Diogelu Cymru
Cadwch yn ddiogel, cynlluniwch ymlaen llaw a byddwch yn deithiwr cyfrifol.
Peidiwch â theithio os ydych chi’n teimlo’n sâl.
Pan fyddwch yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus;
- nid oes rhaid i chi wisgo gorchudd wyneb ar ein gwasanaethau ond rydyn ni’n dal i argymell eich bod yn gwneud hynny ar ein trenau ac adeiladau ein gorsafoedd
- cadwch eich pellter
- dangoswch barch at y teithwyr eraill ac at ein staff
- golchwch a diheintio eich dwylo’n rheolaidd.
Helpwch ni i gadw’r rhwydwaith mor ddiogel â phosibl drwy ddilyn ein Canllawiau Teithio’n Saffach
Gallwch chi weld canllawiau Llywodraeth Cymru yma.
Ewch i’n porth i wneud cais am eich pàs bws yma.
Gallwch wneud cais ar-lein neu ofyn i ffrind, aelod o'r teulu neu rywun y maent yn ymddiried ynddo wneud cais ar-lein ar eu rhan. Ar-lein yw'r ffordd gyflymaf o wneud cais a derbyn eich cerdyn.
Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, efallai na fydd eich swyddfa cyngor lleol, llyfrgell neu ganolfan gymunedol lleol ar agor ar hyn o bryd. Cysylltwch â ni ar 0300 303 4240 neu ebostiwch cerdynteithio@trc.cymru gyda'ch ymholiad neu os oes angen cymorth arnoch.
Os ydych chi eisoes wedi gwneud cais a'ch bod yn hoffi olrhain eich cais, neu gael cerdyn a'ch bod am ddiweddaru eich manylion, dewiswch "Fy ngherdyn neu gais". Bydd gofyn i chi roi eich Rhif Yswiriant Gwladol neu rif eich cerdyn os oes gennych un, ynghyd â'ch dyddiad geni a'ch cod post.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.