Archebu teithio gyda chymorth a chynllunio’ch taith

Rydym yn gweithio ar fentrau newydd i helpu cwsmeriaid ag anghenion mynediad i deithio’n gyfforddus, yn ddiogel ac annibynnol. Gallwch ddarganfod mwy yma.

Rydyn ni eisiau i bawb deithio'n hyderus. Dyna pam, os ydych yn bwriadu teithio gyda gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, gallwch ofyn am archeb cymorth ymlaen llaw - nawr hyd at 2 awr cyn y disgwylir i’ch taith ddechrau, unrhyw adeg o’r dydd.

Cysylltwch â ni drwy:
 

  • Ffoniwch ein tîm Teithio gyda Chymorth: 03330 050 501

  • Gwasanaeth Testun Cenhedlaeth Nesaf 18001 033 300 50 501 (ar gyfer pobl gydag anawsterau clywed a lleferydd):

  • Ar-lein

Sylwch mai ein horiau agor yw 24 awr y dydd, ac eithrio Dydd Nadolig.

 

Alla i archebu teithio gyda chymorth ar ddydd Nadolig i deithio ar Ŵyl San Steffan?

Mae nifer o wasanaethau rheilffyrdd ar gau ar Ddydd Nadolig. Fodd bynnag, os ydych chi am archebu ar Ddydd Nadolig i deithio ar Ŵyl San Steffan, ffoniwch National Rail Enquiries ar 08000 223 720 (neu ffôn testun 08456 050 600).

 

Faint o rybudd sydd angen i mi ei roi i archebu teithio gyda chymorth?

Wrth archebu teithio â chymorth nid oes angen i chi roi mwy na 2 awr o rybudd i ni. Gallwch archebu ymhellach ymlaen llaw os yw'n well gennych. Gall y tîm Teithio â Chymorth:

  • Eich helpu i archebu teithio gyda chymorth a chadw sedd neu ofod cadair olwyn ar gyfer teithiau ledled rhwydwaith National Rail.

  • Ateb unrhyw gwestiwn sydd gennych chi am hygyrchedd gorsafoedd neu drenau.

Byddwch yn ymwybodol y gallwch chi bob amser “droi a mynd” heb archebu cymorth ymlaen llaw, neu os ydych wedi archebu lle ar-lein nad yw wedi'i gadarnhau eto. Byddwn yn darparu cymorth i fynd â chi i ben eich taith.

 

Pa gymorth sydd ar gael i mi os ydw i’n archebu teithio gyda chymorth?

Os ydych chi’n archebu teithio gyda chymorth ymlaen llaw, gallwn drefnu i werthwr tocynnau neu staff gorsaf eich helpu ar ac oddi ar y trên yn ystod yr oriau pan fo trenau i fod i aros ynddyn nhw. Wrth archebu teithio gyda chymorth, gallwn drefnu’r canlynol:
 

  • Sicrhau bod ramp ar gael i’ch helpu chi ar ac oddi ar y trên.

  • Eich tywys drwy’r orsaf ac ar neu oddi ar y trên.

  • Dod o hyd i’ch sedd ar y trên.

  • Cadw sedd neu ofod cadair olwyn, os yw hyn yn bosibl, ar ein gwasanaethau neu ar wasanaethau cwmnïau rheilffyrdd eraill.

  • Eich helpu i wneud cysylltiadau â chwmnïau trenau eraill mewn un archeb unigol.

  • Cymorth gyda bagiau

 

Alla i gael cymorth yr un fath, er nad ydw i wedi archebu teithio gyda chymorth?

Os nad ydych chi wedi archebu teithio gyda chymorth ymlaen llaw, byddwn yn eich helpu os yw hynny’n bosibl. Siaradwch gydag aelod o staff yr orsaf. Byddan nhw’n eich cynorthwyo i fynd ar y trên roeddech chi’n bwriadu ei ddal neu’r un nesaf sydd ar gael.

Ceisiwch gyrraedd o leiaf 20 munud cyn amser y trên rydych chi’n bwriadu ei ddal er mwyn i’r staff allu eich tywys i’r platfform mewn da bryd ar gyfer y trên.

Mewn gorsafoedd lle nad oes staff i’ch helpu, gall ein gwerthwyr tocynnau eich helpu i fynd ar y trên (er enghraifft, trwy ddefnyddio’r ramp ar y trên). Yn yr achos hwn, mae angen i chi fod ar y platfform mewn pryd ar gyfer y trên.

 

Pa gymorth sydd ar gael mewn gorsafoedd heb staff?

Nid oes gan y rhan fwyaf o’n gorsafoedd staff neu dim ond staff swyddfa docynnau sydd yno, na allant ddarparu teithio gyda chymorth.

Bydd y gwerthwr tocynnau ar y trên yn eich helpu i fynd ar y trên. Os oes angen cymorth arnoch mewn gorsaf heb staff neu orsaf gyda staff swyddfa docynnau yn unig, cysylltwch â’r tîm Teithio gyda Chymorth.

Os ydych chi’n cyrraedd gorsaf heb staff a’ch bod angen cymorth ond heb archebu teithio gyda chymorth ymlaen llaw, cysylltwch â’r tîm Teithio gyda Chymorth. Mae’r manylion cyswllt ar y poster gwybodaeth wrth fynedfa’r orsaf.

Gall y tîm Teithio gyda Chymorth drefnu cludiant amgen i chi neu drefnu i werthwr tocynnau eich helpu ar neu oddi ar y trên os gallwch chi gyrraedd y platfform.
Rydym yn gofalu bod trefniadau penodol ar waith ar gyfer teithwyr sydd angen cymorth mewn unrhyw orsaf os cynhelir digwyddiad arbennig gerllaw (yn enwedig yng ngorsafoedd Caerdydd Canolog a Chaer).

Rydym hefyd yn gofalu bod y trefniadau ar gyfer darparu cymorth mewn unrhyw orsaf yn cael eu dangos ar dudalen pob gorsaf ar wefan National Rail Enqiries (www.nationalrail.co.uk).

 

Oes modd i mi ddefnyddio teithio gyda chymorth i deithio i Ogledd Iwerddon, Gweriniaeth Iwerddon neu ar deithiau rhyngwladol?

Na. Does dim modd i chi ddefnyddio’r gwasanaeth teithio gyda chymorth ar deithiau rhyngwladol neu deithiau i Ogledd Iwerddon neu i Weriniaeth Iwerddon. Er mwyn teithio ymlaen ar awyren, ar long neu ar Eurostar (i Ewrop), bydd angen i chi gysylltu â’r darparwr trafnidiaeth i drefnu cymorth.

 

Beth sy’n digwydd os yw pethau’n mynd o chwith? 

Rydym yn ceisio darparu teithio gyda chymorth dibynadwy ar sail eich anghenion. Ond, os oes rhywbeth yn mynd o’i le, cysylltwch â’n tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid. Byddwn yn ystyried cynnig iawndal priodol (gan gynnwys ad-daliad llawn neu rannol) yn dibynnu ar yr amgylchiadau.

Rydym yn croesawu sylwadau ar unrhyw ran o’n gwasanaeth, gan gynnwys pan nad yw cyfleusterau yn gweithio.

  • Ffôn:  03333 211 202 

  • Gwasanaeth Testun Cenhedlaeth Nesaf:  18001 03333 211 202 

  • Ffurflen ar-lein: cliciwch yma

  • 24/7 bob dydd (ac eithrio Dydd Nadolig a Gŵyl San Steffan)

Gall y tîm anfon copi atoch o’r ddogfen hon neu o’n dogfen bolisi mewn fformat safonol neu amgen (er enghraifft print bras) am ddim. Ein Pennaeth Profiad Cwsmeriaid sydd â chyfrifoldeb dydd i ddydd am ein Polisi Diogelu Pobl Anabl. Gallwch gysylltu â nhw drwy ein tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid.

 

Pa gymorth all TrC ei roi i mi fel person anabl neu gwsmer â nam symudedd (Cynllun Waled Oren). 

Mae’r Cynllun Waled Oren yn cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cynllun yn ceisio helpu pobl, yn enwedig y rhai ar y sbectrwm awtistig, i ymdopi’n haws â thrafnidiaeth gyhoeddus. Mae’r waled yn cynnwys gofod y gellir ysgrifennu ynddo a’i bersonoli er mwyn helpu teithwyr i gyfathrebu â staff. Gall hefyd fod yn adnodd defnyddiol i bobl â namau cudd (hynny yw, anableddau ac anawsterau nad ydyn nhw’n amlwg o bosibl i eraill). Gallwch gael waled gan y tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid.

  • Ffôn: 03333 211 202

  • Gwasanaeth Testun Cenhedlaeth Nesaf: 18001 03333 211 202 

  • Ffurflen ar-lein: cliciwch yma

  • 24/7 bob dydd (ac eithrio Dydd Nadolig a Gŵyl San Steffan)