A view of Aberystwyth landscape from a cliff

Peidiwch â chael eich temtio i ddefnyddio’r car

Tref farchnad brydferth ar arfordir Ceredigion yw Aberystwyth, neu ‘Aber’ fel y gelwir ar lafar gwlad. Mae hefyd yn dref prifysgol sy’n adnabyddus am ei diwylliant, ei threftadaeth a’i thirweddau.

P’un a ydych yn cerdded ar hyd y pier traddodiadol neu’n edrych drwy'r camera obscura ar ben Craig Glais, mae yna olygfeydd bendigedig o’r promenâd a’r arfordir o gwmpas Aber.

 

Atyniadau

Mae gan y dref lan môr Sioraidd rywbeth at ddant pawb. Mae’r dref yn llawn dop o atyniadau diwylliannol ac yn ffenestr i ddiwylliant Cymreig trwy lenyddiaeth, ffilm, celf, sain a mwy. Dyma rai o’r lleoliadau diwylliannol mwyaf poblogaidd:

Llyfrgell Genedlaethol Cymru - trwythwch eich hun yn hanes Cymry a’r Celtiaid yn un o brif lyfrgelloedd Cymru. Er 1911 mae’r llyfrgell hon wedi dal copi o bob un gwaith print a gyhoeddwyd yn y DU ac Iwerddon

Amgueddfa ac Oriel Ceredigion - Mae’r amgueddfa hardd hon - dathliad arall o ddiwylliant a threftadaeth Cymru - wedi’i lleoli mewn theatr Edwardaidd yn agos at lan y môr.

Rheilffordd Cwm Rheidol - Does dim gwell ffordd o weld cefn gwlad na thaith ar y trên i Bontarfynach ar Reilffordd Cwm Rheidol. Mwynhewch y golygfeydd godidog ar y trên stêm clasurol hwn a chadwch eich llygaid ar agor am farcutiaid coch a bwncathod uwchben.

Am fwy o ysbrydoliaeth ewch i ganllaw Croeso Cymru > Tywysydd i Aberystwyth.

 

Wyddoch chi?

Gall plant deithio am ddim ar ein trenau, darganfod mwy.

 

Penwythnos yn Aberystwyth

Dyma’r lleoliad perffaith am wyliau; boed hynny’n deithiau cerdded, yn benwythnos llawn diwylliant neu’n encil i ymlacio - Aberystwyth yw’r lle i fynd. Os oes gennych chi amser, mae’n werth ymweld â’r atyniadau canlynol hefyd:

Castell Aberystwyth - Roedd unwaith yn gaer uchel, ond mae’r môr, a brwydrau lu, wedi gadael dim ond olion o’r hyn a oedd ar un adeg yn gastell mawreddog. Gallwch gymryd diddordeb yn hanes y castell o hyd gan fod modd cerdded drwyddo fel parc erbyn hyn.

Camera Obscura a Rheilffordd y Graig - Ar ddiwrnod clir fe welwch olygfeydd 360 gradd anhygoel o’r camera obscura mwyaf yn y byd, yn cynnwys copa’r Wyddfa. A gallwch fwynhau reid ar y reilffordd graig drydan hiraf yn y DU, a agorwyd ymhell yn ôl yn 1896.

Canolfan Ymwelwyr Coedwig Bwlch Nant yr Arian - Mae’r parc yn llawn llwybrau hardd i gerddwyr, beicwyr mynydd a rhedwyr fel ei gilydd. Neu gallwch roi cynnig ar fwydo rhai o’r Barcutiaid Coch wrth iddynt gael eu bwydo - rhywbeth sy’n digwydd bob dydd.

 

Bwyd a diod yn Aberystwyth

Mae gan Aberystwyth amrywiaeth o fwytai, tafarndai a chaffis lle gallwch eistedd yn ôl a mwynhau eich cinio. Mae rhai o’r llefydd bwyta hyn yn edrych dros y promenâd ac yn manteisio ar olygfeydd dros yr arfordir ysblennydd. Mae busnesau annibynnol yn cynnig bwydydd o bedwar ban byd yn y gornel fach hon o Gymru, felly mae rhywbeth ar gael at ddant pawb yn y dref.

 

Siopa yn Aberystwyth

Fel prif ganolfan siopa’r Canolbarth a’r Gorllewin, mae Aberystwyth yn cynnig siopau cadwyn mawr yn ogystal â siopau annibynnol lleol. Mae yma hefyd Marchnad Ffermwyr yng nghanol y dref lle gallwch fwynhau popeth sydd gan gynhyrchwyr lleol i’w cynnig.