.
Gallwch wirio canllawiau Llywodraeth Cymru yma.
Meddyliwch yn ofalus am:
• y teithiau a wnewch
• y bobl rydych chi'n cwrdd â nhw
• teithio i ardaloedd lle mae cyfraddau coronafeirws yn uchel
Os oes angen i chi ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus o hyd ar gyfer teithiau hanfodol, helpwch ni i gadw'r rhwydwaith mor ddiogel â phosibl drwy ddilyn ein canllawiau Teithio'n Saffach.
Cynllunio ac archebu eich taith
I gael cyngor ac arweiniad neu ddiweddariadau teithio:
- ewch i www.traveline.cymru
- ffoniwch 0800 464 00 00
- ebostiwch feedback@traveline.cymru
- anfonwch neges at Traveline ar Facebook neu Twitter @TravelineCymru
- llwythwch ap Traveline Cymru i lawr am ddim
Gwnewch eich gwaith cartref Diweddariad Traveline Cymru ar y Coronafeirws cyn teithio rhag ofn bod unrhyw newidiadau munud olaf i wasanaethau.
Teithio’n gyfrifol
Gofynnwn i chi ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn gyfrifol. Helpwch ni i’ch helpu chi drwy ddilyn ein cyngor syml ar Deithio’n Saffach a tharo golwg ar wefan eich gweithredwr bysiau lleol am fwy o wybodaeth. Gallwch chi ddod o hyd i’ch gweithredwr lleol yn traveline.cymru
Teithio yng Nghymru
Os oes angen i chi ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, bydd rhaid i chi ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru.
Teithio i wledydd eraill y DU
Os oes angen i chi wneud taith hanfodol rhwng Cymru a rhan arall o'r DU, bydd angen i chi ddilyn y canllawiau ar gyfer Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Ni chaniateir teithio y tu allan i'r DU at ddibenion hamdden. Rhaid i chi gael esgus rhesymol dros deithio dramor.
Y cyngor diweddaraf ar deithio dramor
Mae’n rhaid i chi gael esgus rhesymol dros deithio dramor. I weld pa reolau sy’n berthnasol o ran eithriadau ac ynysu, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Cofiwch daro golwg ar gyngor y Swyddfa Dramor a Chymanwlad (ar GOV.UK) cyn teithio
Os oes angen i chi deithio a bod gennych chi esgus rhesymol, gallwch chi ddefnyddio map IATA i gael rhagor o wybodaeth am y cyfyngiadau teithio yn eich cyrchfan. Mae’r map wedi’i ddarparu gan y Gymdeithas Trafnidiaeth Awyr Ryngwladol ac mae’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd.
Angen teithio?
Mae gweithredwyr bysiau yn rhedeg llai o wasanaethau ar hyn o bryd, ac mae ganddynt lai o le oherwydd yr angen i gadw pellter corfforol.
- gwisgwch orchudd wyneb oni bai eich bod wedi’ch eithrio
- ceisiwch gerdded neu feicio os ydych chi’n gallu, yn enwedig ar gyfer teithiau byr
- cynlluniwch eich taith a gwneud eich gwaith cartref cyn teithio
- caniatewch fwy o amser ar gyfer eich taith
- eithiwch yn ystod cyfnodau tawelach. Mae’n fwy prysur rhwng 7:00 a 9:00 yn y bore a rhwng 16:00 a 18:30 gyda’r nos
- archebwch eich taith
- defnyddiwch daliadau digyswllt neu brynu’ch tocynnau ar-lein neu o beiriant tocynnau
- golchwch eich dwylo am o leiaf 20 eiliad neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo’n rheolaidd
- cadwch eich pellter os gallwch chi
Mae gan bob gweithredwr bysiau yng Nghymru fesurau diogelwch a glanhau llym ar waith er mwyn cadw cwsmeriaid a staff mor ddiogel â phosibl. Mae rhagor o wybodaeth am lanhau yma
Gorchuddion wyneb
Oni bai eich bod wedi’ch eithrio, mae’n rhaid i chi wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus, mewn gorsafoedd, ar blatfformau, mewn ystafelloedd aros ac mewn meysydd parcio gorsafoedd trên er mwyn helpu i atal y coronafeirws rhag lledaenu i deithwyr eraill a staff. Mae’n rhaid gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau lle mae’n anodd cadw pellter corfforol, fel ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Dewch â gorchudd wyneb gyda chi a’i roi ymlaen cyn:
- mynd i faes parcio gorsaf drenau
- mynd i orsaf
- mynd ar blatfform
- defnyddio ystafell aros
- mynd ar y bws neu’r trên
Nid oes rhaid i blant dan 11 oed, pobl sydd ag anawsterau anadlu neu bobl sydd â salwch neu nam neu anabledd corfforol neu feddyliol wisgo gorchudd wyneb.
Mae rhestr lawn Llywodraeth Cymru o eithriadau ar gael yma
Mae rhagor o wybodaeth am wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus ar gael yma.
Traveline Cymru
Mae Traveline Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â gweithredwyr bysiau ac awdurdodau lleol i ddarparu gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru – ar gyfer bysiau, trenau a bysiau moethus, yn ogystal â llwybrau cerdded a beicio.
fflecsi
fflecsi yw’r gwasanaeth peilot newydd sy’n cael ei redeg gan weithredwyr bysiau lleol yn Nyffryn Conwy, Sir Benfro, Casnewydd, Gogledd Caerdydd, Rhondda, Prestatyn a Dinbych, gyda chefnogaeth TrC. Mae’n cymryd lle nifer o wasanaethau bysiau ag amser penodol, gan ganiatáu i chi ddewis pryd i deithio.
Mae diogelwch yn hollbwysig, felly rydyn ni wedi dylunio fflecsi i gludo teithwyr mewn modd mor ddiogel â phosibl. Mae gwybod faint o deithwyr rydyn ni’n eu codi yn golygu ein bod ni’n gallu anfon cerbyd o faint addas er mwyn cadw pellter cymdeithasol.
I archebu ein gwasanaeth fflecsi:
- ffoniwch 0300 234 0300
- llwythwch ein ap i lawr ar Google Play neu’r App Store
Helpwch ni drwy Deithio’n Saffach
Gofynnwn i chi ddilyn ein cyngor Teithio’n Saffach. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Dolenni defnyddiol
- Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Deithio’n Saffach a’n haddewid ni i chi yma.
- Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin i gael gwybod mwy am yr hyn rydym yn ei wneud i sicrhau bod teithiau hanfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru mor ddiogel â phosibl.
- Gallwch chi gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ofal iechyd gan y GIG.
- Gallwch chi gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ofal iechyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yma.