Datganiad Preifatrwydd

Submitted by content-admin on

Cyflwyniad

Mae Trafnidiaeth Cymru yn parchu eich preifatrwydd ac mae wedi ymrwymo i ddiogelu eich data personol.  Bydd yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi gwybod i chi sut rydym yn gofalu am eich data personol pan fyddwch yn ymweld â’n gwefan (ni waeth o ble rydych chi’n ymweld â’r wefan) ac yn rhoi gwybod i chi am eich hawliau preifatrwydd, a sut mae’r gyfraith yn eich amddiffyn chi.

Rydym wedi darparu gwybodaeth fanwl am y canlynol:

  • Pryd a pham rydym yn casglu eich gwybodaeth bersonol;
  • Sut rydym yn defnyddio’r wybodaeth;
  • Yr amodau cyfyngedig y cawn ddatgelu’r wybodaeth i eraill oddi tanynt; a
  • Sut rydym yn cadw’r wybodaeth yn ddiogel.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu. Os byddwn yn gofyn i chi roi gwybodaeth a fyddai’n dangos pwy ydych chi pan fyddwch yn defnyddio’r wefan hon, gallwn eich sicrhau y bydd y wybodaeth honno’n cael ei defnyddio’n unol â’r hysbysiad hwn yn unig.

Caiff Trafnidiaeth Cymru newid yr hysbysiad hwn o dro i dro drwy ddiweddaru'r dudalen hon. Dylech daro golwg ar y dudalen hon o bryd i’w gilydd i wneud yn siŵr eich bod yn fodlon ar unrhyw newidiadau. Daw’r hysbysiad hwn i rym ar 1 Mai 2021.

 

Rheolydd

Trafnidiaeth Cymru ydym ni, sy’n ymgorffori Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyf. Ein Cyfeiriad yw 3 Llys Cadwyn, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf, CF37 4TH.

Trafnidiaeth Cymru ydy rheolydd eich data personol ac mae’n gyfrifol amdano (cyfeirir at Drafnidiaeth Cymru yn y datganiad preifatrwydd hwn fel “ni” ac “ein” hefyd).

Ein rhif cyfeirnod cofrestredig gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw ZA209543.

Rydym wedi penodi swyddog diogelu data sy’n gyfrifol am oruchwylio cwestiynau mewn cysylltiad â’r hysbysiad preifatrwydd hwn. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am yr hysbysiad preifatrwydd hwn, gan gynnwys unrhyw geisiadau i arfer eich hawliau cyfreithiol, mae croeso i chi gysylltu â'r swyddog diogelu data drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

Manylion cyswllt Cyfeiriad post: Swyddog Diogelu Data, Trafnidiaeth Cymru, 3 Llys Cadwyn, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf, CF37 4TH E-bost: dataprotection@tfw.wales

Mae gennych chi’r hawl i gwyno unrhyw bryd wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), awdurdod goruchwylio’r DU ar gyfer materion sy’n ymwneud â diogelu data (www.ico.org.uk). Fodd bynnag, byddem yn gwerthfawrogi’r cyfle i ymdrin â’ch pryderon cyn i chi gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, felly cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

 

Dolenni trydydd parti

Gallai'r wefan hon gynnwys dolenni i wefannau, ategion neu raglenni trydydd parti. Drwy glicio ar y dolenni hynny neu alluogi’r cysylltiadau hynny, efallai y bydd modd i drydydd partïon gasglu neu rannu data amdanoch chi. Nid ydym yn rheoli’r gwefannau trydydd parti hyn ac nid ydym yn gyfrifol am eu datganiadau preifatrwydd.

Pan fyddwch yn gadael ein gwefan, rydym yn eich annog i ddarllen hysbysiad preifatrwydd pob gwefan yr ewch iddi.

 

1. Y data rydym yn eu casglu amdanoch chi

Ystyr data personol, neu wybodaeth bersonol, ydy unrhyw wybodaeth am unigolyn a all ddatgelu pwy ydy'r unigolyn hwnnw. Nid yw’n cynnwys data lle mae’r hunaniaeth wedi’i ddileu (data di-enw).

Cawn gasglu, defnyddio, storio a throsglwyddo gwahanol fathau o ddata personol amdanoch, sydd wedi’u trefnu i'r grwpiau canlynol:

  • Data Adnabod – sy’n cynnwys enw cyntaf, enw cyn priodi, cyfenw a theitl. 
  • Data Cyswllt – sy’n cynnwys cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a rhifau ffôn.
  • Data Technegol – sy’n cynnwys cyfeiriad protocol rhyngrwyd (IP), y math o borwr a’r fersiwn, lleoliad a gosodiad cylchfa amser, fersiynau a mathau o ategion y porwr, system weithredu a’r llwyfan, a thechnoleg arall ar y dyfeisiau rydych yn eu defnyddio i gael mynediad i’r wefan hon.
  • Data Proffil – sy’n cynnwys diddordebau, dewisiadau, adborth ac ymatebion i arolygon.
  • Data Marchnata a Chyfathrebu – sy’n cynnwys eich dewisiadau o ran cael negeseuon marchnata gennym ni a’n trydydd partïon, a’ch dewisiadau cyfathrebu.

Rydym hefyd yn casglu, yn defnyddio ac yn rhannu Data Cyfanredol, megis data ystadegol neu ddemograffig at unrhyw ddiben. Gall Data Cyfanredol ddod o’ch data personol ond nid ydynt yn cael eu hystyried yn ddata personol mewn cyfraith, oherwydd nid yw’r data hyn yn datgelu pwy ydych chi yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol. Fodd bynnag, os byddwn yn cyfuno neu’n cysylltu Data Cyfanredol â’ch data personol er mwyn gallu eich adnabod chi’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, byddwn yn ystyried y data cyfun yn ddata personol a fydd yn cael eu defnyddio’n unol â’r hysbysiad preifatrwydd hwn.

Nid ydym yn casglu unrhyw Gategorïau Arbennig o Ddata Personol pan fyddwch yn ymweld â’n gwefan (mae hyn yn cynnwys manylion am eich hil neu ethnigrwydd, eich credoau crefyddol neu athronyddol, eich bywyd rhywiol, eich cyfeiriadedd rhywiol, eich barn wleidyddol, a ydych yn aelod o undeb llafur ai peidio, gwybodaeth am eich iechyd a data genetig a biometrig).  Nid ydym chwaith yn casglu unrhyw wybodaeth am droseddau ac euogfarnau troseddol.

 

Gwneud cais am swydd drwy borth gwefan Trafnidiaeth Cymru

I gael gwybodaeth am y data personol rydym yn eu casglu os ydych yn gwneud cais am swydd gyda ni, tarwch olwg ar yr hysbysiad preifatrwydd i ymgeiswyr am swyddi ar ein tudalen gyrfaoedd.

 

2. Sut mae eich data personol yn cael eu casglu?

Rydym yn defnyddio gwahanol ddulliau i gasglu data gennych chi ac amdanoch chi, yn cynnwys y dulliau canlynol:
Rhyngweithio uniongyrchol.  Gallech roi eich Data Adnabod a’ch Data Cyswllt i ni drwy lenwi ffurflenni neu ohebu â ni drwy’r post, dros y ffôn neu e-bost, neu fel arall.  Mae hyn yn cynnwys data personol rydych yn eu darparu pan fyddwch yn:

  • tanysgrifio i’n diweddariadau e-bost;
  • gofyn am negeseuon marchnata i gael eu hanfon atoch;
  • [llenwi arolwg]; neu’n
  • rhoi adborth i ni.

Technolegau neu ryngweithio awtomataidd.  Pan fyddwch yn rhyngweithio â’n gwefan, cawn gasglu Data Technegol am eich cyfarpar a’ch  gweithgareddau a phatrymau pori yn awtomatig. Rydym yn casglu’r data personol hyn drwy ddefnyddio cwcis a thechnolegau tebyg eraill. Mae mwy o fanylion yn ein hadran ar gwcis isod.

Trydydd partïon. Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer ein diweddariadau e-bost, efallai y byddwn yn cael Data Cyswllt a Data Marchnata a Chyfathrebu gan ddarparwr y gwasanaeth marchnata dros e-bost, MailChimp, sydd wedi’i leoli y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar eu gwefan ar https://www.mailchimp.com/legal/privacy

 

3. Sut rydym yn defnyddio eich data personol?

Dim ond pan mae'r gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny y byddwn yn defnyddio eich data personol. Dyma'r amgylchiadau mwyaf cyffredin lle byddwn yn defnyddio eich data personol:

Lle y bo'n angenrheidiol yn unol â'n buddiannau cyfreithiol (neu fuddiannau cyfreithiol trydydd parti) ac nad yw eich buddiannau na'ch hawliau sylfaenol chi yn cael eu hystyried yn bwysicach na'r buddiannau hynny.

Lle mae angen i ni gydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol neu reoleiddiol.

Ar y cyfan, nid ydym yn dibynnu ar gydsyniad fel sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol heblaw mewn cysylltiad ag anfon cyfathrebiadau marchnata uniongyrchol gan drydydd partïon atoch dros e-bost neu mewn neges destun. Mae gennych hawl i dynnu cydsyniad marchnata yn ôl unrhyw bryd drwy gysylltu â ni.

Tocynnau Tymor/Cardiau
Pan fyddwch chi'n prynu Tocyn Tymor am y tro cyntaf, fe gofnodir eich manylion a cedwir cofnod o'ch manylion a manylion y Tocyn(au) Tymor a brynwch.  Mae'n ein helpu i roi mwy o gymorth i chi os ydych chi’n colli’ch Tocyn Tymor neu mae’n cael ei ddwyn, neu os ydych chi'n gwneud cais am ad-daliad oherwydd oedi o dan Gynllun Ad-dalu am Oedi Cwmni Trên.

 

At ba ddibenion byddwn yn defnyddio eich data personol

Isod, ar ffurf tabl, rydym wedi darparu disgrifiad o'r holl ffyrdd yr ydym yn bwriadu defnyddio eich data personol ac ar ba sail gyfreithiol yr ydym yn dibynnu er mwyn gwneud hynny.  Rydym hefyd wedi nodi beth ydy ein buddiannau cyfreithiol, lle bo hynny’n briodol.

Sylwch y cawn broses eich data personol ar fwy nag un sail gyfreithiol yn dibynnu ar y diben penodol yr ydym yn defnyddio eich data ar ei gyfer. Cysylltwch â ni os oes angen manylion arnoch am y sail gyfreithiol benodol rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol lle mae mwy nag un sail wedi’i nodi yn y tabl isod.

Defnyddir y termau canlynol yn y tabl isod:

 

Buddiant Dilys:

ystyr hyn ydy buddiant ein busnes wrth gynnal a rheoli ein busnes er mwyn ein galluogi ni i roi’r gwasanaeth gorau a’r profiad gorau a mwyaf diogel i chi. Cyn i ni brosesu eich data personol ar gyfer ein buddiannau cyfreithiol, rydym yn gwneud yn siŵr ein bod yn ystyried ac yn cydbwyso unrhyw effaith bosibl (cadarnhaol a negyddol) arnoch chi a’ch hawliau. Nid ydym yn defnyddio eich data personol ar gyfer gweithgareddau lle mae’r effaith arnoch chi yn drech na’n buddiannau ni (oni bai fod gennym eich caniatâd neu fod y gyfraith yn mynnu ein bod yn gwneud hynny neu’n caniatáu i ni wneud hynny).

 

Cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol neu reoleiddiol:

ystyr hyn ydy prosesu eich data personol lle mae hynny’n angenrheidiol ar gyfer cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol neu reoleiddiol sydd arnom.

Diben/Gweithgaredd    Math o ddata    Sail gyfreithiol dros brosesu, gan gynnwys sail y buddiant cyfreithiol
Anfon diweddariadau e-bost i ddefnyddwyr sy’n gofyn amdanynt  (a) Adnabod
(b) Cyswllt
(c) Cyfathrebiadau Marchnata
ac
Angenrheidiol ar gyfer datblygu ein gwasanaethau a’n strategaeth farchnata
Ymateb i unrhyw sylwadau neu ymholiadau rydych yn eu hanfon atom (a) Adnabod
(b) Cyswllt 
Angenrheidiol ar gyfer gwella ein gwasanaethau
Eich galluogi chi i lenwi arolwg (a) Adnabod
(b) Cyswllt
(c) Proffil
(d) Cyfathrebiadau Marchnata
ac
Angenrheidiol ar gyfer astudio sut mae defnyddwyr yn defnyddio ein gwasanaethau ac i’w datblygu
Gweinyddu a diogelu ein gwefan (gan gynnwys datrys problemau, dadansoddi data, profi, cynnal a chadw systemau, cefnogi, adrodd a lletya data) (a) Adnabod
(b) Cyswllt
(c) Technegol 
(a) Angenrheidiol ar gyfer darparu gwasanaethau gweinyddol a TG, diogelwch rhwydwaith, i atal twyll)
(b) Angenrheidiol ar gyfer cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol
Defnyddio dadansoddiadau data i wella ein gwefan a’r profiad i ddefnyddwyr   Technegol Angenrheidiol ar gyfer diffinio’r mathau o ddefnyddwyr ar ein safle, ar gyfer sicrhau bod ein gwefan yn cael ei diweddaru a’i bod yn berthnasol, ar gyfer datblygu ein busnes ac ar gyfer llywio ein strategaeth farchnata
Gwneud awgrymiadau ac argymhellion am wasanaethau neu straeon newyddion a allai fod o ddiddordeb i chi  (a) Adnabod
(b) Cyswllt
(c) Technegol
(d) Proffil
Angenrheidiol ar gyfer gwella wella ein gwasanaethau
Hawliadau Yswiriant Atebolrwydd Cyfreithiol (a) Adnabod
(b) Cyswllt
(c) Technegol
(d) Proffil
Wrth wneud cais am anaf personol yn erbyn Trafnidiaeth Cymru mae angen gwybodaeth hunaniaeth ychwanegol er mwyn cofrestru'r hawliad gyda'r Uned Adfer Iawndal.  Bydd hyn yn cynnwys dyddiad geni a rhif yswiriant gwladol.   Caiff yr wybodaeth hon ei rhannu gyda'r Claims Underwriting Exchange (CUE), y Motor Insurers Bureau (MIB) a chwmnïau adnabod a chanfod twyll eraill wrth atal a chanfod twyll yswiriant.  Mae gan Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu polisi dim goddefgarwch tuag at dwyll yswiriant, a gellir rhannu data personol hefyd gyda'r Insurance Fraud Bureau (IFB) neu'r heddlu ac asiantaethau troseddau eraill i ganfod ac atal twyll

 

Marchnata trydydd parti

Byddwn yn cael eich cydsyniad optio i mewn pendant cyn rhannu eich data personol ag unrhyw gwmni y tu allan i Drafnidiaeth Cymru at ddibenion marchnata.

 

Optio allan

Gallwch ofyn i ni neu i drydydd partïon roi’r gorau i anfon negeseuon marchnata neu ddiweddariadau e-bost atoch ar unrhyw adeg drwy ddilyn y dolenni optio allan ar unrhyw neges farchnata sy’n cael ei hanfon atoch, neu drwy gysylltu â ni ar unrhyw adeg dros e-bost ar contact@tfw.wales.

 

Cwcis

Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis i wahaniaethu rhyngoch chi a defnyddwyr eraill ein gwefan. Mae hyn yn ein helpu ni i roi profiad da i chi pan fyddwch yn pori ar ein gwefan ac mae’n ein galluogi ni i wella ein gwefan.

Mae ein Hysbysiad Cwcis i’w weld ar tfw.gov.wales/cookies.

 

4. Datgelu eich data personol

Efallai y bydd yn rhaid i ni rannu eich data â’r partïon a nodir isod at y dibenion a nodir yn y tabl uchod:

Darparwyr gwasanaethau sy’n gweithredu fel prosesyddion yn y Deyrnas Unedig sy’n darparu

  • gwasanaethau i gwsmeriaid, gwasanaethau TG a gwasanaethau gweinyddu systemau. 
  • Cynghorwyr proffesiynol sy’n gweithredu fel prosesyddion neu gyd-reolyddion yn cynnwys cyfreithwyr, bancwyr, archwilwyr ac yswirwyr yn y Deyrnas Unedig sy’n darparu gwasanaethau ymgynghori, bancio, cyfreithiol, yswiriant a chyfrifyddu.
  • Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, rheoleiddwyr ac awdurdodau eraill sy’n gweithredu fel prosesyddion neu gyd-reolyddion yn y Deyrnas Unedig sy’n mynnu adroddiadau am weithgareddau prosesu mewn rhai amgylchiadau.
  • Trydydd partïon y cawn ddewis gwerthu, trosglwyddo neu gyfuno rhannau o’n busnes neu ein hasedau â nhw.  Fel arall, cawn fynd ati i gaffael busnesau eraill neu uno â nhw. Os bydd ein busnes yn newid, caiff y perchnogion newydd ddefnyddio eich data personol yn yr un modd ag sydd wedi’i nodi yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.

Rydym yn gofyn i’r holl drydydd partïon barchu diogelwch eich data personol a'u trin yn unol â’r gyfraith. Nid ydym yn caniatáu i'n darparwyr gwasanaethau trydydd parti ddefnyddio eich data personol at eu dibenion eu hunain, a dim ond at ddibenion a nodir ac yn unol â’n cyfarwyddiadau yr ydym yn caniatáu iddynt brosesu eich data personol.

 

5. Trosglwyddiadau rhyngwladol

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae eich data personol yn cael ei storio’n ddiogel yn y Deyrnas Unedig.

Mae rhai o’n trydydd partïon allanol wedi’u lleoli y tu allan i’r Deyrnas Unedig felly, pan fyddant yn prosesu eich data personol, bydd hynny’n golygu trosglwyddo data y tu allan i’r DU.

Os ydym yn trosglwyddo eich data personol y tu allan i'r DU, byddwn yn sicrhau bod yr un graddau o ddiogelwch yn cael eu rhoi i’r data drwy wneud yn siŵr bod o leiaf un o’r mesurau diogelwch canlynol yn cael ei roi ar waith:

Dim ond i wledydd y mae Llywodraeth y DU yn credu eu bod yn darparu digon o ddiogelwch i ddata personol y byddwn yn trosglwyddo eich data personol. I gael rhagor o fanylion, darllenwch ganllawiau Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth y DU ar ddigonolrwydd.

Efallai y byddwn hefyd yn trosglwyddo eich data personol i wledydd lle nad oes penderfyniad ynghylch digonolrwydd wedi’i wneud, a phan fydd hynny’n wir, dim ond o dan ddiogelwch cymalau contract safonol (SCC) yn unol â rheoliadau rhannu data rhyngwladol y byddwn yn gwneud hynny.

 

6. Diogelu data

Rydym wedi rhoi mesurau diogelwch priodol ar waith er mwyn atal eich data personol chi rhag cael eu colli, eu defnyddio, eu cyrchu, eu newid neu eu datgelu ar ddamwain mewn modd heb ei awdurdodi. Hefyd, rydym yn cyfyngu mynediad at eich data personol i'r cyflogwyr, yr asiantaethau, y contractwyr a'r trydydd partïon eraill hyn y mae angen iddynt eu gweld at ddibenion busnes.  Dim ond yn unol â'n cyfarwyddiadau ni y byddant yn prosesu eich data personol, ac mae dyletswydd arnynt mewn cysylltiad â chyfrinachedd.

Rydyn ni wedi sefydlu gweithdrefnau i ddelio ag unrhyw amheuaeth o dorri amodau data personol a byddwn yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol ynglŷn ag achos o dorri amodau, lle mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni wneud hynny.

 

7. Cadw data

Am ba hyd fyddwch chi'n defnyddio fy nata personol?

Dim ond am yr amser sydd ei angen i gyflawni’r pwrpas y cafodd eu casglu ar ei gyfer y byddwn yn cadw eich data personol, gan gynnwys at ddibenion bodloni unrhyw ofynion cyfreithiol, cyfrifyddu neu adrodd.

I bennu beth ydy'r cyfnod priodol i gadw eich data personol, byddwn yn ystyried swm, natur a sensitifrwydd y data personol, y risg bosibl o niwed o ganlyniad i ddatgelu neu ddefnyddio eich data personol heb awdurdod, y dibenion rydym yn prosesu eich data personol ar eu cyfer, ac a allem gyflawni'r dibenion hynny mewn ffyrdd eraill, yn ogystal â'r gofynion cyfreithiol perthnasol.

Gallwch ofyn i ni ddileu eich data mewn rhai amgylchiadau: gweler Gofyn am ddileu isod am fwy o wybodaeth.

Mewn rhai amgylchiadau, efallai y byddwn yn gwneud eich data personol yn ddienw (fel nad oes modd eu cysylltu â chi) at ddibenion ymchwil neu ystadegol, a gallwn ddefnyddio’r wybodaeth hon yn y modd hwn am gyfnod amhenodol heb roi gwybod i chi.

 

8. Eich hawliau cyfreithiol

Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych hawliau o dan ddeddfau diogelu data mewn cysylltiad â’ch data personol.

Mae gennych hawl i wneud y canlynol:

  • Gofyn am fynediad at eich data personol (gelwir hyn yn "gais gwrthrych am wybodaeth" fel arfer). Mae hyn yn eich galluogi chi i gael copi o'r data personol sydd gennym amdanoch chi ac i wneud yn siŵr ein bod yn eu prosesu’n unol â'r gyfraith. 
  • Gofyn am gywiro'r data personol sydd gennym amdanoch chi. Mae hyn yn eich galluogi chi i gywiro unrhyw ddata anghyflawn neu anghywir sydd gennym amdanoch chi, ond bydd angen i ni ddilysu cywirdeb y data newydd rydych yn eu rhoi i ni efallai.
  • Gofyn am ddileu eich data personol.  Mae hyn yn eich galluogi chi i ofyn i ni ddileu neu gael gwared ar ddata personol nad oes rheswm da dros barhau i'w prosesu. Hefyd, mae gennych hawl i ofyn i ni ddileu neu gael gwared ar eich data personol os ydych wedi llwyddo i arfer eich hawl i wrthwynebu prosesu (gweler isod), lle rydym wedi prosesu eich gwybodaeth yn anghyfreithlon efallai neu lle mae’n rhaid i ni ddileu eich data personol er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith leol. Sylwch, fodd bynnag, mae’n bosibl na fyddwn yn gallu cydymffurfio â’ch cais i ddileu bob amser, a hynny am resymau cyfreithiol penodol. Os felly, byddwn yn rhoi gwybod i chi am y rhesymau hynny pan fyddwch yn gwneud cais.
  • Gwrthwynebu prosesu eich data personol lle rydym yn dibynnu ar fuddiant cyfreithiol (neu fuddiannau cyfreithiol trydydd parti) a bod rhywbeth am eich sefyllfa benodol sy'n gwneud i chi fod eisiau gwrthwynebu prosesu ar y sail hon oherwydd eich bod yn credu ei bod yn effeithio ar eich hawliau a’ch rhyddid sylfaenol. Hefyd, mae gennych hawl i wrthwynebu lle ein bod yn prosesu eich data personol at ddibenion marchnata uniongyrchol. Mewn rhai achosion, cawn ddangos bod gennym sail gyfreithiol gadarn dros broses eich gwybodaeth sy’n drech na’ch hawliau a’ch rhyddid.
  • Gofyn am gyfyngu ar brosesu eich data personol. Mae hyn yn eich galluogi chi i ofyn i ni oedi’r gwaith o brosesu eich data personol dan yr amgylchiadau canlynol: (a) os ydych am i ni sefydlu cywirdeb y data; (b) os ydym wedi defnyddio'r data’n anghyfreithlon ond nid ydych am i ni eu dileu; (c) os ydych angen i ni ddal y data er nad oes eu hangen arnom mwyach gan fod angen y data arnoch i sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol; neu (d) os ydych wedi gwrthwynebu ein bod yn defnyddio eich data ond bod yn rhaid i ni ddilysu a oes gennym sail gyfreithiol drech i'w defnyddio.
  • Gofyn am drosglwyddo eich data personol i chi neu i drydydd parti.  Byddwn yn rhoi eich data personol i chi neu i drydydd parti rydych wedi’i ddewis mewn fformat wedi’i strwythuro, sy’n cael ei ddefnyddio’n aml, ac y gellir ei ddarllen gan beiriant. Sylwch mai dim ond i wybodaeth awtomataidd y rhoddoch ganiatâd i ni ei defnyddio yn y lle cyntaf, neu i wybodaeth yr ydym wedi ei defnyddio i gyflawni contract gyda chi, y mae'r hawl hon yn berthnasol.
  • Tynnu cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg lle rydym yn dibynnu ar gydsyniad i brosesu eich data personol.  Fodd bynnag, ni fydd hyn yn effeithio ar gyfreithlondeb unrhyw waith prosesu a wneir cyn i chi dynnu'ch cydsyniad yn ôl. Os byddwch yn tynnu’ch cydsyniad yn ôl, mae’n bosibl na fyddwn yn gallu darparu ambell gynnyrch neu wasanaeth i chi. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am hynny pan fyddwch yn tynnu’ch cydsyniad yn ôl.

Os ydych yn dymuno arfer unrhyw un o’r hawliau a nodir uchod, cysylltwch â ni.

 

Fel arfer, nid oes angen talu ffi

Ni fydd rhaid i chi dalu ffi i gael mynediad at eich data personol (nac i arfer unrhyw un o'ch hawliau eraill).  Fodd bynnag, efallai y byddwn yn codi ffi resymol os ydy eich cais yn amlwg yn ddi-sail, yn ailadroddus neu’n ormodol. Fel arall, gallem wrthod cydymffurfio â'ch cais mewn amgylchiadau o'r fath.

 

Efallai y byddwn angen y canlynol gennych chi 

Efallai y bydd angen i ni ofyn am wybodaeth benodol gennych chi er mwyn ein helpu ni i gadarnhau eich manylion adnabod a sicrhau bod gennych chi hawl i gael mynediad at eich data personol (neu i arfer unrhyw un o'ch hawliau eraill). Mesur diogelwch ydy hwn er mwyn sicrhau na chaiff data personol eu datgelu i unrhyw un nad oes ganddo hawl i'w cael. Efallai y byddwn hefyd yn cysylltu â chi i ofyn am fwy o wybodaeth mewn cysylltiad â'ch cais er mwyn i ni allu ymateb yn gynt.

 

Cyfyngiad amser ar gyfer ymateb

Rydym yn gwneud ein gorau i ymateb i bob cais dilys cyn pen un mis. Weithiau, gall gymryd hirach na mis os ydy eich cais yn arbennig o gymhleth neu eich bod wedi gwneud mwy nag un cais.  Yn yr achos hwnnw, byddwn yn rhoi gwybod i chi ac yn rhoi diweddariadau i chi.