Ble mae fy nhrên?

Gallwch wirio a yw eich trên yn rhedeg ar amser a dod o hyd i fanylion unrhyw newidiadau i’n gwasanaethau ar ap TrC neu wefan Journey Check.

 

Rwy'n cwrdd â rhywun yn yr orsaf. Sut alla i wirio a yw'r trên ar amser?

Gallwch wirio ymadawiadau byw a chyrraeddiad yn ein gorsafoedd.

 

A oes unrhyw waith peirianneg yn effeithio ar fy nhaith?

Gallwch ddod o hyd i fanylion ein gwaith gwella arfaethedig ar y rhwydwaith ar gyfer y 12 wythnos nesaf.

 

Effeithiwyd ar fy nhaith gan aflonyddwch. Sut gallwch chi helpu?

Os byddwch yn cyrraedd eich gorsaf gyrchfan 15 munud neu fwy yn hwyrach nag a drefnwyd oherwydd bod un o'n trenau yn hwyr neu wedi'i ganslo am unrhyw reswm, gallwch wneud cais am iawndal Ad-dalu Oedi.

Wedi penderfynu peidio â theithio oherwydd yr aflonyddwch? Gallwch ofyn am ad-daliad yn lle hynny.

 

Angen siarad â ni? Rydyn ni yma i helpu.

Cysylltwch â'n tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid

Gallwn helpu gydag unrhyw beth o ddod o hyd i'r llwybr gorau ar gyfer eich taith i roi gwybod i chi am aflonyddwch i gefnogaeth gyda newid eich tocynnau neu hawlio iawndal.

Ar gyfryngau cymdeithasol

Fel arfer byddwn yn ateb o fewn 10 munud ac rydym yma i'ch helpu saith diwrnod yr wythnos. Gweler ein hamseroedd gwasanaeth isod.

Sgwrsio ar WhatsApp 07790 952 507

Dydd Llun i Dydd Gwener: 07:00 - 20:00
Dydd Sadwrn: 08:00 - 20:00
Dydd Sul: 11:00 - 20:00

X @tfwrail

Dydd Llun i Dydd Gwener: 07:00 - 20:00
Dydd Sadwrn: 08:00 - 20:00
Dydd Sul: 11:00 - 20:00

Dros y ffôn

Gallwch ein ffonio 24/7 bob dydd (ac eithrio Dydd Nadolig a Gŵyl San Steffan)
Os yw’n well gennych siarad â ni yn Gymraeg, ffoniwch 03333 211 202 a dewiswch opsiwn 1.
Codir tâl am alwadau i'n rhif ar gyfradd leol o ffôn BT.

 

03333 211 202

Cwestiynau cyffredin

Eisiau gwybod rhagor ynghylch sut rydyn ni’n delio ag achosion o oedi, torri i lawr, newidiadau i wasanaethau, a phroblemau.

Pam fod fy nhrên yn hwyr, yn cael ei ganslo neu ei gyfnewid am fws?

Gall fod llawer o resymau posibl pam fod eich trên yn hwyr, yn cael ei ganslo neu gyfnewid am fws, a’r rhan fwyaf o’r amser mae hyn y tu hwnt i reolaeth Trafnidiaeth Cymru.

1. Y tywydd - gall dail, llifogydd ac eira ar y cledrau effeithio ar wasanaethau.
2. Rhwystr ar y cledrau: Anifeiliaid, Tresmasu, coed wedi cwympo
3. Fandaliaeth fel ceblau wedi'u dwyn 
4. Toriad yn y cyflenwad pŵer i offer wrth ochr y rheilffordd. Problem gyda seilwaith gorsafoedd megis toriad yn y cyflenwad pŵer neu dân.
5. Taro pontydd - cerbyd ar y ffordd yn taro sylfaen a/neu strwythur pont. 
6. Trenau eraill (cludo nwyddau neu deithwyr) ymhellach i lawr y rheilffordd yn hwyr neu wedi stopio.
7. Gwaith Peirianyddol yn para’n hirach na’r disgwyl - bydd Network Rail yn aml yn trefnu gwaith peirianyddol ar gledrau ac offer wrth ochr y rheilffordd yn ystod y nos ac ar benwythnosau, a all bara’n hirach o rai oriau.

Yn anaml iawn y bydd gwasanaethau trên yn rhedeg yn hwyr neu’n cael eu canslo oherwydd Trafnidiaeth Cymru, gallai hyn fod yn ddiffyg mecanyddol gyda thrên neu brinder staff. Rydyn ni’n gweithio’n galed i sicrhau’r oedi lleiaf bosibl, a dyna pam ein bod yn y 5 uchaf o holl weithredwyr rheilffyrdd y DU o ran prydlondeb a dibynadwyedd.

Rydyn ni’n wynebu costau ariannol am unrhyw oedi a achosir gennym, ac rydyn ni hefyd yn cydnabod yr effaith a gaiff hyn ar ein teithwyr gwerthfawr. Gellir gweld diweddariadau byw ar holl wasanaethau Trafnidiaeth Cymru, lle y gallwch hefyd gofrestru i gael rhybuddion am ddim ar e-bost a gwasanaethau eraill.

Beth yw eich polisi o ran darparu cludiant amgen?

Mewn rhai amgylchiadau, byddwn yn trefnu cludiant ar y ffyrdd ar eich cyfer, ac yn talu amdano, os bydd yn mynd â chi i’ch cyrchfan yn gynt o lawer na’r trên nesaf.

Bws neu dacsi a ddarperir fel arfer, os oes un ar gael sy’n cwrdd â’n safonau diogelwch a hygyrchedd. Yn aml mewn ardaloedd diarffordd ac ar amseroedd prysur, fel amser danfon i’r ysgol, mae’n anodd trefnu bws yn gyflym. Mae ein gwaith yn rhagori ar y rhwymedigaethau a nodir yn Amodau Teithio National Rail, y mae pob Cwmni Trên yn cydymffurfio â nhw. Mae’r manylion ar gael yma.

Ydy eich trenau bob amser yn aros am gysylltiadau?

Ydy i raddau

Mae gennym dîm o reolwyr sy’n rheoli effeithiau problemau, ac maen nhw’n cysylltu’n rheolaidd â chriw’r trenau, gorsafoedd a rheolwyr cwmnïau trenau eraill.

Bydd rheolwyr yn gwneud penderfyniadau o funud i funud ar bob cysylltiad ac maen nhw’n ystyried gweithrediad y rhwydwaith yn gyffredinol yn ogystal ag anghenion ein teithwyr.

Mae’r ffactorau y mae’n rhaid iddyn nhw eu hystyried yn cynnwys oedi i deithwyr sydd eisoes ar drên sy’n gorfod aros, y posibilrwydd o golli cysylltiadau eraill, pa gysylltiadau gwahanol sydd, a chanlyniadau eraill yn deillio o aros.

Rydyn ni hefyd yn ystyried y ffaith bod ein llwyddiant yn cael ei fesur gan lawer o bobl yn nhermau prydlondeb, yn syml iawn, ac felly mae cydbwysedd da rhwng cynnal cysylltiadau a chynnal ein prydlondeb yn rhywbeth rydym yn ymdrechu i’w gyflawni.

Teithio ymlaen neu ddigwyddiadau

Dylai teithwyr adael digon o amser ar gyfer teithio ymlaen neu ar gyfer cyrraedd/gadael digwyddiadau.

Os ydych chi'n dal awyren, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n caniatau digon o amser. Ar gyfer hedfan, rydym yn cynghori gofyn i'ch cwmni hedfan faint o amser sydd ei angen arnoch ar gyfer cofrestru.

Sut ydych chi'n delio â phroblemau ar wasanaethau?

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwybod bod darparu gwybodaeth am wasanaethau trên sy’n cael problemau yn flaenoriaeth i gwsmeriaid, ac mae’n faes rydyn ni’n canolbwyntio arno.

Mae’r diwydiant rheilffyrdd wedi cynhyrchu Cod Ymarfer Cymeradwy, sy’n nodi canllawiau lefel uchel ac arferion da o ran darparu gwybodaeth i gwsmeriaid yn ystod problemau. Mae Trenau Arriva Cymru’n defnyddio’r Cod Ymarfer hwn fel fframwaith ar gyfer darparu gwybodaeth amserol, gywir a chyson i gwsmeriaid yn ystod problem er mwyn iddyn nhw wneud penderfyniadau teithio ar sail gwybodaeth.

Gallwch ddarllen rhagor am hyn a sut mae’r diwydiant yn gwella’r ffordd mae’n darparu gwybodaeth i deithwyr yn ein Cynllun Lleol ar gyfer Gwybodaeth i Deithwyr yn ystod Problemau.

Gellir gweld canllawiau ac arfer da Cymdeithas y cwmnïau trên yn y Cod Ymarfer Cymeradwy.

Sut mae dail ar y rheilffordd yn effeithio ar drenau?

Meddyliwch am ddail ar y rheilffordd fel rhew du ar ffyrdd ac fe fyddwch chi’n dechrau deall natur y broblem.

Dydyn ni ddim yn sôn am dwmpathau o ddail crin, ond haen lithrig sy’n glynu i’r cledrau ac sy’n anodd iawn cael gwared â hi.

Yn fyr, dyma beth sy’n digwydd:
 

  • caiff dail eu sgubo ar y cledrau gan sgilwynt trenau sy’n mynd heibio
    glaw ysgafn yn disgyn
  • olwynion trên yn gwasgu’r dail gwlyb ar bwysedd o dros 30 tunnell y fodfedd sgwâr
  • mae hyn yn cywasgu ac yn carboneiddio’r dail, gan ffurfio haen galed, tebyg i Teflon, ar y cledrau.


Oherwydd hynny, rhaid i drenau deithio’n arafach i sicrhau diogelwch a lleihau’r posibilrwydd i’r olwynion lithro a throelli. Mae hyn yn golygu fod yn rhaid i yrwyr frecio’n gynt ar gyfer gorsafoedd a signalau a symud ymlaen eto yn arafach. O ganlyniad, gall fod oedi i wasanaethau trên. Os na all trên symud am na all yr olwynion gydio yn y cledrau, yn aml does dim llwybr amgen, felly bydd oedi i’r trenau sy’n dilyn, neu bydd yn rhaid iddyn nhw gael eu canslo.

Yn ogystal ag achosi problemau difrifol i gwsmeriaid, mae’r difrod a achosir i olwynion trenau yn ystod llithro a throelli ar gledrau’n sylweddol ac mae’n golygu fod yn rhaid i rai trenau gael eu hatal rhag gweithredu er mwyn gwneud gwaith atgyweirio drud. Gall y cledrau hefyd gael eu difrodi gan gostio miloedd o bunnoedd i’w hatgyweirio bob blwyddyn.

Gall dail sydd wedi cwympo darfu’n arw iawn ar wasanaethau rheilffordd - nid yma ym Mhrydain yn unig, ond ledled Ewrop ac yng Ngogledd America. Mae maint y broblem o ddail wedi cwympo a chost cadw gwasanaethau i redeg yn llyfn yn enfawr:
 

  • mae gan goeden aeddfed wrth ochr y rheilffordd rhwng 10,000 a 50,000 o ddail
  • bydd miloedd o dunelli o ddail yn cwympo ar reilffyrdd bob blwyddyn
  • mae 20,000 o filltiroedd o gledrau i'w cadw’n glir ym Mhrydain
  • mae’r gost flynyddol o atgyweirio difrod i drenau a chledrau o ganlyniad i ddail wedi cwympo dros £10 miliwn
  • mae rheoli llystyfiant wrth ochr rheilffyrdd yn costio dros £5 miliwn bob blwyddyn
  • mae torri coed mawr i lawr yn costio rhwng £20,000 a £50,000 y filltir.


Mae’n amhosibl rhagweld yn union pa bryd y bydd tymor cwympiad y dail yn dechrau nac am ba hyd y bydd yn para ond gall y tywydd fod yn arwydd o ba bryd y mae’n debygol o ddechrau a pha mor ddifrifol y mae’n debygol o fod ar gyfer y rheilffordd.

Bydd tymor difrifol o ddail yn cwympo yn dilyn haf gwlyb yn aml. Mae’n dechrau gyda rhew caled, yn cael ei ddilyn gan wyntoedd uchel a chyfnod o dywydd sych, sy’n achosi i lawer iawn o ddail gwympo dros gyfnod byr. Ond yn draddodiadol, mae’r hydref yn dymor o niwl a thywydd mwyn, sy’n ymestyn cwympiad y dail dros gyfnod hwy ac yn lleihau difrifoldeb y broblem.

Gwneud gwelliannau

Gallwch wirio manylion unrhyw waith arfaethedig a allai effeithio ar eich taith.

Beth ydych chi’n ei wneud i wella dibynadwyedd y seilwaith?

Rydyn ni’n trafod y seilwaith yn ddyddiol â Network Rail, sy’n ei ddarparu a’i gynnal, ac mae gennym gontract gyda nhw sy’n darparu iawndal pa fydd pethau’n mynd o chwith.

Mae iawndal yn ein helpu ni i dalu costau cludiant arall ac iawndal i’n teithwyr. Gellir gweld manylion y prosesau iawndal yn ein Siarter Teithwyr.

Rydyn ni’n disgwyl gweld gwerth am arian am ein taliadau i gael mynediad at y cledrau, ac rydyn ni eisiau gweld mwy o deithwyr yn cael eu denu gan ddibynadwyedd, yn hytrach nac iawndal gan Network Rail. Rydyn ni eisiau gweld dibynadwyedd gwell a gwelliannau eraill gydag offer hŷn yn cael ei ddisodli gan offer modern cyfatebol. Bydd pob digwyddiad unigol o ddiffyg dibynadwyedd yn cael ei nodi gennym ni a’i drafod â Network Rail, yn aml ar lefel uchel iawn.

Mae’r gwelliannau mawr hyn yn enghraifft wych o Network Rail yn gweithio'n galed i wella dibynadwyedd a chapasiti seilwaith y rheilffyrdd.

Pam mae eich trenau’n torri i lawr a beth ydych chi’n ei wneud ynghylch hyn?

Mae trenau’n beiriannau mecanyddol hynod gymhleth sydd â diogelwch o safon uchel iawn.

Bydd ein trenau yn cael yr hyn sy’n cyfateb i brawf “MOT” bob tri diwrnod, a llawer iawn o waith cynnal a chadw ataliol. Er hynny, maen nhw’n teithio hyd at 1000 o filltiroedd y diwrnod ac felly maen nhw weithiau’n torri i lawr, er eu bod wedi’u dylunio a’u hadeiladu i wneud milltiroedd o’r fath. Rydyn ni’n rhoi’r lle blaenaf i ddiogelwch bob amser, ac oherwydd hynny bydd trên weithiau’n cael eu tynnu o wasanaeth teithwyr am reswm a allai ymddangos yn eithafol i yrrwr car, fel sychwr ffenest diffygiol, er enghraifft.

Mae llawer o nodweddion diogelwch wedi’u cysylltu â drysau, signalau a brecio, a gallai unrhyw un o’r rhain achosi i drên gael ei dynnu o wasanaeth teithwyr os yw’n ddiffygiol. Er gwaethaf hynny, rydyn ni’n parhau i redeg un o’r fflydoedd mwyaf dibynadwy yn y DU gyda’r mathau o drenau yn ein fflyd yn perfformio orau yn y wlad yn rheolaidd, yn ôl y mesur ‘milltiroedd fesul diffyg’, sy’n edrych ar gyfartaledd y milltiroedd y mae trenau o fathau arbennig yn rhedeg cyn iddyn nhw dorri i lawr. Rydyn ni’n ennill gwobrau ‘Sbaner Aur’ y Diwydiant Rheilffyrdd yn rheolaidd am ddibynadwyedd ein fflyd.

Pam mae Network Rail yn cynllunio ac yn gwneud gwaith peirianyddol ar y rhwydwaith?

Mae Network Rail yn gyfrifol am y cledrau ac am y signalau sy’n ffurfio rhan o seilwaith y rheilffyrdd.

Er mwyn cynnal eu safonau uchel o ddiogelwch a dibynadwyedd, bob hyn a hyn mae’n rhaid iddyn nhw atal trenau rhag rhedeg fel y gall eu timau fynd ar y cledrau ac atgyweirio ac uwchraddio'r seilwaith. Gwneir hyn yn y modd mwyaf cyfleus bosibl ar gyfer y mwyafrif helaeth o deithwyr, ac mae’n golygu llawer iawn o shifftiau nos.

Bob hyn a hyn, fodd bynnag, bydd darn o waith arbennig o fawr, fel yr angen i osod pont newydd neu gledrau newydd, a dyma pryd y bydd cwmnïau trenau’n rhedeg bysus er mwyn rhoi’r amser i Network Rail wneud eu gwaith pwysig. Bydd amseriad unrhyw waith sylweddol yn cael ei gynllunio ochr yn ochr â’r cwmnïau trenau er mwyn creu cyn lleied o broblemau â phosibl. Rydyn ni’n hysbysebu newidiadau i’n hamserlen ymhell cyn unrhyw waith peirianyddol.

Cynllunio amserlen

Pam nad yw trenau’n stopio mewn rhai gorsafoedd?

Wrth i ni gynllunio ym mha orsafoedd y bydd trenau’n stopio, rydyn ni’n ystyried anghenion teithwyr sydd eisiau ymuno â gwasanaethau, ond hefyd hyd taith yn ei chyfanrwydd.

Hyd yn oed os bydd stopio unwaith yn ychwanegol yn cymryd dim ond dau funud, os byddwch chi’n adio pob arhosiad ar hyd y llwybr, er enghraifft, rhwng Aberdaugleddau a Manceinion Piccadilly, gallai hyn olygu oriau o amser teithio ychwanegol. Mae cydbwyso anghenion teithwyr sydd eisiau teithio o orsafoedd llai a dymuniad y teithiwr am amser teithio byrrach yn rhywbeth rydyn ni’n meddwl yn ofalus amdano bob tro byddwn yn newid ein hamserlen.

Mae rhai rhannau penodol o’r rhwydwaith mor brysur fel nad oes digon o le yn yr amserlen yn aml ar gyfer stopio ym mhobman y byddem yn hoffi stopio. Rydyn ni’n gwrando ar yr adborth ac yn edrych ar newidiadau o ran poblogaeth i’n helpu ni i gyflawni anghenion cynifer o’r teithwyr presennol a theithwyr posibl ag y gallwn.

Pwy sy’n penderfynu ar amseroedd ac amlder y gwasanaethau rydych chi’n eu rhedeg?

Mae’r rhan fwyaf o’r gwasanaethau rydym yn eu gweithredu yn rhan o’n ‘Gofynion Gwasanaeth i Deithwyr’ ac felly maen nhw wedi’u nodi dan delerau ein contract.

Nid yw'r Gofynion Gwasanaeth i Deithwyr yn atal newid, ond yn cyfyngu ar y newidiadau mae modd eu gwneud i agweddau ar wasanaeth megis amlder, amseroedd teithiau, aros mewn gorsafoedd, gwasanaethau cynnar a hwyr a threnau yn ystod yr oriau brig.

Fel rhan o’n Cytundeb Masnachfraint, mae’r Gofynion Gwasanaeth i Deithwyr yn ddogfen gyhoeddus ac ar gael o swyddfa cofnodion cyhoeddus.

Gallwn wneud mân newidiadau ac addasu ein hamserlen ar sail y galw gan deithwyr a diddordeb rhanddeiliaid yn ogystal â rhedeg rhagor o drenau sy’n ychwanegol at yr hyn a nodwyd yn y contract, ond mae hyn yn dibynnu ar gost rhedeg y gwasanaethau hyn ac a oes digon o drenau ar gael i’w darparu.

Ar hyn o bryd, mae oddeutu 20% o’n gwasanaethau yn ychwanegol at yr hyn y gofynnir i ni eu darparu fel rhan o’n Gofynion Gwasanaeth Cyhoeddus.