Dim ond £20.00 mae cardiau rheilffordd ar gyfer myfyrwyr ac unigolion o dan 18 oed yn ei gostio, a gallwch arbed hyd at 50% ar gost teithio ar drên.
Mae gennym ddisgownt ar docynnau newydd cyfnodau tawelach nawr hefyd, o hyd at 34% i bawb sydd â thocyn tymor blynyddol ac i gyd-deithiwr.
Newidiadau Ionawr 2020
Cerdyn Rheilffordd 18 Saver
Mae’r cerdyn rheilffordd 18 Saver ar gael i bawb sy’n 18 oed hyd at y diwrnod cyn eich pen-blwydd yn 19, ac maent ar gael yn swyddfeydd tocynnau Trafnidiaeth Cymru. Gallwch gael 50% oddi ar bris tocynnau dosbarth safonol Trafnidiaeth Cymru. Mae'r cerdyn rheilffordd yn costio £20.00 a rhaid dangos prawf oedran.
Cerdyn Rheilffordd Myfyrwyr
Gall pob myfyriwr sydd mewn addysg ran-amser neu amser llawn sydd â cherdyn NUS neu gerdyn adnabod Prifysgol/Coleg gael disgownt o 34% ar bris tocynnau dosbarth safonol a disgownt o 10% ar bris tocynnau tymor dosbarth safonol gyda cherdyn rheilffordd myfyrwyr. Mae’r cerdyn yn costio £20.00 ac yn para am flwyddyn o’r dyddiad y byddwch yn ei brynu. Mae ar gael yn swyddfeydd tocynnau Trafnidiaeth Cymru.
Deiliaid Cerdyn Tymor Blynyddol
Gall unrhyw un sydd â thocyn tymor blynyddol yn y DU elwa ar ddisgownt ar bris tocynnau ar adegau tawelach, ynghyd ag un cyd-deithiwr, ond rhaid i chi deithio gyda’ch gilydd bob amser. Rhaid i chi ddangos eich cerdyn tymor blynyddol i brofi eich bod yn gymwys os bydd rhywun yn gofyn i chi. Mae rhai cyfyngiadau, felly darllenwch yr wybodaeth yma cyn teithio. Mae’r cerdyn tymor blynyddol ar gael yn swyddfeydd tocynnau Trafnidiaeth Cymru, ac mae’n rhoi disgownt o 34% i chi oddi ar bris tocynnau dosbarth safonol ar adegau tawelach.
Ewch i un o’n swyddfeydd tocynnau heddiw i brynu cerdyn rheilffordd. Hefyd, gallwch lwytho ein ap i lawr yma:
Mae’r holl docynnau a chynnyrch yn ddarostyngedig i Amodau Teithio National Rail a thelerau ac amodau penodol eraill. Tarwch olwg ar yr holl delerau ac amodau cyn prynu eich tocyn a theithio. Ym mhob gorsaf sydd â pheiriant gwerthu tocynnau neu swyddfa docynnau, gwnewch yn siŵr eich bod yn prynu’r tocyn cywir ar gyfer eich taith cyn mynd ar y trên.
-
Oeddech chi’n gwybod?Tocynnau MultiflexYw’r tocyn Unffordd rhataf ar gyfer cannoedd o deithiau rheolaiddDim ond ar gael ar ein Ap