Y diweddaraf am berfformiad

Crëwyd y dudalen we hon er mwyn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad y rhwydwaith i gydweithwyr yn Trafnidiaeth Cymru, Network Rail Cymru a'r Gororau a Seilwaith Amey Cymru. Mae'r dudalen hon hefyd yn rhoi’r cyfle i chi gynnig adborth ar sut y gellir gwella perfformiad o fewn un o'r tri sefydliad.

Y dull rydyn ni’n tri yn ei ddefnyddio i wella perfformiad yw sail ein Cytundeb Tairochrog h.y. ein Strategaeth Perfformiad Un Rheilffordd i Gymru. Mae’n hanfodol wrth i ni ddechrau ar y gwaith unigryw o drawsnewid y rheilffyrdd yng Nghymru ac wrth i drenau newydd gael eu cyflwyno ledled y wlad ynghyd ag amserlenni gwell.

 

Dweud eich dweud

Rydym yn croesawu adborth gan ein cydweithwyr yn y tri sefydliad am yr hyn rydych chi a'ch timau yn ei wneud i wella perfformiad a beth arall y gellir ei wneud i'n helpu i gyrraedd targedau.

Rhaid i chi ateb y cwestiynau gydag * wrthynt cyn y gallwch eu hanfon.

*I bwy ydych chi'n gweithio?
*I ba sefydliad y mae eich adborth yn berthnasol?

 

Gwybodaeth am ac O Fewn 3 (OTT3) a pherfformiad

Cliciwch ar ein canllaw O Fewn 3 (OTT3) i ddarllen mwy am beth yw OTT3, sut rydym yn gweithio i wella perfformiad a sut y gallwch chwarae eich rhan.

Leaflet

Ar y cyd, mae Trafnidiaeth Cymru, Network Rail Cymru a'r Gororau a Seilwaith Amey Cymru wedi cynhyrchu fideo fer sy'n egluro mwy am bwrpas ‘O fewn 3 ‘a sut y byddwn yn cydweithio i wella perfformiad.

 

Strategaeth Perfformiad Un Rheilffordd i Gymru 24/25

Mae'r strategaeth hon yn nodi ein meysydd ffocws allweddol, ein prif fentrau ar y cyd, risgiau a phroblemau, tra hefyd yn cyfeirio at gynlluniau i sicrhau gwelliant ar gyfer y flwyddyn 24/25, gan sicrhau dull â mwy o ffocws iddo rhwng y sefydliadau, ynghyd â chynllun llywodraethu cadarn.

Mae NR, TrC ac AIW wedi cydweithio i gynhyrchu'r strategaeth hon, a fydd yn annog gwelliant ym mherfformiad trenau ar lwybr Cymru a’r Gororau.

Nod y ddogfen hon yw darparu manylion y mentrau a'r atebion ar y cyd, sy’n seiliedig ar ddata, a fydd yn darparu rheilffordd ‘prydlon’.

Strategaeth Perfformiad Un Rheilffordd i Gymru 24/25 | Agor fel PDF

 

Perfformiad