Gall mynd ar y trên o Gasnewydd i Gaerdydd arbed amser ac arian i chi. Gallwch brynu tocynnau ar-lein neu ar ein ap heb ffioedd archebu.

Gwybodaeth fyw am drenau sy’n gadael ac yn cyrraedd

Faint o amser mae’r trên o Gasnewydd i Gaerdydd yn ei gymryd?

Dim ond 15 munud mae trenau o Gasnewydd i Gaerdydd yn ei gymryd. Mae gwasanaethau’n rhedeg bob deg munud drwy gydol y dydd, felly os byddwch chi’n colli un, does dim rhaid i chi aros yn hir nes bydd un arall yn cyrraedd.

 

Prynwch docynnau o Gasnewydd i orsaf Caerdydd Canolog.

Gallwch archebu trenau o Gasnewydd i orsaf Caerdydd Canolog ar-lein neu ar ein ap. Bydd hefyd yn dangos i chi amseroedd cyrraedd a gadael trenau ac mae’n cynnwys ein gwiriwr capasiti defnyddiol i weld pa mor brysur mae eich trên yn debygol o fod. 

Gallwch brynu tocynnau yng Ngorsaf Casnewydd gan ddefnyddio peiriannau tocynnau hunanwasanaeth neu swyddfa docynnau’r orsaf.

 

Mae llond trol o bethau i’w gwneud yng Nghaerdydd. Mae’n ddinas llawn amrywiaeth a bwrlwm gyda digon i'w wneud. Yn llawn i'r ymylon o atyniadau, mae Caerdydd yn cynnig rhywbeth i bawb. O berfformiadau theatrig, digwyddiadau artistig a therapi manwerthu, mae'n gyrchfan berffaith ar gyfer diwrnod allan ar y trên.

Wedi ei leoli yng nghanol y ddinas, mae Castell godidog Caerdydd, yn ei fawredd canoloesol, yn cadw golwg ar brysurdeb y ddinas a’r parciau gogoneddus o’i amgylch. Mae tu mewn y campwaith gothig hwn mor ysblennydd ac yn bleser ymweld ag ef. Saif Amgueddfa Genedlaethol Sain Ffagan, atyniad treftadaeth mwyaf poblogaidd Caerdydd, ar dir y castell.

Mae ardal Bae Caerdydd yn gartref i adeilad eiconig Canolfan y Mileniwm, y gellir ei adnabod ar unwaith. Gyda pherfformiadau theatrig a digwyddiadau diwylliannol rheolaidd, mae hon yn rhan bwysig o bennod newydd yn nhreftadaeth Cymru. Gerllaw mae Stadiwm Principality sydd yr un mor drawiadol, sy'n cynnal gemau rygbi rhyngwladol, gemau criced a gemau pêl-droed. Yn ardal y Bae, gall y rhai sy'n hoffi cyffro gael gwefr yng Nghanolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, rhoi cynnig ar ddringo neu fynd ar daith feic traws gwlad.

Os mai siopa sy'n mynd â’ch bryd, mae gan ganolfan siopa Arcêd y Frenhines yr holl enwau mawr o’r stryd fawr, ynghyd â labeli dylunwyr unigryw, tra bod yr arcedau Fictoraidd hŷn â’u pensaernïaeth ysblennydd yn arddangos doniau artisan lleol, mewn siopau bwtîc hynod o chic.

Pa un ai a ydych chi'n dod i Gaerdydd am resymau busnes neu bleser, mae mynd ar y trên o Gasnewydd i Gaerdydd yn ffordd hawdd o deithio. Mwynhewch yr hyblygrwydd a gynigir gan ein tocynnau unrhyw bryd. Cadwch olwg am yr wybodaeth ddiweddaraf gyda’r ap hawdd ei ddefnyddio, a dilynwch ein Statws Llwybrau Byw i weld y diweddariadau diweddaraf.