Darparwyd y llun gan Rightacres Property Co. Ltd.

 

Cyflwyno cyfnewidfa fysiau newydd sbon Caerdydd

Bydd Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd yn gyfleuster canolog newydd sbon i fysiau gyda 14 o gilfannau bysiau, amryw o unedau adwerthu, toiledau cyhoeddus a mannau gwerthu lluniaeth.

Mae’r gyfnewidfa newydd gyffrous hon yn rhan annatod o’r rhwydwaith trafnidiaeth integredig rydyn ni’n ei adeiladu ar gyfer pobl Cymru. Fel rhan o brif ganolfan drafnidiaeth Caerdydd, bydd yn cynnig gwell cysylltiadau i wahanol ddulliau teithio a rhyngddynt, gan gynnwys rheilffyrdd, cerdded a beicio – yn y ddinas ac ar draws y rhanbarth - er mwyn cyd-fynd yn well â ffordd o fyw pobl. Bydd yn cysylltu pobl yn well â chyfleoedd gwaith, iechyd a hamdden, ac yn helpu pobl i wneud dewisiadau teithio mwy cynaliadwy.

 

Dewis hawdd…

Mae cwsmeriaid wrth galon Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd. Rydyn ni eisiau i deithiau cydgysylltiedig a chynaliadwy fod yn ddewis hawdd i bawb.

Bydd y gyfnewidfa’n hyrwyddo’r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus ac yn galluogi cysylltiadau di-dor rhwng gwahanol ddulliau teithio, gan gynnwys rheilffyrdd, cerdded a beicio – yn y ddinas ac ar draws y rhanbarth.

 

Yma i helpu

Rydyn ni yma i helpu ein cwsmeriaid i gynllunio eu teithiau gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Bydd y gyfnewidfa yn ganolbwynt ar gyfer gwybodaeth am drafnidiaeth, lle bydd gwybodaeth fyw am deithio a bydd staff TrC ar gael i ateb ymholiadau wyneb yn wyneb. Eu gwaith yw gwneud gwasanaethau’n ddi-dor ac yn hawdd i bawb eu defnyddio.

Mae’n bwysig nodi y bydd y gyfnewidfa ar gael i bawb. Mae wedi cael ei dylunio gyda theithwyr modern mewn golwg er mwyn galluogi pobl i deithio’n rhwydd beth bynnag fo’u gofynion hygyrchedd.

 

Diogelwch yn gyntaf

Mae lleoliad y gyfnewidfa yn golygu y bydd cwsmeriaid ac ymwelwyr yn elwa ar ganolfan drafnidiaeth olau, agored a glân sy’n ddiogel, diolch i’r dechnoleg wyliadwriaeth ddiweddaraf a’n swyddogion diogelwch cyfeillgar.

 

Dod o hyd i’ch ffordd yn ein dinas

Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda Chyngor Caerdydd a phartneriaid eraill i sicrhau bod ymwelwyr yn gallu dod o hyd i’w ffordd o amgylch ein prifddinas yn hawdd. Rydyn ni am i bawb allu mwynhau’r golygfeydd a’r atyniadau sydd gan Gaerdydd i’w cynnig. Bydd Cyfnewidfa Fysiau newydd Caerdydd yn helpu i sicrhau bod hynny’n digwydd.