Sut mae’r fflecsi yn gweithio?
Mae’r bysys yn eich codi mewn lleoliad cyfleus mor agos â phosibl i lle ydych chi, yn hytrach nag yn y safleoedd bws arferol. Bydd yn newid llwybr unwaith y byddwch ar y bws er mwyn eich gollwng mor agos â phosib at ben eich taith. Bydd y bws yn teithio ble bynnag mae’n ddiogel ac yn ymarferol iddo fynd.
Lawrlwythwch ein ap neu ffoniwch ni
Agorwch eich cyfrif neu ffoniwch ni ar 03002 340 300.
Archebwch eich taith
Dewiswch eich pwyntiau casglu a gollwng. Byddwch yn derbyn cadarnhad a diweddariadau byw o’ch bws.
Teithio
Ewch i’ch man casglu mewn digon o amser a byddwch yn barod i ddechrau’ch taith.
Prisiau’r bws fflecsi
Mae’r bws fflecsi yn wasanaeth fforddiadwy, ond gall gostyngiadau amrywio yn dibynnu ar y lleoliad. Gallwch ddefnyddio FyNgherdynTeithio neu eich Cerdyn Teithio Rhatach Cymru i arbed arian wrth ddefnyddio’r bysys.
Ap fflecsi
Y ffordd hawsaf o ddefnyddio'r bws fflecsi ydy drwy’r ap. Mae’n dangos i chi ble mae eich bws, ble bydd yn eich codi a phryd y bydd yn cyrraedd.
Cysylltu â ni
Angen ffonio ynglŷn â bws fflecsi? Y rhif yw 03002 340 300.
lleoliadau fflecsi
Lleoliadau fflecsi
Mae fflecsi wedi'i gynllunio i ddiwallu anghenion lleol - edrychwch ar y lleoliadau isod i weld sut mae'n gweithio ym mhob ardal