Submitted by content-admin on

FAQ's

Alla i ddefnyddio mwy nag un ddyfais?

Gallwch, er efallai bydd angen i chi fynd drwy’r broses gofrestru ar bob dyfais ar wahân

Alla i gael gafael ar fy e-bost ar y we fel Gmail?

Gallwch. Rydyn ni’n gallu rhoi mynediad at Hotmail, Yahoo Mail a Gmail.

Alla i ddefnyddio VPN?

Gallwch. A dweud y gwir, os ydych chi’n cysylltu â’r rhyngrwyd drwy eich gliniadur eich hun, mae’n well defnyddio cleient VPN i sicrhau mynediad diogel at weinyddion post a mewnrwyd cwmnïau. Gwnewch yn siŵr bod VPN eich cwmni yn gallu delio â chroesi NAT a'i fod yn caniatáu mwy nag un cysylltiad o un cyfeiriad IP. Holwch eich staff TG. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi mewngofnodi drwy'r dudalen porth cyn i chi ddefnyddio eich VPN.

Pa gyflymder alla i ei ddisgwyl?

Allwn ni ddim gwarantu pa gyflymder a gewch chi ond rydyn ni’n anelu at gynnig cyflymder tua 1MB i’n cwsmeriaid. Efallai fod rhai pethau sy’n gallu effeithio ar gyflymder data’r rhyngrwyd. Mae’r rhain yn cynnwys nifer y bobl sy’n pori ar ein rhwydwaith ar unrhyw adeg benodol, pa mor bell ydy’r safle o’r gyfnewidfa BT agosaf ac ansawdd y signal diwifr. Os hoffech chi gael rhagor o fanylion ynghylch pa gyflymder i’w ddisgwyl gan y gwasanaeth, mae croeso i chi anfon neges i support@wifispark.com

Mae pethau’n andros o araf?

Os ydy pethau’n araf, mae’n debyg eich bod mewn ardal sydd â signal gwan. Rhowch gynnig ar symud yn nes at y pwynt mynediad. Edrychwch ar eich eicon diwifr. Bydd ganddo ryw ffordd o ganfod cryfder y signal a fydd yn caniatáu i chi symud o gwmpas nes i chi gyrraedd ardal sydd â signal cryf.

A oes terfyn ar faint o ddata mae modd ei ddefnyddio?

Fel sy’n cael ei nodi yn ein Telerau ac Amodau, ein Polisi Defnydd Teg ydy hyd at 20GB bob mis.

Pam mae rhai safleoedd wedi cael eu rhwystro ac alla i ddim eu hagor?

Mae WiFi SPARK yn rhwystro rhai categorïau fel rhannu ffeiliau P2P. Os ydych chi’n teimlo bod safle wedi cael ei rwystro’n anghywir, rhowch wybod i ni er mwyn i ni allu ymchwilio i'r mater.

Pa trenau sydd heb Wifi?

Dyma'r trenu sydd heb Wifi. Rydym yn y proses o osod Wifi ar y trenau canlynol:

Dosbarth 153 - rhedeg ar reilffyrdd Calon Cymru, Gorllewin Cymru, Dyffryn Conwy, Lein y Ddinas a Bae Caerdydd.

Dosbarth 170 - rhedeg rhwng Maesteg a Cheltenham.

Sut galla i gael help?

Mae croeso i chi gysylltu â ni ar y manylion isod os nad yw eich cwestiwn wedi cael ei ateb yma.
Ar y trên - Icomera

Yn yr orsaf - Wifi Spark
support@wifispark.com
0344 848 9555