Ynglŷn â fflecsi
-
Pwy sy’n darparu fflecsi?
-
Mae gwasanaethau fflecsi yn cael eu darparu gan weithredwyr bysiau lleol sy’n gweithio gyda chynghorau a Trafnidiaeth Cymru.
-
-
Beth yw manteision yr ap?
-
Mae’n cynnig ffordd gyflym a hawdd o archebu bws fflecsi. Ar ôl i chi archebu, mae ein ap yn cadarnhau lle bydd yn eich casglu a phryd y bydd yn cyrraedd. Gallwch hyd yn oed wirio lleoliad presennol eich bws wrth iddo ddod i’ch casglu.
-
Eich taith fflecsi
-
Ble alla I deithio?
-
Mae fflecsi yn rhoi'r rhyddid i chi ddewis eich lleoliadau casglu a gollwng. Yna bydd y system yn dod o hyd i'r opsiwn gorau yn seiliedig ar eich dewisiadau.
-
-
Ble fydd y bws yn fy nghasglu?
-
Bydd eich bws yn eich casglu o fan cyfleus sy’n agos i ble rydych chi, ond efallai nad safle bws fydd hwn. Os ydych chi’n defnyddio ein ap, bydd yn dangos eich man casglu.
Os ydych chi’n ein ffonio i archebu, bydd ein cynghorwr yn egluro ble mae’ch pwynt casglu.
-
-
Beth fydd yn digwydd os ydw i’n hwyr?
-
Bydd ein ap yn dweud wrthych chi pryd fydd y bws yn cyrraedd. Gofalwch eich bod yn y man casglu mewn da bryd.
Mae angen i ni sicrhau bod eich gwasanaeth fflecsi yn rhedeg yn rhwydd oherwydd bydd teithwyr eraill yn dibynnu arno. Bydd eich bws yn aros amdanoch chi am 2 funud, ond yna bydd yn rhaid iddo adael i gasglu’r teithiwr nesaf.
-
Costau teithio
-
Faint fydd e’n ei gostio?
-
Mae fflecsi wedi’i greu i fod yn wasanaeth fforddiadwy. I gael gwybodaeth ynglŷn â phrisiau, gwiriwch y dudalen lleoliadau ar gyfer yr ardal y byddwch yn teithio ynddi. Gallwch ddefnyddio eich tocyn tymor neu docyn sydd wedi’i brynu ymlaen llaw o hyd.
Mae gostyngiadau MyTravelpass yn berthnasol. Gallwch hefyd ddefnyddio eich Cerdyn Teithio Rhatach.
-
-
Sut alla i dalu am fy nhaith?
-
Byddwch yn talu ar y bws drwy ddefnyddio cerdyn banc digyswllt neu gerdyn clyfar. Mae rhai gweithredwyr yn derbyn arian parod hefyd, ond gwiriwch dudalen y lleoliad rydych chi am deithio iddo i weld a yw hyn yn bosibl.
Ar hyn o bryd nid oes ffordd o dalu am y gwasanaeth ymlaen llaw. Rydym yn gweithio ar ei gwneud hi’n bosibl i dalu drwy’r ap.
-
-
Dwi dros 60 oed neu’n anabl, alla i ddefnyddio fy ngherdyn teithio rhatach o hyd?
-
Gallwch. Gallwch ddefnyddio’ch cerdyn rhatach ar bob gwasanaeth fflecsi.
-
Archebu gyda fflecsi
-
Alla i archebu ymlaen llaw?
-
Mae fflecsi yn gweithio'n wahanol i gefnogi anghenion lleol - gwiriwch dudalen y lleoliad rydych chi am deithio iddo i weld a yw hyn yn bosibl.
-
-
A oes angen i mi gadw sedd i’m plentyn er eu bod yn teithio am ddim?
-
Oes, mae’n rhaid i bawb sy’n teithio, gan gynnwys plant a babanod, drefnu tocyn fel teithiwr ychwanegol.
-
-
Does gen i ddim ffôn clyfar, alla i archebu o hyd?
-
Y ffordd orau o archebu a rheoli eich teithiau yw i lawrlwytho ein ap ar eich ffôn clyfar neu dabled. Gallwch ffonio i gadw lle ar 03002 340 300.
-