
Un tocyn rhwydd i deithio’n rhatach ac yn gyflymach
Rydyn ni wedi sefydlu partneriaeth â TrawsCymru fel y gallwch chi deithio o Aberystwyth i leoliadau yn Ne Cymru gydag un tocyn yn unig. Gall hyn eich helpu i arbed amser ac arian*.
Yn hytrach na gorfod defnyddio gwahanol apiau, gwefannau a chwmnïau i brynu eich tocynnau trên a bws ar wahân, gallwch nawr brynu un tocyn ar gyfer eich taith gyfan ar ein trenau ni ac ar fysiau TrawsCymru T1.
Os ydych chi’n teithio ar ein gwasanaeth trên o leoliadau yn Ne Cymru, byddwch chi’n dod oddi ar y trên yng Nghaerfyrddin ac wedyn yn neidio ar wasanaeth TrawsCymru T1 i barhau â’ch taith i Aberystwyth. Os ydych chi’n teithio o Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan neu Aberaeron, byddwch yn dechrau’ch taith ar wasanaeth TrawsCymru ac yna’n camu ar ein gwasanaethau trên yng Nghaerfyrddin i barhau â’ch taith.
*O’i gymharu â theithiau ar drên penodol yn unig. Yn seiliedig ar deithiau penodol ar lwybrau integredig o’i gymharu â threnau’n unig, Gorffennaf 2023.
O ddefnyddior ddwy ffordd i deithio, gallwch arbed amser ac arian.
Er enghraifft
Abertawe-Aberystwyth
Taith o Abertawe i Aberystwyth gyda'n tocyn integredig
- O £14.80 am docyn Sengl Unrhyw Bryd
- mae'n 2 awr 11 munud yn gyflymach
Er enghraifft
Pen-y-bont ar Ogwr -Aberystwyth
Taith o Pen-y-bont ar Ogwr i Aberystwyth gyda'n tocyn integredig
- O £11.70 am docyn Sengl Advance
- mae'n 2 awr 11 munud yn gyflymach
Mae prisiau’r tocynnau’n ddilys o 21/07/2023. Mae’r arbedion o ran cost ac amser yn seiliedig ar rai siwrneiau ar hyd llwybr integredig yn hytrach na siwrneiau trên yn unig, wrth gymharu â phris tocyn sengl safonol ar drên yn unig drwy Amwythig, Gorffennaf 2023.
Ble alla i brynu tocyn integredig?
Gallwch brynu tocyn integredig neu docynnau ar gyfer teithio ar y reilffordd ar ein gwefan, ein ap, neu mewn unrhyw orsaf reilffordd.
Gwasanaethau bws TrawsCymru
Gallwch chi brynu tocynnau yn ôl ac ymlaen i Aberaeron a Llanbedr Pont Steffan ar ein gwefan fel rhan o’ch taith integredig. Cofiwch fod arosfannau ychwanegol i’r rhain ar wasanaethau bws TrawsCymru rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, bydd eich gyrrwr bws yn gallu helpu neu gallwch fynd i wefan TrawsCymru i gael rhagor o wybodaeth. Cofiwch nad oes toiledau ar wasanaethau T1 TrawsCymru.
Mae croeso i’r cwsmeriaid sydd am ymuno â ni yn Aberaeron fwynhau’r cyfleusterau aros yn ein partner lletygarwch Ambassador Café.