P’un a ydych yn lasfyfyriwr neu yr ydych yn eich trydedd flwyddyn, mae yna gymaint y gallwch ei weld a’i wneud yng Nghymru. Ddim yn siŵr ymhle i ddechrau? Peidiwch â becso, gallwn ni eich helpu i deithio o gwmpas mewn ffordd fforddiadwy a diogel, boed ar droed, ar fws neu ar drên.

 

Teithio i fyfyrwyr yng Nghymru

Yn aml yng Nghymru, y ffyrdd hawsaf o deithio yw ar drên neu ar fws yn enwedig os nad oes car gennych chi. Mae’r tren a’r bws yn fforddiadwy ac yn gyfleus, a gall fyfyrwyr yn aml gael ostynigad ym mhris eu tocynnau.

Mae yna sawl ffordd i dalu. Prynwch docynnau bws ar y bws ei hun neu ar-lein. Prynwch docynnau trên ar wefan TrC neu yn yr orsaf. Mae talu wrth fynd ar gael mewn rhannau o Gymru os ydych yn teithio ar drên yn rheolaidd.

Mae’r rhan fwyaf o wasanaethau yng Nghymru yn hygyrch. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth ar ein tudalen Teithio hygyrch.

 

Awgrymiadau i fyfyrwyr o ran diogelwch wrth deithio

Gall teithio mewn lle newydd neu gyda’r nos fod ychydig yn frawychus. Cadwch yn ddiogel wrth ddilyn yr awgrymiadau hyn:

  • Cynlluniwch eich taith. Gwnewch ymchwil o’r ardal gan wneud cynlluniau trylwyr ynghylch sut y byddwch yn teithio cyn gadael. Teithiwch mewn ffyrdd y gellir dibynnu arnynt.
  • Gwnewch gynllun wrth gefn (yn enwedig os ydych yn teithio gyda’r nos) rhag ofn bod rhywbeth yn mynd o le, fel colli’ch trên neu fynd ar goll.
  • Sicrhewch fod batri’ch ffôn yn llawn cyn gadael.
  • Teithiwch gyda’ch gilydd. Lle’n bosib, teithiwch gyda ffrindiau.
  • Arhoswch yn gysylltiedig drwy rannu’ch lleoliad gyda ffrindiau a theulu fel eu bod yn gwybod eich bod chi’n ddiogel.
  • Cadwch i ardaloedd sydd wedi’u goleuo’n dda lle’n bosib.
  • Cuddiwch eich pethau gwerthfawr a pheidiwch â cherdded o gwmpas gyda’ch ffôn allan.
  • Os ydych chi’n teimlo’n anghyfforddus, ewch i fan cyhoeddus fel siop, bwyty neu lle sydd wedi’i oleuo’n dda. Os ydych yn teimlo’n anniogel, gofynnwch i unigolyn am help.

 

Teithio ar fws

Mae’r bws yn un o’r ffyrdd mwyaf poblogaidd gyda myfyrwyr sy’n teithio o amgylch Cymru. Mae yna amrywiaeth o lwybrau lleol a phell i ffwrdd sy’n meddwl bod opsiynau ar gyfer yr holl deithwyr.

Os ydych chi’n dymuno teithio ar fws, defnyddiwch ein cynllunydd teithio i ddod o hyd i’r llwybr gorau, amserau’r bysiau a mwy. Gallwch hefyd ddod o hyd i’r amserlenni bws diweddaraf neu bori yn ôl lleoliad gyda'n map teithio er mwyn dod o hyd i’r gwasanaeth gorau.

Mae ein gwasanaethau bws yn cynnwys TrawsCymru a fflecsi.

 

Sut i gael tocynnau bws myfyrwyr rhad

Fel arfer y bws yw’r ffordd leiaf drud o deithio o gwmpas Cymru. Mae’n ffordd gyfleus a chyflym o deithio sydd ddim yn costio’r byd.

Ydych chi rhwng 16 a 21 oed? Rhowch gynnig ar fyngherdynteithio am docynnau bws rhatach. Mae’n berffaith i fyfyrwyr. Ar wasanaethau sy’n cymryd rhan, dyma’r hyn y gallwch gael mynediad atyn nhw:

  • Tocyn sengl - £1
  • Tocyn diwrnod - £3 (teithio diderfyn ar wasanaethau sy’n cymryd rhan)

Gallwch hefyd ddefnyddio’n gwasanaeth PlusBus i gyfuno teithiau ar y trên a’r bws am bris llai.

 

Llwybrau poblogaidd gyda myfyrwyr

Dyma’r prifysgolion ledled Cymru sydd â llwybrau bysiau:

  • Prifysgol Aberystwyth - Aberystwyth
  • Prifysgol Bangor - Bangor
  • Prifysgol Caerdydd - Caerdydd
  • Prifysgol Fetropolitan Caerdydd - Caerdydd
  • Prifysgol Abertawe - Abertawe
  • Prifysgol De Cymru - Pontypridd / Caerdydd / Casnewydd
  • Prifysgol Y Drindod Dewi Sant – Llanbed / Caerfyrddin / Abertawe
  • Prifysgol Wrecsam (Wrecsam): Prifysgol Glyndŵr yn flaenorol

 

Teithio ar y trên

Mae’r trên yn ffordd berffaith o deithio ledled Cymru, yn enwedig os ydych yn dymuno teithio ymhellach. Mae’n gyfleus, yn gyflym ac yn fforddiadwy - yn enwedig gyda cherdyn Rheilffordd i fyfyrwyr.

Gallwch brynu tocyn trên hyd at 12 wythnos cyn teithio gyda’n cynllunydd teithio. Gallwch hefyd brynu tocynnau yn yr orsaf ar yr un diwrnod, er gall hyn gostio mwy.

Mae talu wrth fynd ar gael mewn rhai gorsafoedd, sy’n eich galluogi chi i dalu am eich taith gan wneud tap i mewn ac allan.

 

Sut i gael tocynnau trên myfyrwyr rhad

Y ffordd hawsaf i leihau cost eich tocynnau trên fel myfyriwr yw gyda Cherdyn Rheilffordd. Lle’n bosib, prynwch eich tocynnau’n gynnar i arbed arian gyda thocyn Advance a theithiwch yn ystod cyfnodau tawelach i arbed tua thraean oddi ar bris eich tocyn.

Mae gennym ystod o opsiynau tocynnau unigryw fel tocynnau trên Grŵp, lle gellir arbed hyd at 1/4 oddi ar eich tocynnau, sy’n berffaith os ydych yn teithio gyda ffrindiau.

 

Llwybrau trên poblogaidd gyda myfyrwyr

Dyma rai o’r llwybrau mwyaf poblogaidd i deithio iddynt ar y trên yng Nghymru a’r gororau.

Yng Nghymru

Beth bynnag prifysgol y byddwch chi’n mynychu, mae yna drefi a dinasoedd gwych o gwmpas Cymru sy’n berffaith ar gyfer noson allan, diwrnod o archwilio neu ymweld â ffrindiau.

Mae’r llwybrau poblogaidd hyn yn cynnwys:

  • Caerdydd - Abertawe
  • Bangor - Llandudno
  • Wrecsam - Caer

Yn y DU

Mae gan Gymru gysylltiadau trên rhagorol gyda rhannau o Loegr, sy’n berffaith os ydych chi’n mynd adref neu’n dymuno newid bach. Mae’r cyrchfannau hyn yn cynnwys:

  • Llundain
  • Manceinion
  • Lerpwl
  • Caer
  • Amwythig
  • Henffordd
  • Cheltenham

 

Gwasanaethau ar y trên

Mae gan ein trenau Wi-Fi a phwyntiau gwefru rhad ac am ddim. Gallwch hefyd fwynhau bwyda diod wrth deithio ar rai llwybrau.

 

Cerdded, beicio neu olwyno

Mae teithio ar droed neu ar olwynion yn ffordd iach, ecogyfeillgar o deithio o gwmpas eich ardal leol. Mae’n ffordd berffaith o archwilio’ch campws a’ch ardal leol gan gael awyr iach ar yr un pryd.

Os ydych yn cerdded, cadwch at lwybrau troed cyhoeddus gan osgoi cerdded gyda’r nos, yn enwedig mewn mannau mwy tywyll. Os ydych yn beicio, cadwch at lwybrau seiclo lle’n bosib. Byddwch yn ofalus wrth feicio ar ffyrdd a heolydd a defnyddiwch offer diogelwch er mwyn amddiffyn eich hunain.

Os ydych yn gadael eich beic, defnyddiwch fannau storio beiciau swyddogol sydd â chloi ‘D-lock’ neu ‘U lock’. Gallwch ddefnyddio ddau glo i amddiffyn eich beic ymhellach, yn enwedig os oes olwynion y gellir eu datgysylltu gennych.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am fynd â’ch beic ar y trên ac am eich hoff lwybrau seiclo yn ein canllaw.

Mae rhai trefi a dinasoedd, fel Abertawe, yn cynnig gwasanaeth llogi beiciau ac e-sgwteri sy’n ffordd wych o archwilio’r ardal am bris da.

 

Mannau teithio poblogaidd gyda myfyrwyr

Mae Cymru’n gartref i rai o’r lleoliadau mwyaf prydferth yn y byd. Darllenwch ein blogiau ar ganllawiau teithio i ganfod eich taith nesaf: