Ad-daliad tocynnau

Bydd yr ad-daliad yn dibynnu ar y math o docyn sydd gennych chi. Dewiswch y math o docyn sydd gennych chi yma:

Tocynnau Advance - Archebu gyda hyder

Tocynnau Unrhyw Bryd, Cyfnodau Tawelach a Chyfnodau Tawelach Fyth

Tocynnau tymor

Teithiau Busnes

Talebau teithio National Rail

Cardiau Rheilffordd

Payzone

Er mwyn helpu ein cwsmeriaid i gadw pellter cymdeithasol, rydyn ni wedi rhoi systemau ar waith i chi gael gwneud cais am ad-daliadau o bell, er mwyn lleihau cyswllt rhwng teithwyr a staff. Fodd bynnag, efallai y bydd yn cymryd hyd at 30 diwrnod i brosesu eich ad-daliad.

 

Tocynnau Advance

  • Bydd modd cyfnewidadwy tocynnau Advance yn unol â’r cynllun “Archebu gyda hyder”, h.y. gellir eu newid hyd at 18:00 ar y noson cyn teithio.
  • Does dim modd rhoi ad-daliad am eich tocyn. Fodd bynnag, os oedd y trên roeddech chi wedi prynu tocyn ar ei gyfer wedi cael ei ganslo neu’n hwyr a'ch bod yn penderfynu peidio â theithio oherwydd hynny, bydd ad-daliad yn cael ei gynnig ar gyfer tocynnau heb eu defnyddio. Ni chodir ffi weinyddol arnoch chi.
  • Er nad oes modd cael ad-daliad am Docynnau Advance yn y rhan fwyaf o achosion, gallwch chi newid eich siwrnai cyn teithio (hyd at yr amser gadael) am ffi o £10.00 ynghyd ag unrhyw wahaniaeth yng nghost y tocyn. Serch hynny, os byddwch chi’n dewis (pan fydd cynnig i chi wneud hynny) argraffu eich tocynnau gartref neu eu llwytho i lawr i’ch dyfais symudol. Bydd rheolau gwahanol yn berthnasol ac felly efallai na fydd modd i chi newid eich tocyn. Bydd yr amodau perthnasol yn cael eu hegluro’n glir pan fyddwch chi’n prynu eich tocyn.
  • Rydw i eisiau canslo fy nhaith a chael ad-daliad
    • Wedi’u prynu gan TrC Ar-lein

    • Os ydych chi eisoes wedi eu casglu yna postiwch eich tocyn gyda'ch enw, cyfeiriad a sylwadau ychwanegol i:
    • Rhadbost
      CAIS AM AD-DALIAD – RHEILFFYRDD TrC 
    • Os nad ydych yn gallu gweld eich archeb, anfonwch e-bost i: customer.relations@tfwrail.wales
       


    • Wedi'u prynu mewn Gorsaf TrC neu Beiriant Gwerthu Tocynnau

    • Os oeddech chi wedi prynu eich tocynnau yn un o’n gorsafoedd neu drwy beiriant gwerthu tocynnau a'ch bod eisiau gwneud cais am ad-daliad, postiwch eich tocynnau gyda’ch enw a’ch cyfeiriad i:
      Rhadbost 
      CAIS AM AD-DALIAD – RHEILFFYRDD TrC


      Fel arall, gallwch ymweld ag un o’n swyddfeydd tocynnau sydd â staff.
  • Rydw i eisiau newid fy nhocyn
    • Wedi’u prynu gan TrC Ar-lein

      Er mwyn newid eich tocyn ffoniwch ni ar 03333 211 202 a dewis opsiwn 2.

    • Rydyn ni ar agor 24/7 bob dydd (ac eithrio Dydd Nadolig a Gŵyl San Steffan).
      Codir cost cyfraddau lleol ar alwadau i'n rhif o ffonau BT.



      Wedi'u prynu mewn Gorsaf TrC neu Beiriant Gwerthu Tocynnau

      Os oeddech chi wedi prynu eich tocynnau yn un o’n gorsafoedd neu drwy beiriant gwerthu tocynnau a'ch bod eisiau gwneud cais am ad-daliad, postiwch eich tocynnau gyda’ch enw a’ch cyfeiriad i:
      Rhadbost
      CAIS AM AD-DALIAD – RHEILFFYRDD TrC

      Fel arall, gallwch ymweld ag un o’n swyddfeydd tocynnau sydd â staff.

  • Archebu gyda hyder
    • Cyhoeddodd y Rail Delivery Group (RDG) y bydd amodau tocynnau Advance (Ymlaen Llaw) cenedlaethol arferol yn cael eu hadfer o 01 Rhagfyr 2022, gan ddod â’r cynllun Archebu gyda Hyder presennol i ben.

    •  

    • Er mai bwriad gwreiddiol y Cynllun Archebu â Hyder oedd adfer hyder mewn teithio pan gafodd y cyfyngiadau eu llacio yn ystod y pandemig, bellach, mae angen cynnal hyder yn sgil gweithredu diwydiannol parhaus, ynghyd ag effaith costau byw i hyder defnyddwyr yn ehangach.  Felly, bydd Trafnidiaeth Cymru yn parhau â'r Cynllun Archebu â Hyder tan 30 Mehefin 2023. Fodd bynnag, mae'r opsiwn i gwsmeriaid gyfnewid eu tocyn Advance am daleb teithio wedi'i ddileu.

    •  

    • Golyga hyn y gall cwsmeriaid barhau i ail-archebu eu tocynnau Advance o fewn cyfyngiadau ein cyfnod archebu 6 wythnos.

    •  

    • Bydd y telerau ac amodau hyn ond yn berthnasol i gwsmeriaid sydd wedi prynu drwy sianeli gwerthu y mae TrC yn berchen arnynt.

    •  

      • Newid taith heb ffi – Bydd yn dal yn ofynnol i gwsmeriaid dalu unrhyw wahaniaeth yn y pris, a rhaid gwneud newidiadau erbyn 18:00 y diwrnod cyn teithio; rhaid i darddiad a chyrchfan y daith wreiddiol aros yr un fath, ond caniateir i'r cwsmer newid y dyddiad a'r amser i deithio ar wasanaeth neu ddiwrnod arall.

      • Bydd newidiadau i docynnau Advance ar ôl yr amser hwn yn amodol ar delerau ac amodau arferol ymlaen llaw o ran newid taith; caniateir newidiadau hyd at ymadawiad y gwasanaeth a archebwyd gyntaf, ond bydd ffioedd arferol yn berthnasol, ac mae unrhyw newidiadau a wneir i docynnau Advance ar ôl i'r gwasanaeth a archebwyd gyntaf ddod i ben yn annilys.

      • Nid yw'r newid hwn yn effeithio ar bolisïau ad-daliad.  Mae'r newid hwn yn caniatáu cyfnewid tocynnau Advance am daith wahanol, a chaniateir ad-daliadau ar docynnau Advance dim ond os caiff y gwasanaeth gwreiddiol ei ohirio neu ei ganslo, ac nad yw'r cwsmer yn dymuno teithio mwyach.

      • Gall cwsmeriaid sydd â thocynnau nad ydynt yn docyn Advance barhau i newid eu tocynnau i deithio ar adeg arall heb dalu ffi.

Tocynnau Unrhyw Bryd, Cyfnodau Tawelach a Chyfnodau Tawelach Fyth

  • Bydd modd i’r rheini sy’n berchen ar docyn Unrhyw Bryd, tocyn Cyfnodau Tawelach, neu docyn Cyfnodau Tawelach Fyth, gael ad-daliad heb dalu ffi am docynnau a brynwyd cyn 9 Medi 2022. Bydd y ffi weinyddol o hyd at £10 yn cael ei diystyru.
  • Rydw i eisiau canslo fy nhaith a chael ad-daliad
    • Os byddwch chi’n prynu Tocyn ac yna’n dewis peidio â theithio, cewch wneud cais am ad-daliad gan yr adwerthwr neu’r Cwmni Trên gwreiddiol y gwnaethoch chi brynu’r tocyn ganddo, oni bai fod telerau ac amodau eich Tocyn (Tocynnau Advance er enghraifft) yn dangos nad oes modd ei ad-dalu. Rhaid i chi wneud cais am ad-daliad cyn pen 28 diwrnod fan bellaf ar ôl i’r Tocyn ddod i ben.
    • Wedi’u prynu gan TrC Ar-lein

    • Os ydych chi eisoes wedi eu casglu yna postiwch eich tocyn gyda'ch enw, cyfeiriad a sylwadau ychwanegol i:
      Rhadbost 
      CAIS AM AD-DALIAD – RHEILFFYRDD TrC


      Os nad ydych yn gallu gweld eich archeb, anfonwch e-bost i: customer.relations@tfwrail.wales
       

    • Wedi'u prynu mewn Gorsaf TrC neu Beiriant Gwerthu Tocynnau

    • Os oeddech chi wedi prynu eich tocynnau yn un o’n gorsafoedd neu drwy beiriant gwerthu tocynnau a'ch bod eisiau gwneud cais am ad-daliad, postiwch eich tocynnau gyda’ch enw a’ch cyfeiriad i:
      Rhadbost 
      CAIS AM AD-DALIAD – RHEILFFYRDD TrC


      Fel arall, gallwch ymweld ag un o’n swyddfeydd tocynnau sydd â staff.
  • Rydw i eisiau newid fy nhocyn
    • Ni chodir unrhyw ffioedd gweinyddol am unrhyw geisiadau am ad-daliad ar gyfer teithiau rhwng 22 Rhagfyr a 7 Ionawr.

      Wedi’u prynu gan TrC Ar-lein

      Er mwyn newid eich tocyn ffoniwch ni ar 03333 211 202 a dewis opsiwn 2.

    • Rydyn ni ar agor 24/7 bob dydd (ac eithrio Dydd Nadolig a Gŵyl San Steffan).
      Codir cost cyfraddau lleol ar alwadau i'n rhif o ffonau BT.



      Wedi'u prynu mewn Gorsaf TrC neu Beiriant Gwerthu Tocynnau

      Os oeddech chi wedi prynu eich tocynnau yn un o’n gorsafoedd neu drwy beiriant gwerthu tocynnau a'ch bod eisiau gwneud cais am ad-daliad, postiwch eich tocynnau gyda’ch enw a’ch cyfeiriad i:
      Rhadbost
      CAIS AM AD-DALIAD – RHEILFFYRDD TrC

      Fel arall, gallwch ymweld ag un o’n swyddfeydd tocynnau sydd â staff.

 

Tocynnau Tymor

  • Os byddwch chi’n prynu Tocyn ac yna’n dewis peidio â theithio, cewch wneud cais am ad-daliad gan yr adwerthwr neu’r Cwmni Trên gwreiddiol y gwnaethoch chi brynu’r tocyn ganddo, oni bai fod telerau ac amodau eich Tocyn (Tocynnau Advance er enghraifft) yn dangos nad oes modd ei ad-dalu. Rhaid i chi wneud cais am ad-daliad cyn pen 28 diwrnod fan bellaf ar ôl i’r Tocyn ddod i ben.
  • Gallwn ad-dalu tocynnau tymor unrhyw bryd a byddwn yn cyfrifo'r swm i’w ad-dalu yn ôl y gwerth sydd ar ôl ar eich tocyn. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy dynnu gwerth unrhyw docynnau eraill y gallech fod wedi’u defnyddio i deithio yn yr un cyfnod tan i chi roi’r gorau i ddefnyddio eich tocyn tymor.
  • Yn gyffredinol gallwn roi ad-daliad i chi os oes:
    1. Saith diwrnod (neu fwy) ar ôl ar y Tocyn Tymor sy'n ddilys am un i ddeg mis
    2. Tri diwrnod (neu fwy) ar ôl ar Docyn Tymor wythnosol
    3. Ar gyfer Tocyn Tymor blynyddol, efallai na fydd gwerth ariannol ar ôl arno os yw’n cael ei ildio yn ystod y ddau fis olaf cyn iddo ddod i ben. Does dim gwerth ad-daliad i docynnau Tymor Blynyddol ar ôl 10 mis a 12 diwrnod, ond maen nhw’n dal yn ddilys i deithio nes daw’r dyddiad i ben, a gallwch barhau i fwynhau unrhyw fuddion Cerdyn Aur gyda nhw
  • Defnyddiwch y Cyfrifiannell Ad-daliad Tocynnau i gyfrifo swm yr ad-daliad ar gyfer eich tocyn
  • Bydd y polisi ad-daliad am docyn tymor arferol yn parhau i fod yn berthnasol, ond mae'r ffi weinyddol o £10.00 wedi cael ei dileu oddi ar archebion ar-lein.

Ble wnaethoch chi brynu eich Tocyn Tymor?

  • Ar-lein drwy wefan TrC neu Ap TrC
    • Papur

    • Os ydych chi eisoes wedi eu casglu yna postiwch eich tocyn gyda'ch enw, cyfeiriad a sylwadau ychwanegol i:
      Rhadbost 
      CAIS AM AD-DALIAD – RHEILFFYRDD TrC

    • Cerdyn Clyfar

    • Anfonwch neges e-bost i customersupport@tfwrail.wales gyda’r wybodaeth ganlynol:

      • Rhif eich Cerdyn Clyfar

      • Yr enw a'r cyfeiriad e-bost a ddefnyddir ar eich cyfrif gwe

      • Y daith sy’n cael ei dangos ar eich tocyn tymor, a’r

      • Dyddiad pan wnaethoch chi deithio ddiwethaf.

  • Wyneb yn wyneb mewn gorsaf TrC neu drwy beiriant gwerthu tocynnau
    • Papur

    • Ewch â’ch tocyn i swyddfa docynnau mewn gorsaf sydd â staff neu ei bostio gyda’ch enw, eich cyfeiriad a’r dyddiad pan wnaethoch chi deithio ddiwethaf i:
      Rhadbost
      CAIS AM AD-DALIAD – RHEILFFYRDD TrC

    • Cerdyn Clyfar

    • Anfonwch neges e-bost i customer.relations@tfwrail.wales gyda’r wybodaeth ganlynol:

      • Eich enw a’ch cyfeiriad post llawn,

      • Yr enw a’r rhif ar eich cerdyn clyfar,

      • Y daith y mae eich tocyn yn ddilys ar ei chyfer, a'r

      • Dyddiad pan wnaethoch chi deithio ddiwethaf.

 

Teithiau Busnes

Os byddwch chi’n prynu Tocyn ac yna’n dewis peidio â theithio, cewch wneud cais am ad-daliad gan yr adwerthwr neu’r Cwmni Trên gwreiddiol y gwnaethoch chi brynu’r tocyn ganddo, oni bai fod telerau ac amodau eich Tocyn (Tocynnau Advance er enghraifft) yn dangos nad oes modd ei ad-dalu. Rhaid i chi wneud cais am ad-daliad cyn pen 28 diwrnod fan bellaf ar ôl i’r Tocyn ddod i ben.

Os ydych chi wedi archebu eich tocyn drwy ein tîm teithiau busnes, cysylltwch â nhw dros e-bost.

business.bookings@tfwrail.wales

Peidiwch â thorri eich tocyn tymor corfforaethol

 

Talebau teithio National Rail

Mae cwsmeriaid sydd â thalebau teithio National Rail, a ddaeth i ben rhwng 20 Hydref 2020 a 30 Mehefin 2021, wedi cael chwe mis yn ychwanegol ar ôl eu dyddiad dod i ben gwreiddiol i’w defnyddio. Mae hyn yn golygu bod taleb Teithio National Rail, a oedd i fod i ddod i ben ar 30 Mehefin 2021, nawr yn ddilys hyd at 30 Rhagfyr 2021.

Gellir defnyddio talebau teithio National Rail tuag at gost tocynnau trên yn ein swyddfeydd tocynnau. 

 

Cardiau Rheilffordd

  • Cardiau Rheilffordd Cenedlaethol
      • 16-17 Saver
      • Cerdyn rheilffordd 16-25
      • Cerdyn rheilffordd 26-30
      • Cerdyn Rheilffordd Pobl Anabl
      • Cerdyn Rheilffordd Teulu a Ffrindiau
      • Cerdyn Rheilffordd Network
      • Cerdyn Rheilffordd Pobl Hŷn
      • Cerdyn Rheilffordd i Ddau Berson (Two Together)
    •  
    • Dylai cwsmeriaid gysylltu'n uniongyrchol â National Rail i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch dilysrwydd Cardiau Rheilffordd yma https://www.railcard.co.uk/contact-us/
  • Cardiau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru
      • Calon Cymru
      • Pobl Hŷn y Cymoedd
      • Myfyrwyr y Cymoedd a Llwybrau Lleol Caerdydd
      • Cerdyn Rheilffordd y Cambrian
      • Cerdyn Rheilffordd Sir Benfro
      • Cerdyn Rheilffordd 18 Saver
      • Cerdyn Rheilffordd Myfyrwyr
    •  
    • Mae’r estyniad o chwe mis i bob cerdyn rheilffordd TrC a brynwyd cyn 17 Mawrth 2020 bellach wedi dod i ben.

Prynais fy nhocyn mewn siop Payzone ac rydw i eisiau ad-daliad.

Os byddwch yn dychwelyd i’r siop Payzone cyn pen 30 munud o brynu eich tocyn, gallwch gael ad-daliad llawn heb dalu ffi weinyddol. Ond os oes mwy na 30 munud wedi mynd heibio ers i chi brynu’r tocyn, bydd rhaid i chi dalu isafswm o £10 beth bynnag fo gwerth y tocyn. Os yw gwerth y tocyn yn llai na £10, ni fyddwch chi’n cael ad-daliad. Dim ond mewn siopau Payzone y gellir cael ad-daliadau ar gyfer tocynnau Payzone. Does dim uchafswm ar werth tocyn y gellir cael ad-daliad ar ei gyfer.