Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth ardderchog i’n holl gwsmeriaid.

Gan weithio gyda’n cydweithwyr yn y diwydiant rheilffyrdd a Llywodraeth Cymru, mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i wneud ein gwasanaethau yn fwy hygyrch.

 

Gwybodaeth Hygyrchedd i Deithwyr Hŷn ac Anabl

Mae ein canllaw Gwasanaethu Rheilffordd Hygyrch: Helpu teithwyr hŷn ac anabl yn cynnwys gwybodaeth am hygyrchedd yn ein gorsafoedd ac ar ein trenau. Mae hefyd yn amlinellu’r cymorth arbennig sydd ar gael i chi wrth deithio gyda ni.

Gwasanaethu Rheilffordd Hygyrch: Helpu teithwyr hŷn ac anabl | Agor ar ffurf PDF

Gwasanaethu Rheilffordd Hygyrch: Helpu teithwyr hŷn ac anabl | Agor ar ffurf Dogfen

 

Codwch gopi wedi’i brintio o’r gorsafoedd sy’n cael eu staffio neu gallwn bostio un ichi dim ond i chi gysylltu â Cysylltiadau Cwsmeriaid ar 0333 005 501 neu cysylltwch â ni gyda’n ffurflen ar-lein.

 

Ein Polisïau a’n Harferion

Gallwch ddarllen mwy am ein hymrwymiad i gydraddoldeb ac i wella hygyrchedd yn ein canllaw Making Rail Accessible: Guide to Policies and Procedures.

Gwasanaethu Rheilffordd Hygyrch: Polisi teithio hygyrch TrC | Agor ar ffurf PDF

Gwasanaethu Rheilffordd Hygyrch: Polisi teithio hygyrch TrC | Agor ar ffurf Dogfen

 

Os hoffech gael copïau o’r canllawiau hyn mewn fformat gwahanol, cysylltwch â Cysylltiadau Cwsmeriaid ar 03333 211 202 neu cysylltwch â ni gyda’n ffurflen ar-lein.

 

Gorsafoedd wedi'u gwneud yn hawdd

Mae Stations Made Easy gan y National Rail yn cynnwys cynlluniau llawr, lluniau a gwybodaeth am hygyrchedd ein gorsafoedd. Gallwch weld a oes toiledau mynediad hwylus ar gael, a oes staff wrth lawr i helpu a’r amseroedd agor.

Mewn rhai o’n gorsafoedd, dim ond pan fydd staff yn yr orsaf y bydd y lifftiau’n gweithio.

Chwiliwch am eich gorsaf ar wefan y National Rail.

 

Alergeddau ac anoddefiadau

Os oes gennych alergedd bwyd difrifol, cofiwch ddweud wrth y staff ar fwrdd y trên cyn gynted â phosibl. Er na allwn gael gwared ar y risg, ein nod yw ceisio lliniaru’r risg hwnnw cymaint ag y gallwn ni. Ni all Trafnidiaeth Cymru warantu amgylchedd diogel i'r rhai sydd ag alergeddau difrifol a chyfrifoldeb ein teithwyr yw hi bob amser i benderfynu a ddylent deithio ar sail eu dealltwriaeth eu hunain o'r risgiau posibl.

O ran alergedd i gnau, er enghraifft, byddwn yn:

  • Gwneud cyhoeddiadau yn rheolaidd yn gofyn i gwsmeriaid eraill beidio â bwyta cnau
  • Ceisio peidio  â gwerthu cnau ar ein trolïau nac yn ein bariau bwyd (fodd bynnag, efallai y bydd cwsmer eisoes wedi prynu cnau)
  • Cael gwared ar eitemau sy'n cynnwys cnau o'n dewis Dosbarth Cyntaf os yw'n briodol

Sylwch na allwn ddarparu ar gyfer cwsmeriaid ag alergeddau oni bai bod staff yn cael gwybod am yr alergedd ar ddechrau'r daith. Fodd bynnag, ni allwn warantu amgylchedd di-gnau.  Er bod ein holl drenau’n cael eu glanhau'n rheolaidd pan maent ar waith, gall y ffaith ein bod yn gweld trosiant uchel iawn o gwsmeriaid yn teithio ar ein trenau arwain at risg yn dibynnu ar natur alergedd yr unigolyn.