Tocynnau Teithio Rhatach

Tocynnau teithio rhatach i gwsmeriaid dall neu sydd â nam ar y golwg nad oes ganddyn nhw Gerdyn Rheilffyrdd Person Anabl ac sy’n teithio gyda chydymaith yng Nghymru a Lloegr (mae tocynnau teithio rhatach ar gael yn yr Alban):

Os ydych chi wedi’ch cofrestru yn ddall neu gyda nam ar y golwg ac yn teithio gyda pherson arall, mae’r tocynnau teithio rhatach a ddangosir isod yn gymwys i chi a’ch cydymaith. Allwch chi ddim cael y gostyngiad os ydych chi’n teithio ar eich pen eich hun. Mae’r gostyngiad yn gymwys i brisiau teithio oedolion yn unig.

I dderbyn y gostyngiad, cyflwynwch dystiolaeth o’ch nam ar eich golwg, megis  dogfen o sefydliad cydnabyddedig fel y Gwasanaethau Cymdeithasol, eich Awdurdod Lleol, Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion (yr hen RNIB) neu Blind Veterans UK wrth brynu eich tocyn a gwneud eich taith. Gallwch brynu tocynnau o swyddfeydd tocynnau gorsafoedd National Rail sy’n cael eu staffio ac ar y trên.

 

Mae gostyngiadau tocynnau teithio rhatach fel a ganlyn:

  • 34% oddi ar docynnau sengl neu ddwy ffordd Safonol neu Ddosbarth Cyntaf unrhyw bryd
  • 34% oddi ar docynnau sengl dydd Safonol neu Ddosbarth Cyntaf unrhyw bryd
  • 50% oddi ar docynnau dwy ffordd dydd Safonol neu Ddosbarth Cyntaf unrhyw bryd

 

Cerdyn Rheilffordd Person Anabl

  • 1/3 i chi a chydymaith oddi ar docynnau trên ledled y DU. 
  • Mae’r cerdyn yn costio £20 y flwyddyn neu £54 am 3 blynedd
  • Gellir gwneud cais am y Cerdyn Rheilffordd drwy’r post neu ar-lein. Mae’r manylion llawn, gan gynnwys yr amodau defnydd ar gael yma.

 

Tocynnau Tymor

Gall cwsmeriaid sy’n ddall neu sydd â nam ar y golwg hefyd brynu un tocyn Tymor i oedolyn, sy’n galluogi cydymaith i deithio gyda nhw ar wasanaethau National Rail yn unig am ddim cost ychwanegol. Does dim rhaid i’r un person deithio gyda nhw bob tro.

Dylai cwsmeriaid fynd â thystiolaeth o’u nam ar y golwg, fel dogfen gan sefydliad cydnabyddedig fel y Gwasanaethau Cymdeithasol, eich Awdurdod Lleol, Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion (RNIB) neu St Dunstans wrth brynu eu tocyn a mynd ar eu taith. Gellir prynu’r tocynnau hyn o swyddfeydd tocynnau mewn gorsafoedd National Rail sy’n cael eu staffio.

 

Deiliaid Tocynnau Bws Rhatach Llywodraeth Cymru

Gall cwsmeriaid gyda thocyn bws rhatach a roddir gan awdurdodau lleol yng Nghymru deithio am ddim ar y trên neu ar y llwybrau canlynol:

  • Wrecsam i Bont Penarlâg – gydol y flwyddyn
  • Machynlleth i Bwllheli rhwng 1 Hydref a 31 Mawrth (ni ellir defnyddio’r tocynnau ar y 06.10 Pwllheli - Machynlleth rhwng Abermaw a Thywyn, y 07.34 Pwllheli - Machynlleth rhwng Penrhyndeudraeth a Harlech, y 12.56 Machynlleth - Pwllheli rhwng Pwllheli a Harlech a Phenrhyndeudraeth a’r 14:56 Machynlleth - Pwllheli rhwng Tywyn ac Abermaw.
  • Llandudno i Flaenau Ffestiniog – gydol y flwyddyn
  • Amwythig i Abertawe drwy Lanymddyfri - rhwng 1 Hydref a 31 Mawrth (ddim yn ddilys ar gyfer teithiau rhwng Amwythig a Bucknell a Llanelli ac Abertawe)

Mae’r manylion llawn ar gael yma.