Mae Trafnidiaeth Cymru’n cydnabod pwysigrwydd Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru gan hyrwyddo cerdded a beicio fel y dulliau y bydd pobl Cymru am eu dewis wrth deithio pellterau bach. 

Yn ogystal â darparu cyngor a chymorth i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys helpu i adolygu’r canllawiau sy’n gysylltiedig â Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, ym mis Rhagfyr 2020 daethom hefyd yn gyfrifol am weinyddu rhaglen y Gronfa Teithio Llesol ar ran Llywodraeth Cymru, gan ein galluogi i chwarae rhan llawer mwy o ran cefnogi teithio iach a chynaliadwy ledled Cymru.

Mae awdurdodau lleol yn gallu gwneud cais am gyllid drwy raglen y Gronfa Teithio Llesol (ATF), drwy gyfuniad o gyllid craidd a phroses ymgeisio gystadleuol, i gefnogi’r gwaith o ddarparu cynlluniau teithio llesol ledled Cymru. Eleni, mae gwerth y gronfa wedi cynyddu o £30m i £50m ac mae rhagor o wybodaeth am raglen y Gronfa ATF ar gael yma.

Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill i helpu i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth integredig ledled Cymru, gan gynnwys darparu cymorth a chyngor i awdurdodau lleol wrth iddynt ddatblygu a darparu eu cynlluniau teithio llesol. Byddwn hefyd yn gwella'r ddarpariaeth ar gyfer teithio llesol trwy wella cysylltiadau i'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus drwy wneud y canlynol:

  • Buddsoddi £194 miliwn yn gwella gorsafoedd ac adeiladu o leiaf bum gorsaf newydd;
  • Defnyddio cronfa gwerth £15 miliwn i wneud gorsafoedd yn fwy hygyrch a lansio ap newydd er mwyn i gwsmeriaid sydd angen cymorth allu ‘cyrraedd a mynd’.
  • Sicrhau bod arwyddion priodol ym mhob gorsaf i hyrwyddo teithio pellach ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae rhagor o wybodaeth am y ffyrdd ymlaen sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cerdded a beicio ar gael yma.