Mae mynd ar y trên o Lerpwl i dref glan môr Aberystwyth yn eich galluogi i gyrraedd yn teimlo’n braf ac wedi ymlacio. Gan deithio drwy rai o olygfeydd harddaf y Deyrnas Unedig, beth am ffrydio eich hoff draciau gyda’n Wi-Fi am ddim ar y trên, gan greu rhestr chwarae ar gyfer eich antur.

Prynwch eich tocynnau trên ar-lein heddiw er mwyn cael ein tocynnau rhataf. Prynwch ar ein gwefan neu ar ein ap hwylus.

 

Faint o amser mae’r trên o Lerpwl i Aberystwyth yn ei gymryd?

Mae’n cymryd tua phum awr a thri munud ar ddeg, gan roi digon o amser i chi eistedd yn ôl, ymlacio a mwynhau ein Wi-Fi am ddim ar y trên.

Gwybodaeth fyw am drenau sy’n gadael ac yn cyrraedd

Pam teithio o Lerpwl i Aberystwyth ar y trên?

Mae teithio o Lerpwl i Aberystwyth ar y trên yn caniatáu i chi ymlacio, gwneud dipyn o waith neu gwrdd â ffrindiau neu deulu. Saif Aberystwyth ar lannau gorllewinol Cymru, gan edrych allan dros y môr ac mae Afon Rheidol yn llifo drwy ei chanol. Mae’n enwog am ei bae gogoneddus, sy’n ymestyn o’r harbwr poblogaidd yn un pen i’r llwybr serth i fyny Craig-glais yn y pen arall. Y ffordd hawsaf o gyrraedd y copa yw camu ymlaen ar Reilffordd Drydan y Graig sy’n rhedeg o waelod y bryn i’r brig. Mae cymaint o bethau da i’w gwneud yn Aberystwyth, sy’n ei wneud yn lle gwych i dreulio’r penwythnos.

 

Trenau eraill o Lerpwl Lime Street

Trenau o Lerpwl i Gaerdydd

Lerpwl i Gaer

Lerpwl i Amwythig

 

Trenau eraill i Aberystwyth

Amwythig i Aberystwyth

Caerdydd Canolog i Aberystwyth

Machynlleth i Aberystwyth