Mae digon o seddi a phrisiau tocynnau is yn golygu bod teithio yn ystod cyfnodau tawelach yn ddewis poblogaidd.
Mae prisiau Trafnidiaeth Cymru ar gyfer tocynnau dwyffordd undydd ar gyfnodau tawelach a thocynnau tymor blynyddol wedi cael eu gostwng.
Mae hynny’n golygu y gallwch nawr fwynhau teithio ar rwydwaith Cymru a’r Gororau am lai fyth.
Newidiadau Ionawr 2020
Tocyn Dwyffordd Undydd ar Gyfnodau Tawelach
Mae prisiau pob un o docynnau dwyffordd undydd ar gyfnodau tawelach Trafnidiaeth Cymru wedi cael eu gostwng o’r hyn sy’n cyfateb i 85% o bris Tocyn Diwrnod Dwyffordd Unrhyw Bryd i 80% o’r pris. Nid yw unrhyw docynnau dwyffordd undydd ar gyfnodau tawelach a oedd eisoes yn 80% yn is na’r pris cyfatebol ar gyfer Tocyn Diwrnod Dwyffordd Unrhyw Bryd wedi newid.
Gostyngiadau Cyfnodau Tawelach ar gyfer pobl sydd â Thocynnau Tymor Blynyddol
Os oes gennych chi docyn tymor blynyddol, yna gallech chi a ffrind elwa ar ddisgownt o 34% oddi ar bris tocynnau cyfnodau tawelach Trafnidiaeth Cymru. Mae’r tocynnau disgownt arbennig hyn ar gael yn ein swyddfeydd tocynnau neu gan eich goruchwyliwr cyfeillgar, ar gyfer teithiau dosbarth safonol yn ystod cyfnodau tawelach ledled ein rhwydwaith. Mae rhai cyfyngiadau, felly darllenwch yr wybodaeth yma cyn teithio
Ewch i un o’n swyddfeydd tocynnau heddiw i fanteisio ar y tocynnau pris arbennig hyn. Hefyd, gallwch lwytho ein ap i lawr:
Mae’r holl docynnau a chynnyrch yn ddarostyngedig i Amodau Teithio National Rail a thelerau ac amodau penodol eraill. Tarwch olwg ar yr holl delerau ac amodau cyn prynu eich tocyn a theithio. Ym mhob gorsaf sydd â pheiriant gwerthu tocynnau neu swyddfa docynnau, gwnewch yn siŵr eich bod yn prynu’r tocyn cywir ar gyfer eich taith cyn mynd ar y trên
-
Oeddech chi’n gwybod?Tocynnau MultiflexYw’r tocyn Unffordd rhataf ar gyfer cannoedd o deithiau rheolaiddDim ond ar gael ar ein Ap