Rydyn ni’n gweithio’n galed i leihau cost teithio ar y trên i chi.
Mae prisiau tocynnau yng Ngogledd Cymru wedi cael eu gostwng 10%; mae prisiau rhai tocynnau i’n gorsafoedd yng Nghaerdydd a’r Cymoedd ac oddi yno wedi cael eu gostwng 12.5%; ac mae tocynnau tymor wedi cael eu gostwng 14% - o fis Ionawr 2020 ymlaen.
Newidiadau Ionawr 2020
Gogledd Cymru
Mae pris pob un o deithiau Trafnidiaeth Cymru yng Ngogledd Cymru, i’r gorllewin o Gaer ac i'r gogledd o Wrecsam, wedi gostwng 10%. Mae’r gostyngiad hwn yn cynnwys yr holl docynnau teithio nawr, Advance, y mae modd eu defnyddio ar wasanaethau cwmnïau eraill, ond nid yw’n cynnwys tocynnau Rover na Ranger.
Caerdydd a’r Cymoedd, Parth 5
Mae prisiau tocynnau i rai o orsafoedd Caerdydd a’r Cymoedd ac oddi yno, wedi cael eu gostwng 12.5%. Mae prisiau tocynnau tymor wedi cael eu gostwng 14%. Mae hyn yn cynnwys y gorsafoedd canlynol:
- Treherbert i Gaerdydd (Treherbert, Ynys-wen, Treorci, Ton Pentre, Ystrad Rhondda, Llwynypia, Tonypandy a Dinas Rhondda)
- Aberdâr i Gaerdydd (Aberdâr, Cwm-bach, Fernhill, Aberpennar a Phenrhiwceiber)
- Merthyr Tudful i Gaerdydd (Merthyr Tudful, Pentre-bach, Troed-y-rhiw, Ynysowen a Mynwent y Crynwyr)
- Rhymni i Gaerdydd (Rhymni, Pontlotyn, Tir-phil, Brithdir, Bargod a Gilfach Fargoed)
- Glynebwy i Gaerdydd (Tref Glynebwy, Parcffordd Glynebwy, Llanhiledd a Threcelyn)
- Maesteg i Gaerdydd (Maesteg, Maesteg Heol Ewenni, Garth (Morgannwg Ganol), Ton-du a Sarn)
Llwythwch ap TfW Rail i lawr neu ewch i un o’n swyddfeydd tocynnau heddiw i fanteisio ar y tocynnau pris arbennig hyn.
Mae’r holl docynnau a chynnyrch yn ddarostyngedig i Amodau Teithio National Rail a thelerau ac amodau penodol eraill. Tarwch olwg ar yr holl delerau ac amodau cyn prynu eich tocyn a theithio. Ym mhob gorsaf sydd â pheiriant gwerthu tocynnau neu swyddfa docynnau, gwnewch yn siŵr eich bod yn prynu’r tocyn cywir ar gyfer eich taith cyn mynd ar y trên.
-
Oeddech chi’n gwybod?Tocynnau MultiflexYw’r tocyn Unffordd rhataf ar gyfer cannoedd o deithiau rheolaiddDim ond ar gael ar ein Ap