Ceisiwch gerdded neu feicio pan allwch chi, yn enwedig ar gyfer teithiau byr, er mwyn lleihau’r pwysau ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Y canllawiau presennol gan Lywodraeth Cymru yw aros gartref a gadael cartref dim ond os yw eich taith yn hanfodol.
Dim ond at ddibenion cyfyngedig y dylid defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus sy'n cynnwys:
• mynd i'r gwaith os na allwch weithio gartref.
• mynd i'r ysgol, y coleg neu ar gyfer addysg
• ar gyfer anghenion siopa neu feddygol hanfodol
• darparu gofal hanfodol
• dianc rhag risg o salwch neu anaf, megis i ddioddefwyr neu bobl sydd mewn perygl o gam-drin domestig
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Peidiwch â gadael cartref a theithio o gwbl os oes gennych unrhyw symptomau Coronafeirws.
Gallwch wirio canllawiau Llywodraeth Cymru yma.
Meddyliwch yn ofalus am:
• y teithiau a wnewch
• y bobl rydych chi'n cwrdd â nhw
• teithio i ardaloedd lle mae cyfraddau coronafeirws yn uchel
Os oes angen i chi ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus o hyd ar gyfer teithiau hanfodol, helpwch ni i gadw'r rhwydwaith mor ddiogel â phosibl drwy ddilyn ein canllawiau Teithio'n Saffach.
Amserlen lai
O ddydd Llun 25 Ionawr 2021, bydd gwasanaethau rheilffyrdd yn rhedeg ar amserlen lai i helpu i gadw gweithwyr allweddol, staff a'r rhai sydd angen gwneud teithiau hanfodol mor ddiogel â phosibl.
Mae gwasanaethau bysiau eisoes yn rhedeg amserlen lai.
Cynlluniwch ymlaen llaw a gwiriwch cyn i chi deithio.
Os ydych yn teithio ar y trên, defnyddiwch ein gwiriwr capasiti
Os ydych yn teithio ar fws, edrychwch ar wefan eich gweithredwr bysiau lleol i gael rhagor o wybodaeth. Gallwch ddod o hyd i restr o'r gweithredwyr lleol yma.
Ceisiwch gerdded neu feicio ar gyfer teithiau byr
Allech chi gerdded neu feicio yn hytrach na defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn ystod y cyfnod anodd hwn? Byddai’n lleihau’r pwysau ar drafnidiaeth gyhoeddus ac fe gewch chi wneud eich ymarfer corff dyddiol wrth deithio.
Rhagor o wybodaeth am gerdded a beicio yn lleol
Mae rhagor o wybodaeth am lwybrau cerdded a beicio dynodedig yn eich ardal chi ar gael ar wefan eich cyngor lleol, neu yma.
Hefyd, efallai fod eich cyngor lleol yn rhoi cyfleusterau dros dro ar waith er mwyn ei gwneud yn haws cerdded a beicio. Gallwch weld beth sy’n digwydd yn eich ardal chi yma.
Y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol
Rhwydwaith o lwybrau cerdded a beicio dynodedig ledled y DU yw’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol . Gallwch fynd yma i weld a ydych chi’n byw wrth ymyl y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.
Cynlluniau beicio cyhoeddus
Gallwch logi beic fel rhan o gynllun beicio cyhoeddus, fel Nextbike yng Nghaerdydd, os nad oes gennych chi feic eich hun. Dim ond mewn rhai rhannau o Gymru mae’r rhain ar gael ar hyn o bryd. Ewch i weld beth sydd ar gael yn yr ardal rydych chi’n byw neu’n gweithio ynddi.
Mae rhagor o wybodaeth am ddefnyddio beic Nextbike yn ddiogel ar gael yma.
Mae aelodaeth Nextbike am ddim i weithwyr allweddol ar hyn o bryd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Cadwch bellter corfforol a golchi’ch dwylo
Ceisiwch gadw pellter corfforol (cadw 2 fetr oddi wrth bobl eraill) pan fyddwch yn cerdded neu’n beicio, er enghraifft, pan fyddwch yn pasio neu’n dod wyneb yn wyneb â cherddwyr eraill, neu wrth aros wrth groesfannau a goleuadau traffig.
Golchwch eich dwylo am o leiaf 20 eiliad neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo cyn ac ar ôl beicio.
Dolenni defnyddiol
- Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Deithio’n Saffach a’n haddewid ni i chi yma.
- Gallwch chi weld canllawiau Llywodraeth Cymru yma.
- Gallwch chi weld canllawiau Llywodraeth y DU yma.
- Os ydych chi’n fyfyriwr sy’n dychwelyd adref ar gyfer y gwyliau, mae rhagor o wybodaeth ar gael yma
- Gallwch chi gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ofal iechyd gan y GIG.
- Gallwch chi gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ofal iechyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yma.
- Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin i gael gwybod mwy am yr hyn rydym yn ei wneud i sicrhau bod teithiau hanfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru mor ddiogel â phosibl.