Ewch i'r tabl cynnwys

Cynllun busnes 31 Mawrth 2020

Submitted by Anonymous (not verified) on

Cynllun busnes dwy flynedd cryno

Mehefin 2018

 

1. Cyflwyniad a chrynodeb

1.1 Mae’r cynllun busnes cryno hwn yn disgrifio sut y byddwn yn datblygu Trafnidiaeth Cymru dros y ddwy flynedd nesaf.

1.2 Mae’r ddogfen hon yn darparu trosolwg o’n hamcanion strategol, ein trefniadaeth a’n gweithgareddau ategol.

 

2. Ein diben, gweledigaeth a gwerthoedd

Ein diben

2.1 Mae Trafnidiaeth Cymru yn bodoli er mwyn Cadw Cymru i Symud yn ddiogel trwy ddarparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid, cyngor arbenigol a buddsoddiad mewn seilwaith.

Cyd-destun

2.2 Mae system drafnidiaeth gyhoeddus well a mwy integredig yn ffactor allweddol wrth gyflwyno strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru: Ffyniant i Bawb. Mae trafnidiaeth yn cysylltu pobl a chymunedau, mae’n sylfaen i ddatblygu cynaliadwy ac mae’n galluogi twf economaidd. Bydd gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus gwell yn creu buddion gwirioneddol ar gyfer pobl, gan gynnwys mynediad gwell i gyfleoedd cyflogaeth a gwella’r broses o integreiddio gwasanaethau, fel addysg ac iechyd, â’r system drafnidiaeth gyhoeddus.

2.3 Cwmni dielw yw Trafnidiaeth Cymru, ac mae Llywodraeth Cymru yn berchen arno’n llawn. Ledled Cymru a’r gororau, rydym yn cydweithio â darparwyr, partneriaid a rhanddeiliaid trafnidiaeth eraill i ddarparu system drafnidiaeth integredig ddiogel, hygyrch, dibynadwy, fforddiadwy a charbon isel.

2.4 Nid yw Trafnidiaeth Cymru yn creu polisïau nac yn arfer unrhyw swyddogaethau statudol. Fodd bynnag, ni yw cynghorydd ac eiriolwr arbenigol Llywodraeth Cymru ar gyfer materion trafnidiaeth. Rydym yn darparu cyngor technegol fel bod Llywodraeth Cymru yn gallu datblygu polisïau. Mae popeth rydym yn ei wneud yn cael ei gyflawni oddi mewn i fframwaith polisi Llywodraeth Cymru.

Gweledigaeth

2.5 Ein nod yw creu rhwydwaith trafnidiaeth y gall Cymru ymfalchïo ynddo.

Gwerthoedd

2.6 Byddwn yn magu ymddiriedaeth gyda’n rhanddeiliaid, ein cwsmeriaid a’n staff, ar sail y canlynol:

▪ Bod yn Ddiogel: Iechyd, Diogelwch a Llesiant.

▪ Bod y Gorau: Perfformiad uchel. Cyflymdra.

▪ Bod yn Gadarnhaol: Yr agwedd briodol: Gallu Gwneud, Parod i Wneud.

▪ Bod yn Gysylltiedig. Mentro. Rhwydweithio.

▪ Bod yn Deg: Trin pobl yn dda. Uniondeb. Cydraddoldeb.

▪ Creu Llwyddiant a rennir: Brwd o blaid y fargen orau.

 

3. Cyd-destun strategol

3.1 Byddwn yn ceisio cyflawni sawl amcan strategol sy’n cyd-fynd â’n Diben dros y pump i ddeng mlynedd nesaf er mwyn cefnogi ein Gweledigaeth. Bydd ein hadroddiadau blynyddol yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd dros y cyfnod hwnnw:

▪ Gwella gwasanaethau i gwsmeriaid: byddwn yn datblygu agwedd gyffredin at wasanaethau i gwsmeriaid ar draws gwasanaethau trafnidiaeth yng Nghymru a’r gororau, gan ganolbwyntio ar anghenion pobl ac yn cynnwys cymunedau a busnesau er mwyn darparu trafnidiaeth ddiogel, ddibynadwy, fforddiadwy a charbon isel.

 Integredig: byddwn yn canolbwyntio ar barhau i wella’r gwaith o integreiddio mathau gwahanol o drafnidiaeth. Er mwyn integreiddio’r gwasanaeth yn llwyddiannus, mae angen darparu gwybodaeth ddibynadwy, system docynnau symlach a gwasanaethau cydgysylltiedig mewn cyfnewidfeydd. Hefyd, mae angen darparu gwasanaethau priodol, wedi’u cydleoli os oes modd, e.e. lleoli gorsafoedd bws a rheilffordd gyda’i gilydd.

▪ Ail-fuddsoddi mewn trafnidiaeth: Fel cwmni dielw y mae Llywodraeth Cymru yn berchen arno’n llawn, byddwn yn sicrhau bod unrhyw elw o’n gweithredoedd yn cael ei ail-fuddsoddi mewn gwasanaethau a seilwaith trafnidiaeth er budd cwsmeriaid – gan ddatblygu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y rhwydwaith trafnidiaeth yng Nghymru yn cael ei berchen neu ei weithredu’n uniongyrchol gan Trafnidiaeth Cymru i raddau mwy.

▪ Sicrhau ein bod yn gwasanaethu pob rhan o Gymru yn effeithiol: Byddwn yn sicrhau ein bod yn deall anghenion lleol a rhanbarthol ledled Cymru er budd defnyddwyr trafnidiaeth ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Mae’r cynlluniau arfaethedig i gyflawni hyn yn cynnwys Uned Fusnes yn y Gogledd a sefydlu ein pencadlys gyda phartneriaid allweddol ym Mhontypridd.

 Datblygu sgiliau mewn ffordd gynaliadwy: Mae llwyddiant Trafnidiaeth Cymru yn dibynnu ar ddatblygu sgiliau i ddarparu gwasanaethau a seilwaith. Byddwn yn ystyried sut i gaffael ar seilwaith a gwasanaethau sy’n arwain at fwy o fanteision lleol a rhanbarthol. Byddwn yn gweithio gyda BBaChau a sefydliadau mawr mewn ffordd gydweithredol er mwyn sicrhau gwerth am arian uniongyrchol trwy ddarpariaeth effeithlon ac effeithiol, yn ogystal â manteision economaidd cynaliadwy ehangach.

▪ Cysylltu cymunedau: Bydd ein dull o gyflawni llawer o’n hamcanion yn gosod sylfaen i’r nod o sicrhau bod cymunedau’n cael eu cysylltu mewn ffordd briodol. Yn ogystal â chysylltiadau trafnidiaeth, cefnogir yr amcan hwn trwy ganolbwyntio ar gyfleoedd adfywio a chreu lleoedd i gefnogi twf cynaliadwy a’n hymrwymiad i’r iaith Gymraeg.

▪ Modelu trafnidiaeth, cynllunio defnydd tir: Byddwn yn defnyddio dull seiliedig ar dystiolaeth o helpu i wneud penderfyniadau ar fuddsoddi mewn seilwaith. Byddwn yn cefnogi Llywodraeth Cymru trwy weithio i ddarparu cyfleoedd ar gyfer creu gofod preswyl, busnes a hamdden o fewn pellter cerdded i drafnidiaeth gyhoeddus. Hefyd, byddwn yn gwella cysylltedd ac yn cynyddu cyfraniad y sector trafnidiaeth at leihau’r ôl troed carbon.

 Yr Amgylchedd/Carbon: Byddwn yn gweithredu polisi Llywodraeth Cymru trwy ddatgarboneiddio ein rhwydweithiau trafnidiaeth a gwella ansawdd yr aer yn y cymunedau a wasanaethir ganddynt, gan geisio atal yr effaith negyddol gysylltiedig ar iechyd.

▪ Cyfrannu at Ffyniant i Bawb (Cynllun Gweithredu ar yr Economi): Yn ogystal â’r amcanion a nodwyd uchod sy’n cefnogi Ffyniant i Bawb, byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i fanteisio ar yr ymrwymiad i raglen hirdymor (pum mlynedd) o gyllid cyfalaf ar gyfer trafnidiaeth er mwyn rhoi prosiectau ar waith yn y ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol a manteisio ar bŵer prynu sylweddol y sector cyhoeddus.

3.2 Rydym yn barod i dyfu er mwyn ymateb i’r heriau uchod a derbyn rhagor o gyfrifoldebau i gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gydgrynhoi trefniadau cyflenwi presennol i Trafnidiaeth Cymru, lle bo modd cyflwyno achos busnes derbyniol.

Crynodeb o gyd-destun cyfreithiol a pholisi

Gellir crynhoi cyd-destun gwaith Trafnidiaeth Cymru yn dri maes allweddol yn gyffredinol:

3.3 Dyletswyddau cyfreithiol a statudol: Mae’r dyletswyddau cyfreithiol a statudol hyn yn cynnwys y rhai sy’n berthnasol i unrhyw gwmni neu sefydliad, ac maent yn gosod cyfrifoldebau uniongyrchol ar Trafnidiaeth Cymru, ei gyfarwyddwyr a’i weithwyr cyflogedig. Maent yn cynnwys (ond nid ydynt yn gyfyngedig i):

▪ Cyfraith cwmnïau.

▪ Cyfraith cyflogaeth (gan gynnwys y Ddeddf Cydraddoldeb, y Ddeddf Hawliau Cyflogaeth, Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth), y Ddeddf Isafswm Cyflog Cenedlaethol, y Ddeddf Pensiynau, Rheoliadau Amser Gwaith).

▪ Deddfwriaeth iechyd, diogelwch a lles.

▪ Deddfwriaeth amgylcheddol, gan gynnwys Deddf yr Amgylchedd (Cymru).

▪ Deddfwriaeth diogelu data.

▪ Deddfwriaeth berthnasol yr UE (er enghraifft, Pecynnau Rheilffordd yr UE, Rheoliad 1370).

Yn ogystal, gan fod Trafnidiaeth Cymru yn arfer swyddogaethau cyhoeddus, mae’n rhaid iddo gydymffurfio â rhagor o ddyletswyddau a chyfrifoldebau cyfraith gyhoeddus, gan gynnwys (ond nid yn gyfyngedig i):

▪ Deddfwriaeth caffael.

▪ Cyfraith berthnasol yr UE (er enghraifft, Pecynnau Rheilffordd yr UE, Rheoliad 1370).

▪ Egwyddorion Nolan (7 egwyddor bywyd cyhoeddus).

▪ Datganiad Polisi Llywodraeth Cymru (Rhagfyr 2017) ar Amcanion ar gyfer Trafnidiaeth Gyhoeddus Hygyrch a Chynhwysol.

3.4 Cynorthwyo Gweinidogion Cymru i gyflawni rhai ymrwymiadau cytundebol a Dyletswyddau Statudol: Mae’r ymrwymiadau hyn yn cynnwys (ond nid ydynt yn gyfyngedig i):

▪ Cytundebau Cymru a’r Gororau (cyfres o gytundebau rhwng Llywodraeth Cymru a’r Adran Drafnidiaeth yn ymwneud â gweithredu’r gwasanaeth rheilffordd newydd)

▪ Nododd y ddogfen Gwasanaethau Rheilffyrdd ar gyfer y Dyfodol, a gyhoeddwyd gan Trafnidiaeth Cymru ym mis Medi 2017: “Rydym wedi ymroi i fodloni gofynion Safonau’r Gymraeg drwy ddarparu gwasanaethau Cymraeg gwell.” Mae’r ymrwymiadau hyn wedi’u cynnwys yn y Cynllun Busnes hwn.

▪ Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – dyletswydd i weithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.

▪ Deddf Teithio Llesol (Cymru) – Mae’n rhaid i Weinidogion Cymru arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf hon mewn ffordd sy’n ceisio hyrwyddo teithiau teithio llesol, gan sicrhau llwybrau teithio llesol newydd a chyfleusterau cysylltiedig a gwella llwybrau teithio llesol presennol a chyfleusterau cysylltiedig. (Mae Trafnidiaeth Cymru wedi datgan y bydd yn “gwella integreiddio â llwybrau teithio llesol, a fydd yn golygu ei bod yn haws i bobl gerdded neu feicio yn ôl ac ymlaen o orsafoedd.”)

▪ Dyletswyddau Gweinidogion Cymru o dan y Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau, Cytundebau Asiantaeth a’r Cytundeb Grant ODP.

3.5 Rhwymedigaethau a nodir yn llythyr cylch gwaith Llywodraeth Cymru a’r Cytundeb Rheoli rhwng Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru: Mae cyfres o ofynion anstatudol ychwanegol wedi’u cynnwys yn llythyr cylch gwaith Llywodraeth Cymru a’r Cytundeb Rheoli rhwng Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru, gan gynnwys:

▪ Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi (Mae Trafnidiaeth Cymru wedi llofnodi’r Cod hwn, sy’n cynnwys datganiad atal caethwasiaeth blynyddol, datganiad ar bolisi cyflogaeth foesegol, a pholisi ysgrifenedig ar chwythu’r chwiban)

▪ Fframwaith Polisi Gweinidogion Cymru

▪ Dogfennau Polisi Llywodraeth Cymru:

      ▪ Symud Cymru Ymlaen 2016-21.

      ▪ Ffyniant i Bawb: Y Strategaeth Genedlaethol.

      ▪ Ffyniant i Bawb: Y Cynllun Gweithredu ar yr Economi.

      ▪ Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru 2017.

 

4. Llywodraethu

4.1 Mae trefniadau llywodraethu allweddol Trafnidiaeth Cymru i helpu i gyflawni ein hamcanion a rhoi’r Cynllun Busnes hwn ar waith wedi’i nodi isod. Maent yn cynnwys Bwrdd Trafnidiaeth Cymru a’i bwyllgorau a’r Tîm Gweithredol.

4.2 Mae’r Bwrdd yn gyfrifol am ddarparu llywodraethu cadarn a gweledigaeth strategol, gan gynnwys:

▪ Pennu gweledigaeth, cenhadaeth (diben) a gwerthoedd.

▪ Gosod strategaeth a strwythur.

▪ Hyrwyddo safonau uchel ym maes cyllid cyhoeddus, cynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian.

▪ Dirprwyo i reolwyr – gan gynnwys sicrhau bod rheolwyr yn atebol i ddirprwyaethau - llywodraethu a chyflenwi.

▪ Bod yn atebol i Lywodraeth Cymru fel unig aelod-warantwr a bod yn atebol i randdeiliaid perthnasol, gan gefnogi’r Tîm Gweithredol a’i herio mewn ffordd adeiladol.

▪ Sicrhau bod y Tîm Gweithredol yn atebol am weithredu’r cynllun busnes ac am elfennau allweddol y busnes, h.y. diogelwch, gwasanaeth, costau ac ati.

▪ Helpu’r Tîm Gweithredol trwy gynnig cyngor a gwasanaeth mentora er mwyn datblygu’r strategaeth fusnes a pharhau i wella perfformiad busnes.

▪ Sicrhau bod adnoddau digonol ar gael a bod olyniaeth ar lefel uwch yn cael ei chynllunio’n dda.

4.3 Mae Tîm Gweithredol Trafnidiaeth Cymru yn cynnwys y Prif Weithredwr a phob un o’r Cyfarwyddwyr Gweithredol.

4.4 Mae’r Tîm Gweithredol yn gyfrifol am:

▪ Redeg y cwmni – gan gynnwys Cyllid, AD, Iechyd a Diogelwch, a materion Cyfreithiol yn unol â’r fframwaith llywodraethu y cytunir arno.

▪ Perfformiad prosiectau a chyflenwi prosiectau.

▪ Perfformiad a chyflenwi busnes o ddydd i ddydd e.e. Gwasanaethau Rheilffordd.

Perthynas â Llywodraeth Cymru

4.5 Mae’r strwythurau a’r trefniadau llywodraethu ar gyfer Trafnidiaeth Cymru a’i berthynas â Llywodraeth Cymru wedi’u datblygu yn unol â’r canllawiau ar reoli cysylltiadau â phartneriaid allanol a nodir ym Mhennod 7 o Reoli Arian Cyhoeddus Cymru ac Atodiadau 7.1 – 7.4. Mae canllawiau Swyddfa’r Cabinet Llywodraeth y DU wedi’u hystyried hefyd.

4.6 Mae’r strwythurau a’r llywodraethu yn golygu bod gan Trafnidiaeth Cymru hunaniaeth gyfreithiol glir oddi mewn i fframwaith cadarn sydd wedi’i hen sefydlu, gan sicrhau bod pellter clir rhyngddo a Llywodraeth Cymru a bod Trafnidiaeth Cymru yn gallu gwneud penderfyniadau gweithredol annibynnol.

4.7 Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gyfrifol am reoli nodau a pherfformiad cyffredinol Trafnidiaeth Cymru ar lefel strategol, gan sicrhau bod y Cwmni yn gweithredu mewn ffordd effeithlon er budd y cyhoedd.

4.8 Hefyd, mae strwythur cwmni presennol Trafnidiaeth Cymru yn cynnig hyblygrwydd sylweddol er mwyn addasu’r elfennau hyn yn y dyfodol os oes angen gwneud hynny. Hefyd, mae’r model yn fwy cyfarwydd i’r sefydliadau masnachol y bydd angen i Trafnidiaeth Cymru weithio’n agos gyda nhw.

4.9 Mae Trafnidiaeth Cymru yn derbyn cyllid cyhoeddus, ond rhagwelir y gallai’r Cwmni gynhyrchu lefelau cymharol isel o incwm ychwanegol o ffynonellau allanol. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl y bydd unrhyw wasanaethau ychwanegol sy’n cael eu darparu gan y Cwmni i eraill yn cael eu darparu ar sail adennill costau fel arfer. Rhagwelir y byddai unrhyw arbedion effeithlonrwydd sy’n cael eu creu gan Trafnidiaeth Cymru ar ben y rhai sy’n cael eu rhagweld yn yr achos hwn ar gael i’w hail-fuddsoddi yn y rhwydwaith trafnidiaeth.

Egwyddorion y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru

4.10 Caiff Trafnidiaeth Cymru ei drin fel partner darparu i’w ymddiried ynddo, a bydd natur y busnes rhwng Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru yn rhoi sylw dyledus i rôl a swyddogaethau’r Cwmni, a’i gynlluniau fel y prif gorff sy’n gweithredu polisi Llywodraeth Cymru. Anogir Trafnidiaeth Cymru i gyfrannu at waith a’r broses o reoli timau noddi a chleientiaid Llywodraeth Cymru. Bydd yr egwyddorion canlynol yn rheoli’r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru.

 

5. Trosolwg o berfformiad ar gyfer 2017/18

5.1 Nododd Cynllun Busnes 2017/18 sawl allbwn allweddol y byddai gwasanaethau cynghori ac ymgynghori Trafnidiaeth Cymru yn eu cefnogi.

5.2 Mae gwaith caffael y Gweithredwr a’r Partner Datblygu (ODP) wedi parhau. Derbyniwyd ymatebion ITSFT ym mis Rhagfyr 2017, ac maent wedi’u gwerthuso. Dyfarnwyd y contract ar 4 Mehefin 2018. Disgwylir i’r rhaglen gyffredinol ar gyfer dechrau Gwasanaethau Rheilffordd fynd rhagddi yn unol â’r targed.

5.3 Cyhoeddwyd hysbysiad OJEU ar gyfer penodi Partneriaid Cyflenwi Seilwaith (IDP) i’n Fframwaith Cyflenwi Seilwaith Trafnidiaeth Cynaliadwy (STrIDe) ym mis Ionawr 2018. Mae’r fframwaith hwn yn mynd rhagddo yn unol â’r targed, ond bu rhywfaint o oedi er mwyn sicrhau cysondeb â chaffael ODP.

5.4 Cytunwyd ar set o egwyddorion masnachol sy’n gysylltiedig â throsglwyddo asedau Llinellau Craidd y Cymoedd â Network Rail cyn cyhoeddi’r Gwahoddiad i Gyflwyno Tendrau Terfynol ym mis Medi 2017. Mae’r cam nesaf, sef y Cytundeb Fframwaith Trosglwyddo a’r Cytundeb Atebolrwydd, wrthi’n cael ei ddatblygu i’w gytuno â Network Rail.

5.5 Mae’r broses Trosglwyddo Pwerau wedi mynd rhagddi ar y cyd â’r Adran Drafnidiaeth, ac mae dau Gytundeb Asiantaeth yn sylfaen i’r broses gaffael hyd yn hyn. Caiff Cytundeb Asiantaeth 3 ei gytuno cyn dyfarnu’r contract ODP. Mae’r Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaeth yn mynd trwy’r broses seneddol a bydd yn cael ei gwblhau erbyn mis Mehefin 2018.

5.6 Mae tîm Trafnidiaeth Cymru wedi’i ehangu mewn ymateb i’r gofynion rheoli wrth nesáu at Ddechrau’r Gwasanaeth Rheilffordd ym mis Hydref 2018. Mae prosiectau newydd wedi’u sefydlu ar gyfer Parhad y Gwasanaeth Rheilffordd a Gwelliannau i’r Gwasanaeth Rheilffordd er mwyn canolbwyntio ymdrechion ar ddatblygu hyn. Mae’r tîm yn cynyddu, ac mae nifer o weithwyr cyflogedig, gan gynnwys 3 Chyfarwyddwr Gweithredol, wedi’u penodi’n barhaol. Mae’r broses recriwtio yn parhau ar gyfer swyddi yn yr uwch dîm a swyddi cymorth ategol.

 

6. Crynodeb o amcanion strategol a’r cynllun gweithredol

6.1 Mae’r tabl isod yn crynhoi amcanion strategol Trafnidiaeth Cymru a’r cynllun gweithredol ategol ar gyfer cyfnod y Cynllun Busnes hwn (2018-2020). Maent yn cydfynd â thair thema graidd Trafnidiaeth Cymru :

▪ Gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid.

▪ Cyngor arbenigol.

▪ Buddsoddiad mewn seilwaith.

 

Thema: 

Gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid

Amcanion strategol: 

Integreiddio* ar draws moddau: Gwella gwybodaeth, tocynnau cydgysylltiedig a chydlynu gwasanaethau trafnidiaeth.

Un brand ar gyfer Trafnidiaeth Cymru a gwerthoedd/diwylliant ategol gyda phartneriaid a chyflenwyr i ddarparu trafnidiaeth integredig.

Dealltwriaeth go iawn o ofynion cwsmeriaid ledled Cymru a'r Gororau, gan fynd i'r afael ag agendâu cenedlaethol a rhanbarthol (e.e. Metros, gwledig).

Mae profiad y teithiwr wrth wraidd unrhyw wasanaeth rheilffyrdd. Mae'n hollbwysig, felly, fod Trafnidiaeth Cymru nid yn unig yn diwallu anghenion cyfredol y farchnad, ond hefyd yn ymateb iddo ac yn ysgogi twf teithwyr.

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn sefydlu systemau a fydd yn galluogi darpariaeth gwasanaeth trenau cyson o safon uchel i deithwyr. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn darparu Gwasanaeth Rheilffyrdd y gall pobl ddibynnu arno ar gyfer eu teithiau i'r gwaith, addysg a gweithgareddau hamdden.

Bydd y gwasanaeth rheilffyrdd hefyd yn darparu gwelliant sylweddol ym mhrofiad y teithiwr trwy gynyddu ansawdd gwasanaethau trên a gorsafoedd.

* Noder: Cwmpas tebygol trafnidiaeth integredig yw pob math o drafnidiaeth gyhoeddus: rheilffyrdd, bysus, coetsys, beiciau, tramiau/rheilffyrdd ysgafn, bysus afon, ffyrdd, tacsis, llogi preifat, cerdded.

Cynllun gweithredol (2018- 2020):

Rheoli’r rhyddfraint gyfredol tan fis Hydref 2018 a chytundeb y Gwasanaeth Rheilffyrdd o'i ddyfarniad yn Haf 2018.

Sicrhau parhad y gwasanaethau rheilffyrdd ym mis Hydref 2018.

Cyflwyno Llysgenhadon Cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru.

Cyflawni gwelliannau gwasanaeth yr ymrwymwyd iddynt gan ODP.

Ymgysylltu â gweithredwyr bysus trwy’r Bwrdd Cynghrair Integreiddio.

Sefydlu cynllun Gwella Gwasanaethau Rheilffyrdd sy'n rhoi sylw i fuddsoddiadau, cerrig milltir a chanlyniadau i wella gwasanaethau.

Sefydlu cyfundrefnau monitro a mesur perfformiad ar gyfer gwasanaethau.

Mae safonau Ansawdd y Gwasanaeth wedi'u nodi a'u cytuno gyda'r timau cyflawni.

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn datblygu Siarter Teithwyr, gyda'r tîm cyflawni.

 

Thema:

Cyngor Arbenigol

Amcanion strategol:

Gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth ar gyfer gwasanaethau a arweinir gan ganlyniadau a gwelliannau i seilwaith trafnidiaeth ategol.

Cynllun gweithredol (2018- 2020):

Datblygu Uned Ddadansoddol ar gyfer Cymru gyfan i ddeall defnydd trafnidiaeth ar hyn o bryd a’r hyn sy’n ddymunol.

Datblygu gallu cynghori arbenigol.

Datblygu a chyflwyno strategaeth llety Cymru gyfan Trafnidiaeth Cymru, gan gynnwys darpariaeth benodol Uned Fusnes Gogledd Cymru; casglu a chymhwyso perthnasedd/gwybodaeth leol er budd cwsmeriaid.

 

Thema:

Buddsoddiad mewn seilwaith

Amcanion strategol:

Darparu buddsoddiad seilwaith effeithiol yn ddiogel, yn amserol a gan sicrhau gwerth am arian, i'r safonau ansawdd y cytunwyd arnynt.

Cynllun gweithredol (2018- 2020):

Rhoi systemau rheoli diogelwch priodol ar waith i gaffael y prosiectau a'r rhaglenni gwaith yn ddiogel.

Penodi ODP yn gynnar yn haf 2018.

Sefydlu cynghrair fframwaith Cyflawni Seilwaith Trafnidiaeth Gynaliadwy (STrIDe).

Datblygu dyluniad a dechrau cyflwyno seilwaith Metro De Ddwyrain Cymru.

Datblygu Metro Gogledd Cymru. Datblygu seilwaith nad yw'n Fetro gyda Network Rail a phartneriaid eraill.

Datblygu a chyflwyno strategaeth Teithio Egnïol yn gynnar o fewn hybiau trafnidiaeth gyda phartneriaid yn yr Awdurdodau Lleol.

Buddsoddi mewn sgiliau gyda phartneriaid a chyflenwyr fel bod pobl leol yn cael cyfleoedd i gael gwaith.

 

Thema:

Corfforaethol 

Amcanion strategol:

Darparu arweinyddiaeth effeithiol wrth ddarparu trafnidiaeth i Gymru. Ymgysylltu'n gadarnhaol â'n tîm amrywiol i gefnogi cyflawniad ein pwrpas a'n gweledigaeth.

Cyfathrebu'n effeithiol strategaeth gyflawni glir.

Sefydlu partneriaethau cyflawni effeithiol. Sefydlu trefniadau adnoddau effeithiol a gwydn.

Defnyddio prosesau addas i bwrpas.

Datblygu a darparu cynnyrch a gwasanaethau arloesol, gwell a pherthnasol.

Cyflwyno pob gwasanaeth yn ddiogel ac yn gynaliadwy.

Cynllun gweithredol (2018- 2020):

Sefydlu diwylliant perfformiad uchel yn Trafnidiaeth Cymru, gyda chymorth brand cryf sy'n canolbwyntio ar y cwsmer gyda gwerthoedd cydnabyddedig ac ystyrlon.

Creu presenoldeb ystyrlon mewn lleoliadau ledled Cymru er mwyn gwneud y gorau o'n dealltwriaeth o anghenion lleol a rhanbarthol ledled Cymru er lles defnyddwyr trafnidiaeth cyfredol ac yn y dyfodol.

Sefydlu Trafnidiaeth Cymru fel Cyflogwr o Ddewis sydd â chynnig recriwtio a chadw deniadol.

Canolbwyntio ar amrywiaeth timau ac allgymorth i gymunedau i arallgyfeirio ein recriwtio.

Gweithio gyda busnesau bach a chanolig a chyrff mwy mewn dull cydlynol i wneud y mwyaf o werth uniongyrchol am arian trwy gyflawni effeithlon ac effeithiol, yn ogystal â manteision economaidd cynaliadwy ehangach.

Cymryd rhan flaenllaw wrth ddatblygu rhaglenni prentisiaeth a datblygu swyddi medrus yn nes at gartref gyda'n partneriaid cyflenwi.

Ymrwymiad i'r iaith Gymraeg.

Creu Cyfarwyddiaeth Diogelwch a Chynaliadwyedd.

 

7. Rhagdybiaethau craidd

7.1 Mae cyllideb dwy flynedd wedi ei ddatblygu i adlewyrchu amcanion strategol a chynllun gweithredol Trafnidiaeth Cymru ac i gyd-fynd â strwythur y rhaglen.

Mae’r gyllideb wedi gwneud y rhagdybiaethau allweddol canlynol:

▪ Dechrau Gweithrediadau Rheilffyrdd      14eg Hydref 2018

▪ Trosglwyddo asedau CVL       Blwyddyn ariannol 2019/20

▪ Symud i swyddfeydd newydd ym Mhontypridd       Blwyddyn ariannol 2020/21

Bydd gofynion ychwanegol a phrosiectau yn amodol i newidiadau pellach i’r cylch gwaith (nad ydynt wedi eu hadlewyrchu yn y gyllideb) a chymeradwyaethau pellach, fel sy’n briodol, gan archebion prynu.

Bydd y proffil gwariant yn cael ei adolygu ymhellach gan yr ODP a’r IDP.

7.2 Er mwyn cyflawni amcanion strategol Trafnidiaeth Cymru, bwriedir ehangu’r tîm yn ystod y ddwy flynedd nesaf ar yr ochr gyflawni ac ar yr ochr swyddogaethau cymorth

 

8. Llif arian a chyllid

8.1 Mae’r gyllideb adnoddau a gwariant cyfalaf ar gyfer 2018/19 a’r gyllideb ddangosol ar gyfer 2019/20 wedi’u crynhoi yn y tabl isod. Bydd y cynllun blynyddol yn datblygu yn ystod y flwyddyn ariannol yn unol â’r cylch gwaith.

Gwariant Adnoddau (£'000au)

Gwasanaethau Rheilffyrdd Cynllun 2018/19: 99,682

Gwasanaethau Rheilffyrdd Cynllun 2019/20: 176,776

 

Gwasanaethau Canolog Cynllun 2018/19: 1,111

Gwasanaethau Canolog Cynllun 2019/20: 1,908

 

Gwasanaethau Newydd Cynllun 2018/19: 993

Gwasanaethau Newydd Cynllun 2019/20: 2,049

 

Gwariant Adnoddau Cynllun 2018/19: 101,787

Gwariant Adnoddau Cynllun 2019/20: 180,734

 

Gwariant Adnoddau heb fod yn Arian Parod Cynllun 2018/19: 106

Gwariant Adnoddau heb fod yn Arian Parod Cynllun 2019/20: 222

 

Gwariant Cyfalaf (£'000au)

Seilwaith Rheilffyrdd Cynllun 2018/19: 45,208

Seilwaith Rheilffyrdd Cynllun 2019/20: 132,189

 

Seilwaith Corfforaethol Cynllun 2018/19: 1,836

Seilwaith Corfforaethol Cynllun 2019/20: 4,783

 

Gwasanaethau Newydd Cynllun 2018/19: 7,798

Gwasanaethau Newydd Cynllun 2019/20: 10,712

 

Gwariant Cyfalaf Cynllun 2018/19: 54,842

Gwariant Cyfalaf Cynllun 2019/20: 147,685

 

8.2 Mae Gwasanaethau Rheilffordd yn cynnwys cost y cyfarwyddiaethau Masnachol, Cyfathrebu a Gwasanaethau Cwsmeriaid, Diogelwch a dyraniad Gwasanaethau Canolog (Gwasanaethau Corfforaethol a Chyllid).

8.3 Mae’r gyllideb adnoddau heb fod yn arian parod yn ymwneud â dibrisio asedau sefydlog.

8.4 Yn y cyllidebau cyfalaf, mae Seilwaith y Rheilffordd yn ymwneud â chyflwyno ymyraethau seilwaith Metro’r De-ddwyrain, gan gynnwys gwariant cyfalaf ar Linellau Craidd y Cymoedd a phrosiect Gorsaf a Sefydlogi Llanwern. Mae’r gyllideb Seilwaith Corfforaethol yn ymwneud â gweithredu systemau a darparu dodrefn ar gyfer y swyddfa newydd ym Mhontypridd.

8.5 Mae gwasanaethau newydd yn cynnwys costau:

▪ Sefydlu a defnyddio’r Uned Ddadansoddol, a defnyddio’r gyllideb gyfalaf i ddatblygu Modelau Trafnidiaeth Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gogledd Cymru.

▪ Sefydlu Uned Fusnes Gogledd Cymru.

▪ Recriwtio Cyfarwyddwr Gwasanaethau Bysiau a Chyd-gysylltydd Gwasanaethau Bysiau i arwain strategaeth ac integreiddio bysiau yn y dyfodol.

▪ Darparu cyngor ar reoli’r rhwydwaith.

▪ Datblygu ymyraethau seilwaith Metro Gogledd Cymru ac ymyraethau seilwaith nad ydynt yn gysylltiedig â’r Metro, fel prosiect Gorsaf Bow Street.