Chwilio am amseroedd y trenau sy’n gadael a’r trenau sy’n cyrraedd

Gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n colli trên eto drwy gael amseroedd cyrraedd ac amseroedd gadael amser real yma. Mae’n adnodd sydd wedi’i ddylunio i wneud eich taith rywfaint yn fwy esmwyth. Gall yr adnodd hwn eich helpu i fynd ar eich trên mewn da bryd cyn iddo adael, gweld a oes unrhyw oedi a gweld pa bryd mae disgwyl i’ch trên gyrraedd pob gorsaf. Mae’n ffordd wych o roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’ch deulu a ffrindiau am pryd fyddwch chi’n cyrraedd pen eich taith.

Rydyn ni’n gwybod nad yw trenau bob amser yn cyrraedd nac yn gadael ar amser, ac mae hyn yn gallu bod yn rhwystredig. Gall yr adnodd hwn fod yn help mawr pan nad yw pethau’n mynd yn iawn. Gallwch hyd yn oed ddefnyddio’r adnodd Gwirio Taith i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw beth sy’n tarfu ar y gwasanaeth, ac i sefydlu hysbysiadau ar eich ffôn.

 

Newidiadau i oriau agor y swyddfa docynnau

Mae oriau agor ein swyddfeydd tocynnau gorsafoedd rheilffyrdd yn newid i adlewyrchu’r newidiadau i’n gwasanaethau trên. Gallwch ddod o hyd i beth sy’n effeithio ar eich gorsaf leol a chael rhagor o wybodaeth am ein gorsafoedd a’n cyrchfannau yma.

Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi brynu tocyn trên ar-lein a hyd yn oed defnyddio ein gwiriwr capasiti er mwyn gweld pa mor brysur y mae eich trên yn debygol o fod? P’un a ydych chi’n teithio i Ddinbych-y-pysgod, Caerdydd neu Fanceinion, hoffem wneud eich taith mor rhwydd â phosibl o’r dechrau hyd at y diwedd.

Cofiwch ddefnyddio’r adnodd gwirio taith i gael amseroedd byw o’r trenau’n gadael a chyrraedd, a helpu i gynllunio eich taith.