Cerdded ac olwynio llesol
Cerdded neu olwynio yw rhai o’r ffyrdd hawsaf o deithio o gwmpas. Mae hefyd yn isel o ran cost ac mae’n eich helpu i fod yn fwy egnïol ac yn iachach.
Mae cerdded a beicio hefyd o fudd i’n hamgylchedd a’n heconomi, a dyna pam rydyn ni’n gwneud cerdded ac olwynio yn hygyrch i bawb. Gallwn i gyd elwa ar fanteision cerdded ac olwynio, p’un a yw hynny’n golygu mwynhau’r awyr iach, cadw’n heini neu deimlo’n rhan o’ch cymuned.
Y peth gorau? Gallwch fynd ar eich cyflymder eich hun ac ni fydd yn costio ceiniog i chi.
Gallwch gynllunio eich taith gyda chynllunydd teithiau Traveline Cymru.
