Cydweithio â myfyrwyr arlwyo talentog i greu prydau arbennig

Rydyn ni wedi bod yn ailfeddwl y ffordd rydyn ni’n darparu’r gwasanaeth bwyd a diod ar ein trenau. Rydyn ni wedi trawsnewid ein bwydlenni i ddarparu bwyd blasus o safon uchel i chi a llawer o ddewis o fwydydd lleol. Rydyn ni eisiau eich hudo â blasau gwirioneddol gofiadwy y byddwch chi am eu profi dro ar ôl tro.

Magnificent menu food prep
Magnificent menu certificates
Magnificent menu food serving
Magnificent menu food prep

 

Yn ein cystadleuaeth ‘bwydlen benigamp’, bu’r myfyrwyr yn cydweithio â’n cogyddion i greu cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin newydd arloesol.

Yn ôl ym mis Mai, fe wnaethom wahodd myfyrwyr arlwyo o Goleg Caerdydd a’r Fro i’n helpu ni i ailfeddwl y prydau rydyn ni’n eu cynnig.

Ar gyfer y gystadleuaeth ymunodd pob un o’n cogyddion â myfyriwr. Roedden nhw’n gwisgo eu hetiau gwyn ac yn rhoi eu sgiliau ar waith i feddwl am brydau a fyddai’n dod i’r brig. Hon oedd ein ‘Great Welsh Menu’ ni.

Roedd digon o syniadau a oedd yn tynnu dŵr o’r dannedd, ac roedd yn benderfyniad anodd i’r beirniaid.

Magnificent menu food

Rydyn ni’n falch o ddweud y cewch gyfle i fwynhau’r prydau a ddaeth i’r brig yn ein bwydlen Dosbarth Cyntaf.

I ddechrau, dywedwch helo wrth gregyn gleision Cymreig gyda bacwn, cennin a chocos wedi’u coginio mewn saws garlleg a hufen gwin gwyn. Ar gyfer y prif gwrs, cewch flasu cig oen Cymreig wedi’i serio a’i rostio mewn menyn garlleg rhosmari. Gorffennwch gyda sbwnj lemon a hadau pabi ysgafn gyda hufen ceuled lemon Chantilly.

P’un ai a ydych chi’n mynd i ffwrdd am y pythefnos, yn dathlu achlysur arbennig neu’n teithio’n bell i weithio, mae ein prydau arbennig yn barod i’w mwynhau. Byddwch yn profi blasau gwirioneddol gyffrous ac unigryw o Gymru, wedi’u creu gan ein cogyddion arbenigol a rhai o brif ddoniau’r byd arlwyo.

Magnificent menu food
Magnificent menu food
Magnificent menu food
Magnificent menu food
Magnificent menu food
Magnificent menu food
Magnificent menu food
Magnificent menu food
Magnificent menu food