James Price

Prif Swyddog Gweithredol

Penodwyd James, cyn Ddirprwy Ysgrifennydd Parhaol yn Llywodraeth Cymru, yn Brif Swyddog Gweithredol TrC ym mis Ionawr 2018 ar ôl bod yn Gadeirydd yn ystod y cyfnod sefydlu.

Dechreuodd James ar ei yrfa ym maes contractio peirianneg sifil yn wreiddiol. Ac yntau’n economegydd proffesiynol, mae wedi gweithio ledled y DU gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a gydag asiantaethau sy’n eiddo i’r llywodraeth yng Nghymru a Lloegr.

Tan ddiwedd 2017, ef hefyd oedd y Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol ar gyfer yr Economi, Trafnidiaeth, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, gan arwain tîm o tua 2,500 o weision sifil.

Mae James wedi bod yn gyfrifol am gyflenwi seilwaith i Lywodraeth Cymru er 2007, yn gyntaf fel Cyfarwyddwr Trafnidiaeth ac yna fel Cyfarwyddwr Cyffredinol a Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol. Erbyn hyn, mae’n gyfrifol am weithrediadau o ddydd i ddydd TrC a stiwardiaeth briodol dros arian cyhoeddus. Mae James hefyd yn Gadeirydd Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyf ac yn Gyfarwyddwr Pullman Rail Ltd.