Eich Cyfaill ar y Cledrau

Mae eich Cyfaill ar y Cledrau yn gwneud y gwaith meddwl fel nad oes rhaid i chi. Mae ap TrC yn dod â phopeth at ei gilydd mewn un lle, o gynllunio teithiau a phrynu tocynnau i gadw golwg ar daliadau a hanes teithio.

Os ydych chi’n cymudo, yn ymweld â ffrindiau, neu’n crwydro i weld lleoedd newydd, mae’r ap yn gwneud teithio ar drenau yn symlach, yn gyflymach ac yn haws ei reoli wrth i chi fynd o le i le.

 

Lawrlwythwch ap TrC heddiw

App StoreGoogle Play

 

Talu wrth fynd - byddwch yn ddoeth a defnyddio eich Cyfaill ar y Cledrau wrth deithio

Mae talu’n ddigyswllt wrth fynd o le i le eisoes yn ei gwneud hi’n haws teithio ar drenau ar wasanaethau TrC a CrossCountry ar Fetro De Cymru. Yn hytrach na phrynu tocynnau, gallwch dapio i mewn ac allan gan ddefnyddio cerdyn digyswllt neu ddyfais glyfar.

Beth am gofrestru eich dull talu ar ap TrC? Byddwch yn cael:

  • Eich hanes llawn o ran teithio a thalu wrth fynd, mewn un lle.
  • Derbynebau teithio i'w llwytho i lawr.
  • Hysbysiadau os byddwch yn anghofio tapio allan, i’ch helpu i osgoi costau ychwanegol.

Rhagor o wybodaeth am dalu wrth fynd.

 

Newid eich tocyn am ddim

Os ydych chi wedi prynu tocyn Advance drwy ap TrC, gallwch newid y dyddiad a’r amser teithio hyd at 18:00 ar y diwrnod cyn i chi deithio.

Yn wahanol i rai apiau trên, nid ydym yn codi ffi am wneud y newidiadau hyn. Mae hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i chi ac yn golygu bod un peth yn llai i chi boeni amdano os bydd eich cynlluniau’n newid.

I gael rhagor o wybodaeth am ad-daliadau neu newidiadau, ewch i trc.cymru/ad-daliadau a dewis “Prynais fy nhocyn ar yr ap neu’r wefan”.

 

Arbed arian ar eich teithiau

Pwrpas ap TrC yw eich helpu i gadw costau’n isel a bod yn drefnus.

  • Dydyn ni ddim yn codi ffioedd archebu, yn wahanol i rai apiau trenau.
  • Gallwch arbed hyd at 50% ar bris teithiau trên pellter hir gyda tocynnau Advance.
  • Cewch deithio faint fynnwch chi am un neu bedwar diwrnod ar rannau penodol o’r rhwydwaith gyda’n Pasys Crwydro.

Mae hyn i gyd ar gael yn uniongyrchol ar yr ap. Ewch ati i gymharu opsiynau a dewis beth sy’n gweithio orau ar gyfer eich taith.

 

Rhannu cost eich tocynnau

Os yw eich tocynnau’n costio £30 neu fwy, gallwch reoli’r gost drwy dalu mewn rhandaliadau gyda Pay in 3 ar PayPal, sydd ar gael yn yr ap neu ar ein gwefan.

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dewis yr opsiwn wrth dalu.

 

Ap trenau TrC - cwestiynau cyffredin

A yw’r ap yn rhad ac am ddim i’w ddefnyddio?

Ydy. Mae’r ap yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho a’i ddefnyddio. Dim ond am y tocynnau neu’r cynnyrch rydych chi’n dewis eu prynu y byddwch chi’n talu.

Ydw i'n gallu defnyddio’r ap i deithio am ddim ar drenau yng Nghymru?

Dydy’r ap ei hun ddim yn darparu teithiau trên am ddim, ond mae’n gadael i chi gael gafael ar gynigion, gostyngiadau a mathau o docynnau sy’n gallu helpu i leihau costau. Gallwch hefyd ei ddefnyddio i reoli eich teithiau pan fyddwch chi’n talu wrth fynd lle bo hynny ar gael.

A yw ap TrC yn gweithio ledled Cymru?

Mae’r ap yn gweithio ar draws rhwydwaith TrC ac yn gallu gweithio wrth gynllunio teithiau ledled Cymru a thu hwnt. Mae bob amser yn werth holi a yw talu wrth fynd ar gael, gan fod hyn yn dibynnu ar lwybr y daith a’r orsaf.

Ydw i’n gallu storio tocynnau ar yr ap?

Ydych. Os ydych chi’n prynu tocynnau drwy’r ap, mae eu modd eu storio’n ddigidol, felly does dim angen i chi argraffu unrhyw beth na chiwio yn yr orsaf.

Ai dyma ap trenau swyddogol Cymru?

Dyma ap trenau swyddogol Trafnidiaeth Cymru, sydd wedi’i ddylunio i’ch helpu i gynllunio, talu am deithiau trên ledled Cymru a’u rheoli.