Ein fflyd yn y dyfodol ar gyfer Metro De Cymru

Rydyn ni’n brysur y tu ôl i'r llenni yn adeiladu trenau newydd a mwy cyfforddus i ddarparu gwasanaethau Metro modern ac effeithiol lle gallwch chi gyrraedd a mynd. Byddwch chi'n dechrau gweld y rhain ar waith yn 2022.

Bydd y trenau hyn yn cynyddu ein capasiti yn fawr, ac yn trawsnewid y profiadau mae ein cwsmeriaid yn eu cael wrth deithio.   Byddant hefyd yn cynnig llawer o nodweddion newydd, gan gynnwys mynediad gwastad, mwy o le i feiciau, a system awyru.

 

Ein Fflyd yn y Dyfodol

Cliciwch ar y fideo hwn i weld sut rai fydd y trenau newydd sbon hyn.

Click on this video fly-through to see what these brand new trains will be like.

 

Stadler FLIRT (TMMU) 

Byddwn yn defnyddio trenau tri-modd aml-uned arloesol (diesel, trydan, batri) sy’n llawer mwy gwyrdd ar gyfer yr amgylchedd. Mae Stadler yn eu hadeiladu yn y Swistir ar hyn o bryd.

Gallwch gael taith rith-ryngweithiol o’r trên yma.

 

Stadler FLIRT (DEMU)

Stadler FLIRT (DEMU)

Trenau diesel a thrydan â phedwar cerbyd, yn debyg i’n trenau tri-modd.

  • Tarwch olwg ar sut bydd ein trenau FLIRT yn edrych

    • Interior 1

    • Interior 2
    • Interior 3
    • Interior 4
    • Interior 5

 

Stadler Citylink

Stadler Citylink

Gallwch ddisgwyl gweld yr unedau hyn ar y rheilffyrdd ac ar dramffyrdd ar strydoedd. Mae sbardun cyflym i’r tram-drenau trydan/batri hyn, sy’n cael eu hadeiladu yn Valencia gan Stadler, ac maent yn ecogyfeillgar.

  • Tarwch olwg ar sut bydd ein trenau Citylink yn edrych

    • Interior 1

    • Interior 2
    • Interior 3
    • Interior 4
    • Interior 5

 

Gorsafoedd

Artists impression of Cardiff Bay station

Byddwn ni'n gwneud rhai gwelliannau cyffrous yn y blynyddoedd nesaf i wella’r profiadau y mae ein cwsmeriaid yn eu cael wrth deithio. Ymysg rhai o’r gwelliannau a welwch bydd teledu cylch cyfyng, peiriannau tocynnau, a chysylltiadau gwell ar gyfer seiclo a cherdded. Rydyn ni hefyd yn gwella hygyrchedd yn ein gorsafoedd ac ar ein trenau, yn ogystal ag yn gosod cyfleusterau toiledau ar nifer o orsafoedd Metro.

At hynny, rydyn ni’n bwriadu adeiladu neu ad-leoli pum gorsaf, sef:

  • Ffordd Crwys 
  • Bute Town

 


 

Mae nifer o brosiectau Metro De Cymru wedi cael eu hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.