Panel Hygyrchedd
Mae ein Panel Hygyrchedd yn dylanwadu ar ein polisïau hygyrchedd ac yn rhoi cyngor i ni ar sut mae cefnogi cwsmeriaid byddar, anabl a hŷn i ddefnyddio’n gwasanaethau yn effeithiol.
Mae’r Panel hefyd yn rhoi cyngor inni ynglŷn â’n cynlluniau hygyrchedd ar gyfer trenau a gorsafoedd newydd a gwaith ailwampio ar drenau a gorsafoedd, ac ynghylch ein rhaglen hyfforddiant staff. Mae'r aelodau’n gweithredu fel cwsmeriaid cudd ac yn rhoi adborth amhrisiadwy inni ar ein gorsafoedd a’n safleoedd.
Pobl anabl a phobl hŷn, sydd ag ystod amrywiol o brofiad o deithio ar y trenau, yw aelodau’r Panel. Mae ganddynt namau cudd a gweladwy ac mae pob aelod yn canolbwyntio ar faterion gwahanol sy’n wynebu cwsmeriaid sydd â rhwystrau mynediad.
Mae’r Panel yn cwrdd bob chwarter, ond mae hefyd yn mynd i gyfarfodydd grwpiau gorchwyl a gweithdai gydol y flwyddyn.
Yr athletwr Paralympaidd Nathan Stephens yn ymuno â Trafnidiaeth Cymru i hybu teithio hygyrch
Cliciwch yma i ddarllen yr erthygl
Ein panel
- Margaret Buchanan Geddes
- Mae Margaret yn gyn-filwr dall, ac mae ganddi nam clyw niwrolegol. Mae hi’n llysgennad Deafblind UK a Blind Veterans yn ne Cymru. Margaret yw cadeirydd gwirfoddol Grŵp lleol Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot. Mae hi’n credu yn yr egwyddor o deithio cyfartal - cydraddoldeb mynediad daearyddol, a bod teithio’n hawdd i bob aelod o gymdeithas, dim ots beth yw eu gallu/anabledd.
-
Fy mhrif nod ar y Panel yw dadlau ‘nad yw anabledd yn ddaearyddol’
- A oes yna fater penodol rydych chi eisiau mynd i’r afael ag ef ar y panel?
- Rwyf wir eisiau gweld cydraddoldeb wrth deithio ar fws a thrên ar draws Cymru, a’r DU yn gyffredinol.
- Margaret Everson MBE
- Roedd Margaret yn Gyfarwyddwr ar Bus Users Cymru, ac roedd hi’n delio â strategaethau a materion polisi, yn ogystal â phrydlondeb a dibynadwyedd bysiau. Mae ganddi CPC mewn Gweithrediadau PSV Cenedlaethol a Rhyngwladol. Ers rhoi’r gorau i weithio fel Cyfarwyddwr Bus Users Cymru yn 2018, mae Margaret wedi parhau â'i rôl ar Fforwm Cynghori'r Gweinidog ar gyfer Heneiddio, ac mae'n rhan o’r Grŵp Trafnidiaeth MAFA. Mae hi wedi gweithio ym maes trafnidiaeth gyhoeddus ers 1977. Mae hi'n Gymrawd y Sefydliad Siartredig Logisteg Thrafnidiaeth, ac mae hi’n aelod o Fwrdd Ymddiriedolwyr CILT.
- Cafodd Margaret MBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2013 am ei gwasanaeth i ddefnyddwyr bysiau ac am ei gwasanaeth i drafnidiaeth yng Nghymru.
-
Ymunais â’r Panel er mwyn parhau â fy niddordeb mewn darparu gwybodaeth a rhoi gallu i symud o gwmpas gorsafoedd rheilffordd i bobl hŷn a phobl sy’n gallu symud llai, yn ogystal â’u profiadau teithio o ddrws i ddrws.
- A oes yna fater penodol rydych chi eisiau mynd i’r afael ag ef ar y panel?
- Y ffordd y mae gwybodaeth hanfodol yn cael ei chyflwyno – y taldra cywir i bawb allu ei darllen, a bod y sgrifen yn ddigon mawr i gwsmeriaid sydd ar frys.
- Andrea Gordon
- Mae Andrea’n byw yn Abertawe, ac mae hi’n rheoli tîm ymgysylltu Cŵn Tywys Cymru. Mae hi’n aelod o Banel Hygyrchedd Trafnidiaeth, sydd wedi bod yn rhan bwysig iawn o ddatblygu nodau hygyrchedd trafnidiaeth Llywodraeth Cymru. Mae Andrea yn aml yn ymgyrchu dros gynhwysiant pobl anabl ym mhob agwedd o fywyd, ac fel perchennog ar gi tywys ei hun, mae ganddi ddiddordeb mewn cynhwysiant y bobl sydd wedi colli eu golwg. Mae ei swydd yn cynnwys dylanwadu ar wneuthurwyr polisi ar lefel strategol, sy'n gofyn am wybodaeth dechnegol gadarn o arfer cynhwysol yn yr amgylchedd adeiledig ac o gymhwyso deddfwriaeth cydraddoldeb. Andrea yw Cadeirydd Vision Impaired West Glamorgan, sef elusen sy’n cynrychioli barn a phryderon pobl sydd wedi colli eu golwg yn Abertawe. Mae hyn yn golygu dylanwadu ar seilwaith a strategaeth trafnidiaeth leol, sy’n gofyn am ddealltwriaeth o gynllunio trafnidiaeth leol, yn ogystal â thrafnidiaeth ryngwladol.
-
Rwy’n ddefnyddiwr annibynnol cyson o wasanaethau’r rheilffordd, ac rwy’n teimlo’n angerddol am sicrhau eu bod nhw’n hygyrch ac yn gynhwysol.
- A oes yna fater penodol rydych chi eisiau mynd i’r afael ag ef ar y panel?
- Mae trafnidiaeth sy’n hygyrch ac sy’n gynhwysol yn hanfodol i bobl sydd wedi colli eu golwg, gan gynnwys cyhoeddiadau clyweledol mewn gorsafoedd ac ar bob trên.
- Simon Green
-
Simon Green yw Cadeirydd Cynghrair Pobl Anabl Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae’n Ymddiriedolwr Anabledd Cymru. Mae wedi bod yn defnyddio cadair olwyn ers 2003, ac nid yw’n gallu gyrru, ac felly mae’n ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus. Yn ddiweddar, symudodd Simon i Bencoed, ac felly mae nawr yn defnyddio trenau bron bob dydd er mwyn cyrraedd Pen-y-bont ar Ogwr neu Gaerdydd, ac mae’n aml yn teithio ymhellach na hynny yng Nghymru ac yn teithio i Loegr.
Mae Simon yn teimlo'n angerddol am helpu i wella profiadau teithio pobl anabl, gan gynnwys gwasanaethau gwell i’r rhai sydd â nam ar y synhwyrau, fel mwy o gyfarpar clyweledol.
-
Mae pethau’n gweithio’n dda y rhan fwyaf o'r amser - mae rampiau’n cyrraedd ar amser ac mae’r man cadair olwyn ar gael ar y trên. Ond weithiau, os yw pethau yn mynd o’i le, gall wneud i bobl anabl beidio â bod eisiau defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a all effeithio ar gyfleoedd gwaith ac ar fywyd cymdeithasol yr unigolion.
- A oes yna fater penodol rydych chi eisiau mynd i’r afael ag ef ar y panel?
- Rwy’n awyddus iawn i gefnogi datblygiad yr hyfforddiant cydraddoldeb i bobl anabl, gan y bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i agweddau staff, a’r ffordd maent yn delio â sefyllfaoedd.
- Eric Heath
- Mae Eric yn hunan-eiriolwr awtistiaeth yn yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan weithio ar draws y llywodraeth ar y strategaeth awtistiaeth genedlaethol yn Lloegr. Mae Eric wedi cael diagnosis o Syndrom Asperger, Dyspracsia ac o ADHD, ac mae wedi eirioli ar ran y namau cudd hyn, ac wedi cydarwain ‘Autonomy’, sef grŵp cymdeithasol hunan-gymorth dros y 15 mlynedd ddiwethaf i oedolion ag awtistiaeth. Yn ei amser hamdden, mae Eric yn ysgrifennu ac yn recordio cerddoriaeth dan yr enw ‘E.L. Heath’ (roedd ei albwm Gymraeg ‘Tŷ’ yn ‘albwm yr wythnos’ ar BBC Radio Cymru yn 2013). Mae hefyd yn chwarae criced, a bu’n cynrychioli’r Llewod Anableddau Dysgu Lloegr, tîm Anableddau Dysgu Swydd Amwythig am 18 mlynedd, a’i glwb lleol Knockin a Kinnerley. Mae Eric yn byw gyda’i bartner Victoria yng nghefn gwlad canolbarth Cymru wrth droed bryn uchel.
-
Gan fy mod yn byw yng nghanolbarth Cymru, rwy’n awyddus i helpu i wella fy ngwasanaeth rheilffordd lleol, sy’n gyswllt hanfodol y mae llawer o bobl yn dibynnu arno. Mae gen i ddiddordeb mewn trafnidiaeth, a hygyrchedd erioed.
- A oes yna fater penodol rydych chi eisiau mynd i’r afael ag ef ar y panel?
- Fel rhywun sydd â namau cudd, rwy’n awyddus i wella hygyrchedd mewn meysydd sy’n llai amlwg, ac ar gyfer cyflyrau sy’n llai gweledol, â’r nod o wella hygyrchedd i bawb. Mae meysydd fel canfyddiad a chyfathrebu yn gallu bod yn rhwystrau mawr os nad oes rhywun yn mynd i’r afael ag ef, ac mae’r defnydd cynyddol o dechnoleg i helpu pobl i ddefnyddio ein rhwydwaith gymhleth o reilffyrdd yn hanfodol er mwyn cynorthwyo â chynllunio a chwblhau taith. Gall y meysydd hyn helpu i wella hyder ac annibyniaeth, os yw’n cael ei wneud yn hygyrch i bawb.
- Kirsty James
- Mae Kirsty yn Swyddog Ymgyrchoedd RNIB Cymru. Mae hi’n cefnogi pobl ddall a rhannol ddall â materion ymgyrchu lleol a chenedlaethol, fel trafnidiaeth, mannau a rennir, a gwybodaeth hygyrch. Mae Kirsty’n gwirfoddoli i ddwy elusen sy’n ymwneud â cholli golwg, sef Look UK ac Esme’s Umbrella, er mwyn helpu eraill i oresgyn rhwystrau maent yn eu hwynebu. Mae hi’n aelod o sawl grŵp llywio’r bwrdd iechyd, Grwpiau Mynediad y Cyngor ac o Banel Hygyrchedd ITV. Mae Kirsty wedi bod yn teithio’n annibynnol ar y rheilffyrdd ers 13 mlynedd bellach gyda nam ar ei golwg.
-
Gan weithio i’r RNIB, ac fel aelod o’r Panel, rwy’n gobeithio y byddaf yn gallu helpu ein sefydliadau i gydweithio mewn ffordd strategol.
- Mark Jones
- Mae Mark wedi ymddiddori mewn teithio ers yn grwt ifanc, gan dreulio oriau di-ri yn ei arddegau yn teithio ar fws ac ar drên ar draws Gogledd Cymru. Mae Mark yn gwirfoddoli fel Llysgennad Teithio i Gig Buddies – prosiect gan Anableddau Dysgu Cymru. Mae Mark hefyd yn gwirfoddoli i Bus Users Cymru (rhan o Bus Users UK) ac mae’n Gynrychiolydd Lleol. Mae gan Mark anabledd corfforol a nam ar ei olwg ac mae gan ei bartner Anabledd Dysgu ac wedi cofrestru fel person dall. Mae gan Mark brofiad o hygyrchedd, gwasanaethau gwybodaeth ac mae'n siarad Cymraeg a Saesneg. Mae Mark wedi bod yn aelod o'r Panel ers y dechrau.
-
Ymunais â’r Panel Hygyrchedd a Chynhwysiant i sicrhau bod lleisiau pawb, waeth beth fo’u hanabledd yn cael eu clywed
- A oes yna fater penodol rydych chi eisiau mynd i’r afael ag ef ar y panel?
- Hoffwn wneud yn siŵr bod gan bob trên a phob gorsaf wybodaeth hygyrch mewn fformat y gall pawb ei ddeall.
- Robert Mann
- Mae Robert yn dod o Landudno, gogledd Cymru. Mae wedi cael diagnosis o Syndrom Asperger, ac mae’n byw ag ystod o broblemau iechyd a thrafferthion cysylltiedig, gan gynnwys gorbryder, dyspracsia, a phroblemau corfforol eraill. Mae Robert yn teimlo’n angerddol iawn am ffotograffiaeth (gan arbenigo mewn ffotograffiaeth rheilffyrdd), yn ogystal â cosplay a gwaith modelu. Mae ef wedi bod yn rhan o brosiectau cymunedol y rheilffyrdd Trenau Arriva Cymru (a Thrafnidiaeth Cymru bellach) dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys y prosiect Teithiwr Hyderus, ac mae’n hyrwyddo’r cynllun Waled Oren. Mae Robert hefyd yn cynhyrchu ffotograffiaeth ar gyfer tîm cyfryngau Trafnidiaeth Cymru. Mae ef hefyd yn gweithio ar brosiect rhaglen ddogfen ar Awtistiaeth gyda ‘TAPE Community Music and Film’ sydd wedi ei leoli yn yr Hen Golwyn, gogledd Cymru.
-
Rwyf eisiau gwneud cyfraniad cadarnhaol i’r diwydiant rheilffyrdd a fydd yn galluogi i bobl sydd ag anableddau i allu teithio’n fwy hyderus ac yn fwy cyfforddus.
- A oes yna fater penodol rydych chi eisiau mynd i’r afael ag ef ar y panel?
- Rwy’n awyddus iawn i dynnu sylw at y trafferthion y mae pobl fel fi sydd ag anableddau cudd yn eu hwynebu. Rydym ni’n llai tebygol o gael cymorth gan staff os oes ganddynt ddiffyg dealltwriaeth o anableddau cudd.
- Trevor Palmer B.E.M.
- Mae diddordeb Trevor mewn materion hygyrchedd wedi datblygu ers iddo gael diagnosis o MS yn 1994. Ef yw cyfarwyddwr Anabledd Cymru, mae’n Ymddiriedolwr See Around Britain, ac fe gafodd ei gontractio i sefydlu ac arwain Grŵp Cynghori Anableddau Canolfan Mileniwm Cymru, yn ystod y gwaith adeiladu a gwaith mewnol yr adeilad. Yn 2018, cafodd Trevor y Fedal Ymerodraeth Brydeinig am ei wasanaeth i bobl anabl yng Nghymru. Mae Trevor yn defnyddio cadair olwyn yn llawn amser, ac mae’n teithio gyda’i Gynorthwyydd Personol / Gweithiwr Cymorth er mwyn rhedeg ei fusnes, ac felly mae hygyrchedd priodol yn bwysig i annibyniaeth Trevor. Mae’r modd y mae’n defnyddio’r ‘model cymdeithasol’ yn allweddol i lwyddiant y panel.
-
Rwy’n aelod o’r panel er mwyn cynnig fy ngwybodaeth a fy sgiliau er mwyn gwella profiadau teithwyr anabl.
- A oes yna fater penodol rydych chi eisiau mynd i’r afael ag ef ar y panel?
- Mae busnesau weithiau’n gallu anghofio am brofiad eu cwsmeriaid anabl. Felly, rwyf eisiau canolbwyntio ar brofiad y cwsmer ym mhob agwedd ar deithio ar y trên, gan gynnwys hygyrchedd corfforol, agweddau staff ac ymarferion busnes.
- Amanda Say
- Mae Amanda yn teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn aml, ac mae’n defnyddio’r trên sawl gwaith yr wythnos er mwyn cyrraedd cyfarfodydd ac ar gyfer dibenion hamdden. Mae hi’n gwirfoddoli fel hyfforddwr Riding for the Disabled, gan weithio ag oedolion a phlant sydd â gwahanol anableddau, gan arbenigo mewn addysgu dressage. Mae Amanda hefyd yn gwirfoddoli fel Parch Rheilffordd, sef cynllun sy’n cynnwys gwirfoddolwyr hyfforddedig o eglwysi lleol, sy'n cadw llygad ar bobl fregus sy’n teithio ar y rheilffyrdd, ac yn rhoi cymorth iddynt. Mae hi’n cipio pob cyfle i hyrwyddo hawliau pobl anabl, ac i gynrychioli eu hanghenion.
-
Rwyf eisiau cyfrannu fy mhrofiadau fel teithiwr sy’n defnyddio cadair olwyn er mwyn gwella’r profiad o deithio ar y trên, gan gynnwys cymorth i archebu, a chymorth wrth adael yr orsaf.f
- Alun Thomas
- Mae Alun yn ymgyrchydd sefydledig dros hawliau, ar ôl gweithio mewn swyddi uchel yn y Comisiwn Hawliau Anabledd, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn. Cyn gweithio yn y swyddi hyn, roedd Alun yn Swyddog Seneddol i’r RNIB. Mae Alun yn rhannol ddall. Ar hyn o bryd, mae’n ofalwr i bartner hŷn sydd ag amryw o namau corfforol ac iechyd meddwl. Mae’r ddau ohonynt yn teithio ar drên yn gyson.
-
Rwy'n cynnig fy ngwybodaeth ymarferol o gyfreithiau cydraddoldeb, a’r gwaith cymhwyso ymarferol i Drafnidiaeth Cymru, gan gynnwys rhyngweithio â rhwymedigaethau iaith Gymraeg.
- A oes yna fater penodol rydych chi eisiau mynd i’r afael ag ef ar y panel?
- Rwyf eisiau helpu gwreiddio asesiad o effeithiau cydraddoldeb anabledd i’r broses o wneud penderfyniadau o ddydd i ddydd.
- Rhys Govier
- Fel Cynllunydd Tref Siartredig, mae Rhys yn mwynhau llunio'r llefydd ni’n byw, gweithio a chwarae, ac mae’n gwerthfawrogi pwysigrwydd o gysylltiad â hygyrchedd yn yr 21ain ganrif. Yn Ionawr 2017, wnaeth Rhys ddarganfod ei fod gyda’r afiechyd Crohn’s- clefyd llid y coluddyn. Trwy deithio’n rheolaidd ar draws Cymru a Lloegr, mae ganddo brofiad o drafferthion o deithio gydag anabledd ‘cudd’ ar y rhwydwaith ar stigma cyfatebol. Mae Rhys yn byw yng Nghaerdydd gyda'i wraig a'i blant. Mae ei wraig, Charlotte, yn Ymarferwr Meddygol gydag arbenigedd mewn clefyd llid y coluddyn.
-
Rwyf wedi ymuno ar Banel Hygyrchedd er mwyn cynrychioli’r unigolion sydd gydag anabledd ‘cudd’, ac yn arbennig yr unigolion sydd angen mynediad i doiledau. Rwy’n hyderus gallwn adeiladu system rheilffordd gall pawb defnyddio.
- A oes yna fater penodol rydych chi eisiau mynd i’r afael ag ef ar y panel?
- Ymwybyddiaeth o anableddau ‘cudd’ ar angen am fynediad i doiledau ar draws y rhwydwaith, gan gynnwys gorsafoedd a cherbydau.
- Joshua Reeves
- Mae Joshua yn ymgyrchydd hawliau anabledd gyda pharlys yr ymennydd. Sefydlodd ‘Don’t Call Me Special’ sy’n ymgyrch ‘Point of Light’ annibynnol i newid meddylfryd/safbwynt pobl ar anabledd. Mae’n adnabyddus am wynebu geirfa a barn pobl ar anabledd. Ef hefyd yw Swyddog Cefnogi Ymgyrch Leonard Cheshire Cymru sy’n elusen anabledd sy’n cefnogi unigolion i fyw, dysgu a gweithio mor annibynnol ag y dymunant, beth bynnag fo’u gallu. Dan arweiniad pobl â phrofiad o anabledd, rydym wrth galon bywyd lleol—gan agor drysau i gyfleoedd, dewis a chefnogaeth mewn cymunedau ledled y byd.
- Rachel Jones
- Fy enw i yw Rachel Jones ac rwy’n deithiwr trên brwd. Cefais fy ngeni â nam ar y golwg o'r enw Retinitis Pigmentosa ac nid oeddwn byth yn gallu dysgu gyrru, felly defnyddio trenau yw'r brif ffordd yr wyf yn teimlo y gallaf fod yn annibynnol. Bûm yn byw ar reilffordd Calon Cymru am y rhan fwyaf o’m hoes, ac yn awr yn byw ar reilffordd y Cambrian, ac felly mae fy angerdd yn eiriol dros well cysylltiadau trafnidiaeth wledig yn ogystal â gwell hygyrchedd ar drenau ac mewn gorsafoedd. Rwy’n gweithio i RNIB Cymru, yr elusen colli golwg, ac yn ymgyrchu am well ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o golli golwg yn ogystal â newid cymdeithasol i chwalu’r rhwystrau sy’n wynebu pobl ddall a rhannol ddall.
-
Oeddech chi’n gwybod?Teithiwch yn SaffachGallwch gynllunio ymlaen llaw a phenderfynu pryd i deithio gan ddefnyddio ein Gwiriwr Capasiti.Gwirio capasiti