Cleaning

Glanhau

Sicrhau bod ein gwasanaethau yn lân

Mae coronafeirws wedi newid  y ffordd rydyn ni gyd yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac rydyn ni’n gweithio’n galed fel y gallwch chi deithio mor ddiogel a phosib.

Y canllawiau presennol gan Lywodraeth Cymru yw aros gartref a gadael cartref dim ond os yw eich taith yn hanfodol

Dim ond at ddibenion cyfyngedig y dylid defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus sy'n cynnwys:

• mynd i'r gwaith os na allwch weithio gartref.

• mynd i'r ysgol, y coleg neu ar gyfer addysg 

• ar gyfer anghenion siopa neu feddygol hanfodol 

• darparu gofal hanfodol

• dianc rhag risg o salwch neu anaf, megis i ddioddefwyr neu bobl sydd mewn perygl o gam-drin domestig

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth 

Peidiwch â gadael cartref a theithio o gwbl os oes gennych unrhyw symptomau Coronafeirws.  

Gallwch wirio canllawiau Llywodraeth Cymru yma

Meddyliwch yn ofalus am: 

• y teithiau a wnewch 

• y bobl rydych chi'n cwrdd â nhw

• teithio i ardaloedd lle mae cyfraddau coronafeirws yn uchel 

Os oes angen i chi ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus o hyd ar gyfer teithiau hanfodol, helpwch ni i gadw'r rhwydwaith mor ddiogel â phosibl drwy ddilyn ein canllawiau Teithio'n Saffach

 

Mesurau glanhau ychwanegol ar fysiau a threnau ac yn ein gorsafoedd

Mae ein bysiau, ein trenau a’n gorsafoedd yn cael eu glanhau’n drwyadl yn unol â chanllawiau’r llywodraeth, gan gynnwys mannau mae teithwyr yn eu cyffwrdd yn aml.  


Rydyn ni’n gweithio bob awr o’r dydd i sicrhau eich bod chi’n gallu teithio’n ddiogel ac yn hyderus ar drafnidiaeth gyhoeddus os ydych chi’n weithiwr allweddol neu fod angen i chi wneud taith ac mai trafnidiaeth gyhoeddus yw’ch unig opsiwn.


Bysiau
Mae gan yr holl weithredwyr bysiau yng Nghymru fesurau glanhau llym ar waith, gan gynnwys mesurau i gadw gyrwyr ar y rhwydwaith mor ddiogel â phosibl yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. 


Trenau 
Rydyn ni’n glanhau ein trenau’n drwyadl ac yn amlach.  Mae ein timau glanhau yn gweithio ddydd a nos i lanhau ein trenau ac rydyn ni wedi cyflogi mwy o weithwyr i’w cadw’n lân. 

Rydyn ni’n canolbwyntio ar fannau sy’n cael eu defnyddio’n aml fel breichiau cadeiriau, canllawiau a byrddau. Rydyn ni hefyd yn sicrhau bod digon o sebon yn ein toiledau.  


Rydyn ni’n defnyddio cynnyrch glanhau gwrthfeirysol sydd â chyfnod amddiffyn o 7 diwrnod. Hwn yw’r cynnyrch gorau sydd ar gael ar hyn o bryd. 


Gorsafoedd
Rydyn ni hefyd wedi codi lefelau glanhau yn ein gorsafoedd, gan ganolbwyntio’n benodol ar fannau sy’n cael eu defnyddio’n aml fel canllawiau a pheiriannau tocynnau.  Rydyn ni hefyd yn sicrhau bod digon o sebon yn ein toiledau.


Rydyn ni’n defnyddio cynnyrch glanhau gwrthfeirysol sydd â chyfnod amddiffyn o 7 diwrnod. Hwn yw’r cynnyrch gorau sydd ar gael ar hyn o bryd. 


Helpwch ni drwy olchi’ch dwylo neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo’n rheolaidd 

Rydyn ni’n glanhau mwy er mwn sicrhau bod eich teithiau chi mor ddiogel â phosibl.


Helpwch ni:

  • drwy olchi’ch dwylo’n drwyadl gyda sebon a dŵr am o leiaf 20 eiliad neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo’n rheolaidd.
  • drwy ddod â’ch hylif diheintio dwylo eich hun os gallwch chi.


Eich cwestiynau

Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn rydyn ni’n ei wneud i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru mor ddiogel â phosibl.

Cysylltiadau cyflym

Capacity checker

Gwiriwr capasiti

Defnyddiwch ein gwiriwr capasiti i gynllunio eich taith

Concessionary travel cards

Traveline Cymru

Cynlluniwch eich taith bws

Train tickets

Tocynnau trên

Prynwch eich      tocynnau trên

Rail enquiries

Ymholiadau rheilffyrdd

Cysylltwch â'r tîm cysylltiadau cwsmeriaid rheilffyrdd

Concessionary travel cards

Cerdyn Teithio Rhatach

Gwneud cais am eich Cerdyn Teithio Rhatach