Byddwn yn datgarboneiddio rhwydweithiau trafnidiaeth Cymru ac yn gwella ansawdd aer yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu

Rydym yn cyflawni uchelgais Llywodraeth Cymru o alluogi pobl i deithio mewn ffordd wyrddach a mwy cynaliadwy yng Nghymru.

Byddwn yn datgarboneiddio ein rhwydweithiau trafnidiaeth ac yn gwella ansawdd aer yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, bydd cerbydau newydd a rhaeadredig yn cael eu cyflwyno'n raddol dros yr ychydig flynyddoedd nesaf a fydd yn fwy ecogyfeillgar na'r fflyd bresennol.

Rydym yn cyflwyno’r trên hybrid cyntaf yn y DU, y Dosbarth 230, ar y gwasanaeth rhwng Wrecsam a Bidston. Mae'r rhain yn cyfuno'r defnydd o fatris modern gyda pheiriannau disel ysgafn sy'n cydymffurfio â'r safonau allyriadau Ewropeaidd diweddaraf.

O 2022 ymlaen, bydd trydaneiddio yn gweld trenau deu-ddull a thri-modd yn cael eu cyflwyno ar Reilffyrdd Craidd y Cymoedd. Byddant yn gweithredu'n gyfan gwbl o bŵer trydan uwchben wedi'i ategu gan fatris. Bydd y trenau trydan hyn yn llawer mwy effeithlon na'r trenau disel y byddant yn eu disodli. Bydd y trydaneiddio’n cael ei bweru gan ynni adnewyddadwy 100%, gydag o leiaf 50% yn dod o Gymru, sy’n golygu y bydd gwasanaethau ar Reilffyrdd Craidd y Cymoedd yn gwbl rydd o allyriadau.

Tra bydd trenau disel yn parhau i weithredu ar lawer o lwybrau eraill, bydd y rhan fwyaf o wasanaethau’n cael eu gweithredu gan fflyd newydd sbon o drenau, a bydd llawer ohonynt yn cael eu cydosod yng Nghymru. Bydd y rhain yn cynnwys peiriannau disel sy'n cydymffurfio â'r safonau Ewropeaidd diweddaraf ac yn darparu allyriadau sylweddol is o ronynnau, NOx a CO2.