Cleaning

Glanhau

Sicrhau bod ein gwasanaethau yn lân

Canllawiau Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yw Diogelu Cymru a pheidio â theithio oni bai fod eich taith yn hanfodol.  


Defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus os mai hwn yw’ch unig opsiwn ar gyfer teithiau hanfodol a pheidiwch â theithio’n ddiangen os oes gennych chi symptomau'r coronafeirws.


Rydyn ni’n gweithio’n galed:

  • i sicrhau bod gweithwyr allweddol yn gallu teithio i'r gwaith ac oddi yno
  • i’ch galluogi chi i wneud teithiau hanfodol, fel siopa am nwyddau hanfodol neu anghenion meddygol
  • i gadw staff yn ddiogel

 

Mesurau glanhau ychwanegol ar fysiau a threnau ac yn ein gorsafoedd

Mae ein bysiau, ein trenau a’n gorsafoedd yn cael eu glanhau’n drwyadl yn unol â chanllawiau’r llywodraeth, gan gynnwys mannau mae teithwyr yn eu cyffwrdd yn aml.  


Rydyn ni’n gweithio bob awr o’r dydd i sicrhau eich bod chi’n gallu teithio’n ddiogel ac yn hyderus ar drafnidiaeth gyhoeddus os ydych chi’n weithiwr allweddol neu fod angen i chi wneud taith hanfodol ac mai trafnidiaeth gyhoeddus yw’ch unig opsiwn.


Bysiau
Mae gan yr holl weithredwyr bysiau yng Nghymru fesurau glanhau llym ar waith, gan gynnwys mesurau i gadw gyrwyr ar y rhwydwaith mor ddiogel â phosibl yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. 


Trenau 
Rydyn ni’n glanhau ein trenau’n drwyadl ac yn amlach.  Mae ein timau glanhau yn gweithio ddydd a nos i lanhau ein trenau ac rydyn ni wedi cyflogi mwy o weithwyr i’w cadw’n lân. 

Rydyn ni’n canolbwyntio ar fannau sy’n cael eu defnyddio’n aml fel breichiau cadeiriau, canllawiau a byrddau. Rydyn ni hefyd yn sicrhau bod digon o sebon yn ein toiledau.  


Rydyn ni’n defnyddio cynnyrch glanhau gwrthfeirysol sydd â chyfnod amddiffyn o 7 diwrnod. Hwn yw’r cynnyrch gorau sydd ar gael ar hyn o bryd. 


Gorsafoedd
Rydyn ni hefyd wedi codi lefelau glanhau yn ein gorsafoedd, gan ganolbwyntio’n benodol ar fannau sy’n cael eu defnyddio’n aml fel canllawiau a pheiriannau tocynnau.  Rydyn ni hefyd yn sicrhau bod digon o sebon yn ein toiledau.


Rydyn ni’n defnyddio cynnyrch glanhau gwrthfeirysol sydd â chyfnod amddiffyn o 7 diwrnod. Hwn yw’r cynnyrch gorau sydd ar gael ar hyn o bryd. 


Helpwch ni drwy olchi’ch dwylo neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo’n rheolaidd 

Rydyn ni’n glanhau mwy er mwn sicrhau bod eich teithiau hanfodol chi mor ddiogel â phosibl.


Helpwch ni:

  • drwy olchi’ch dwylo’n drwyadl gyda sebon a dŵr am o leiaf 20 eiliad neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo’n rheolaidd.
  • drwy ddod â’ch hylif diheintio dwylo eich hun os gallwch chi.


Eich cwestiynau

Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn rydyn ni’n ei wneud i sicrhau bod teithiau hanfodol ar drafnidiaeth cyhoeddus yng Nghymru mor ddiogel â phosibl.

Cysylltiadau cyflym

Train tickets

Tocynnau trên

Prynwch eich      tocynnau trên

Rail enquiries

Ymholiadau rheilffyrdd

Cysylltwch â'r tîm cysylltiadau cwsmeriaid rheilffyrdd

Concessionary travel cards

Cerdyn Teithio Rhatach

Gwneud cais am eich Cerdyn Teithio Rhatach