Talu llai am deithio’n bellach
Tocynnau trên Advance rhad
Teithio’n bell ar y trên? Mae tocynnau Advance fel arfer yn cynnig y gwerth gorau ar gyfer teithiau rheilffordd hirach. Felly, p’un a ydych chi’n teithio i Fanceinion i gwrdd â ffrindiau, mynd i Ynys Môn i ymlacio neu’n mynd i siopa yn Birmingham, gallwch fwynhau am bris llai, drwy brynu o flaen llaw.
Prynu Tocynnau Advance
Bydd angen i chi brynu eich tocynnau Advance cyn mynd ar y trên. Mae nhw’n cadw lle i chi ar drên penodol – dim ond ar y gwasanaeth hwnnw mae nhw’n ddilys. Os oes angen mwy o hyblygrwydd arnoch o ran eich cynlluniau teithio, rydym yn argymell ein tocynnau Anytime.
Efallai y bydd rhai tocynnau Advance ar gael ar eich diwrnod teithio, ond rydym yn argymell eich bod yn prynu eich un chi hyd at 8 wythnos ymlaen llaw, gan mai nifer cyfyngedig o docynnau Advance sydd ar gael ar gyfer pob taith. Felly, manteisiwch ar ein prisau gorau drwy brynu’ch tocyn yn gynnar.
Ble i brynu tocyn Advance
Osgowch dalu unrhyw ffioedd bwcio ac archebwch eich tocynnau gyda ni’n uniongyrchol pan eich bod yn eu prynu ar ap TrC, y wefan neu o swyddfa docynnau mewn un o’m gorsafoedd.
Rydym yn cynnig yr opsiwn i chi ledaenu taliadau dros 3 rhandaliad gyda Paypal Pay in 3 os ydych chi'n gwario dros £30. Mae rhagor o wybodaeth am yr opsiwn hwn ar gael ar y sgrin talu.
Prynwch eich tocyn trên Advance ar ein ap, a mwynhewch deithiau digyswllt pan eich bod yn cofrestru cyfrif. Mae ragor o wybodaeth am ap TrC yma.
Teithio ar y funud olaf
Gallwch nawr brynu ein tocynnau Advance pris isel ar y diwrnod teithio.
Mae hyn yn golygu bod hyd yn oed mwy o gyfleoedd i gael y gwerth gorau am arian ar deithiau pellter hir munud olaf. Mae tocynnau Advance bellach ar gael hyd at 5 munud cyn i’ch trên adael yr orsaf.
Rhagor o wybodaeth am brisiau tocynnau Advance ar y diwrnod teithio
- A oes tocynnau Advance ar gael ar gyfer gwasanaethau Dosbarth Cyntaf?
-
Oes. Mae tocynnau Advance ar gael ar wasanaethau Safonol a Dosbarth Cyntaf.
-
- Pam mai dim ond ar gyfer teithiau un ffordd y mae tocynnau Advance?
-
Tocynnau trên un ffordd yw tocynnau Advance, sy’n golygu, yn wahanol i docynnau dychwelyd, mae gennych yr hyblygrwydd i ddewis mannau cychwyn a gorffen gwahanol i gyd-fynd â’ch anghenion.
-
- Beth fydd yn digwydd os byddaf yn mynd ar y trên anghywir?
-
Gwnewch yn siŵr eich bod ond yn mynd ar y trên yr ydych wedi archebu lle arno - gofynnwch i un o'n cydweithwyr os nad ydych yn siŵr. Os ydych chi'n mynd ar y trên anghywir, ni fydd eich tocyn Advance yn ddilys a bydd angen i chi brynu tocyn newydd. Efallai y bydd angen i chi dalu tâl cosb hefyd os ydych yn teithio o fewn un o’r parthau tâl cosb.
-
- A yw’n bosibl defnyddio fy Ngherdyn Rheilffordd gyda thocynnau Advance?
-
Ydy. Gallwch ychwanegu gostyngiadau Cerdyn Rheilffordd at docynnau Advance i arbed hyd yn oed mwy.
-
- A yw’n bosibl uwchraddio o docyn Safonol i docyn Dosbarth Cyntaf?
-
Ydy. Gallwch uwchraddio o docyn Safonol i docyn Dosbarth Cyntaf ar ein gwasanaethau, lle bo’n berthnasol. Mae hyn yn bosib gyda’n tocynnau Safonol i gyd gan gynnwys tocynnau unrhyw bryd a thocynnau unffordd Advance, tocynnau dwyffordd, tocynnau tymhorol, a thocynnau Rover a Ranger. Gadewch i’r goruchwylwr wybod os hoffech uwchraddio a byddant yn gwirio p’un a oes lle i chi ar y trên y diwrnod hwnnw.
-
- Sut i newid tocyn Advance
-
Os oes angen i chi newid y diwrnod neu’r amser rydych chi’n teithio, gallwch chi newid eich tocyn hyd at 18:00 ar y diwrnod cyn teithio.
-
Bydd y broses y bydd angen i chi ei dilyn yn dibynnu ar ble wnaethoch chi brynu eich tocyn a pha opsiwn danfon roeddech chi wedi’i ddewis, darganfod mwy.
-
- A allaf gael ad-daliad ar Docyn Advance?
-
Ni allwch gael ad-daliad am docynnau Advance oni bai eich bod wedi penderfynu peidio â theithio am fod eich trên wedi’i ganslo neu’n hwyr.
-
Os wnaethoch chi brynu tocyn Advance ar ein ap neu wefan, ni chodir ffi arnoch ar hyn o bryd am newid eich taith o dan ein cynllun Archebu gyda hyder. Fodd bynnag, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu mwy os oes gwahaniaeth pris rhwng eich tocyn presennol a’r tocyn newydd.
-
Telerau ac amodau
Ar gyfer cwsmeriaid sy’n prynu tocynnau Advance ar ein ap neu wefan, nid oes ffi am newid taith, cyn belled â bod gennych gyfrif ar-lein. Fel arfer ni fydd modd ad-dalu tocynnau Advance a gallech orfod talu ffi o £5 am newid siwrnai pan fydd hyn yn cael ei drefnu yn swyddfa docynnau gorsaf. Mae rhagor o wybodaeth am docynnau Advance, gan gynnwys y telerau a’r amodau, ar wefan National Rail.
*Y ganran gyfartalog a arbedwyd gan gwsmeriaid rhwng 01/01/2023 a 31/12/2023 wrth brynu tocynnau Advance TrC heb ddisgownt o’i gymharu â thocyn sengl rhataf TrC am bris unrhyw amser ar gyfer yr un siwrnai, ar yr un diwrnod â’r daith, oedd 50.2%. Mae prisiau tocynnau Advance yn amodol ar argaeledd. Mae Amodau Teithio National Rail yn berthnasol.