Teithio ar y môr o Gymru i Iwerddon? Mynd ar fws dŵr?
Gall ein trenau fynd â chi i borthladdoedd Caergybi, Doc Penfro ac Abergwaun, felly gallwch ymlacio ar y daith i derfynfa’r fferi.
Hefyd, gallwch gyfuno eich teithiau trên a fferi gydag un tocyn RheilHwylio.
-
Caergybi
-
Mae ein gwasanaethau’n rhedeg rhwng Caerdydd Canolog a Chaer i Caergybi.
-
-
Doc Penfro
-
Mae ein trenau’n rhedeg o Abertawe a Chaerfyrddin i Ddoc Penfro.
Mae’r orsaf drenau tua milltir i ffwrdd o’r porthladd ac mae modd mynd yno ar droed neu mewn tacsi.
-
-
Abergwaun
-
Mae trenau’n rhedeg yn uniongyrchol i Harbwr Abergwaun o orsaf Caerdydd Canolog, Abertawe a Manceinion Piccadilly.
-
-
Teithio ar fws dŵr
-
Mae’r Aquabus yn rhedeg gwasanaeth bws dŵr bob awr rhwng tir Castell Caerdydd yng nghanol y ddinas a Mermaid Quay ym Mae Caerdydd. Mae’r cwch yn addas ar gyfer teithwyr sydd â chadeiriau olwyn, pramiau a beiciau.
Mae hefyd yn cynnig teithiau o amgylch Bae Caerdydd, sy’n mynd o gwmpas Mermaid Quay, gwarchodfa natur y gwlypdiroedd a’r Morglawdd. Mae’n ffordd wych o ymlacio a mwynhau golygfeydd hardd.
Am ragor o wybodaeth, ewch i:
-