Cynlluniwch eich taith trên gyda ni
Cynlluniwch eich taith yr holl ffordd gan ddefnyddio ein hadnoddau - ap TrC, y Gwiriwr Capasiti a’r gwiriwr taith. Wedi’u cynllunio i wneud i’ch taith redeg mor esmwyth â phosibl, byddan nhw’n dweud wrthych chi am unrhyw oedi a pha mor brysur mae’r trên rydych chi’n bwriadu teithio arno yn debygol o fod.
Oeddech chi’n gwybod y gallwch nawr dalu am eich tocynnau trên mewn tri rhandaliad gan ddefnyddio PayPal ‘Talu mewn 3’ os yw eich archeb dros £30? Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr opsiwn hwn pan fyddwch yn cyrraedd y sgrin talu.
