Ydw i’n cael mynd â beic ar drên?

Cewch, serch hynny, gan mai hyn a hyn o le sydd ar ein trenau, mae’n syniad da iawn eich bod yn archebu lle mor fuan â phosibl ac yn cadw lle i’ch beic wrth brynu'ch tocyn.

Sylwer, ar rai llwybrau lleol yn y Cymoedd a Chaerdydd ni ellir mynd â beiciau ar drenau yn ystod oriau brig. Mae rhagor o fanylion ar gael yma.

 

A oes unrhyw adegau pan nad ydw i’n gallu mynd â beic ar drên?

Ni chewch fynd â beic ar drên:

  1. Pan fydd gwaith peirianneg, ni fyddwch yn cael mynd â'ch beic ar wasanaethau bws pan na fydd trên ar gael.
  2. Ar rai llwybrau yn y Cymoedd a Chaerdydd chewch chi ddim mynd â beiciau ar drenau yn ystod oriau brig.
  3. Os nad ydych wedi archebu lle ar gyfer eich beic ac nad oes lle ar y trên.

Mae rhagor o fanylion ar gael yma.

 

Pam nad ydych chi'n rhoi mwy o le i feiciau?

Cafodd y rhan fwyaf o'n trenau eu hadeiladu gyda lle ar gyfer hyd at ddau feic. Rydym wedi cynyddu nifer y trenau sy'n cludo beiciau; ac mae archebu lle i feiciau yn rhad ac am ddim. Gyda lle yn brin rydym o'r farn bod archebu lle yn hollbwysig ar gyfer trenau sy’n teithio’n bell, er mwyn sicrhau bod teithwyr â beiciau yn cael teithio ar y trên maen nhw’n ei ddewis. Mae cynnig mwy o le ar ein fflyd o drenau ar hyn o bryd yn golygu cael gwared ar seddi, a ddefnyddir yn ystod oriau brig ac mae'n rhaid i ni gydbwyso dymuniadau'r teithwyr hynny sydd ddim yn defnyddio beic, ond sy'n dymuno cael sedd.