Wrthi’n cynllunio diwrnod allan? Gallai Bryste fod yr union le i chi a'r teulu. Fel arfer, mae’n llai nag awr i ffwrdd ar y trên o Orsaf Caerdydd Canolog a gallwch fanteisio ar Wi-Fi am ddim wrth deithio. Ac yn goron ar y cyfan, mae mynd ar y trên i Fryste yn golygu nad oes yn rhaid i chi ddygymod â’r traffig na phoeni am ddod o hyd i le i barcio.

Wedi ei leoli ger llethrau serth Ceunant Avon ar lannau Afon Avon, mae Bryste yn llawn bywyd, yn fywiog, yn lliwgar ac yn gosmopolitan. Gyda threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog, a digon o weithgareddau sy’n addas i deuluoedd, mae rhywbeth at ddant pawb yma ar gyfer pob cyllideb.

Gwybodaeth fyw am drenau sy’n gadael ac yn cyrraedd

Mae llawer yn meddwl am Bryste fel cartref Banksy, yr artist stryd byd-enwog sy’n cymryd golwg unigryw ar bob pwnc dadleuol, ac fe welwch lawer o’i weithiau o gwmpas y ddinas. Os yw celf glasurol yn fwy at eich dant, bydd orielau ac arddangosfeydd niferus y ddinas yn eich cadw’n brysur. O gampweithiau hanesyddol i gerfluniau modern, tecstilau a ffilm, nid yw'n syndod bod Bryste yn cael ei hystyried fel y ddinas fwyaf artistig yn y Deyrnas Unedig.

Mae’n werth ymweld â’r llu o raglenni bridio cadwraeth llwyddiannus yn Sw Bryste, sydd wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol. Gallwch wylio’r gorilaod, cwrdd â’r mirgathod neu ddefnyddio’r llwybrau cerdded â rhaffau i gopïo’r mwncïod. Dysgwch am bwysigrwydd hanfodol cadwraeth a sut gallwch chi chwarae eich rhan.

Wedi ei sefydlu yn 1140, mae gwaith cerrig canoloesol gogoneddus Eglwys Gadeiriol Bryste a thyrau Gothig ysbrydoledig yn edrych dros ddinas sydd wedi tyfu o’i chwmpas. Goroesodd y rhosffenestr drawiadol uwchben y porth gorllewinol ymgyrch fomio drom ar Fryste yn yr Ail Ryfel Byd, ac mae bellach yn croesawu ymwelwyr o bob cwr o’r byd.

Gydag arcedau bwtîc yn gwerthu creadigaethau unigryw, a chanolfannau siopa llachar a phrysur sy’n llawn o frandiau’r stryd fawr, mae Bryste yn lleoliad gwych ar gyfer siopa. Mae digon o ddewis i’r rhai sy'n hoffi bwyd hefyd gyda phobyddion artisan, siocledwyr a thai coffi clyd i gyd mewn un ddinas.

 

Trenau o Gaerdydd i Fryste

Ni allai fod yn haws mynd ar y trên rhwng Caerdydd a Bryste ac mae ein hamrywiaeth o docynnau am bris gostyngol yn golygu y bydd gennych chi fwy ar ôl i’w wario ar eich diwrnod allan. Cynlluniwch eich taith o Gaerdydd i Fryste ymlaen llaw gyda’n tocynnau Advance, neu deithio ar adegau tawelach gyda Bargeinion cyfnodau tawelach.

Beth am lwytho ein ap er mwyn i chi allu cael gwybodaeth fyw am deithiau yn syth ar eich ffôn?