Mae Dinbych-y-pysgod yn dref harbwr a chyrchfan wyliau glan môr young ngorllewin Cymru, ac mae yno lawer o siopau gwahanol a thraethau â thywod melyn braf – mae rhywbeth yno i bawb ei fwynhau.

 

Pori heb borwr

Dewch i ni fynd yn ôl i amser go iawn a mwynhau pori heb borwr. Gall ein trenau fynd â chi i rai o gyrchfannau siopa gorau’r DU, felly gallwch chi fwynhau rhywfaint o therapi siopio heb unrhyw ddiffygion technegol.

Mae Dinbych-y-pysgod yn un o drefi glan môr gorau Cymru gyda thraethau godidog, awyrgylch cynnes a thai Fictoraidd gwych. I gael profiad go iawn yn Ninbych-y-pysgod, mae’n rhaid i chi ymweld â Harbwr Dinbych-y-pysgod – harbwr bach a chyfeillgar lle gallwch fwynhau tamaid o bysgota, mynd ar daith cwch i’r Ynys Bŷr ger llaw, ymlacio a dadflino ar y traeth gwych neu eistedd a gwylio pobl. 

 

Rhaid gweld

Gorsaf Bad Achub yr RNLI - Dysgwch ragor am yr RNLI, hanes y badau achub a dysgu am rai o'r adegau pryd bu’n rhaid iddynt achub pobl. Yng ngorsaf y bad achub, gallwch chi gerdded o gwmpas y bad a’i weld yn agos a gweld y golygfeydd hyfryd oddi amgylch.

Traethau - mae Dinbych-y-pysgod yn brydferth bob adeg o'r flwyddyn, yn enwedig ym misoedd yr haf. Ewch i fwynhau traethau tywod perffaith Dinbych-y-pysgod, megis Traeth y Castell, Traeth y Gogledd neu Draeth yr Harbwr.

Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-pysgod - mae’r Amgueddfa mewn rhan o olion Castell Dinbych-y-pysgod ac mae yno chwe oriel fawr a chaffi a siop anrhegion; dyma ffordd dda o ddysgu am hanes Dinbych-y-pysgod.

Gweithdy Llwyau Caru – dysgwch ragor am draddodiad rhamantus y llwy garu, sy’n dyddio’n ôl gannoedd o flynyddoedd yng Nghymru. Archwiliwch y dewis helaeth o lwyau a chael llwy bersonol i rywun arbennig.

 

Penwythnos yn Ninbych-y-pysgod

Antur a Chyffro – Mae llawer o lefydd i gael diwrnod llawn bwrlwm, megis Parc Gweithgareddau Heatherton. Saethyddiaeth, Ystafelloedd Dianc, Weiren Wib, a llawer mwy – ac nid dim ond i'r plant oherwydd mae digonedd o weithgareddau i oedolion er mwyn i’r teulu cyfan allu cymryd rhan. Os nad yw hynny’n ddigon, bydd Parc Thema Oakwood, gyda reidiau cyflym megis Megaphobia a Speed, yn cael eich calon i bwmpio.

Teithiau Saffari Morloi a Mordaith o Amgylch yr Ynysoedd , yw’r ffyrdd gorau o weld arfordir Dinbych-y-pysgod a phrofi’r bywyd gwyllt hefyd. Mae teithiau pysgota mecryll a theithiau i weld y morlo ar gael hefyd – os byddwch chi'n graff efallai y gwelwch chi rai bach hefyd. Ewch i Ynys Bŷr o harbwr Dinbych-y-pysgod a chrwydro’r siopau, dod o hyd i anrhegion a chael blasu siocled a chyffug cartref hyd yn oed.

Gallwch fynd i Ynys Catrin ar droed. Er ei bod hi'n fach mae hi’n llawn hanes – mae hi'n gartref i gaer Palmerstown a safle gynnau rhag awyrennau o’r Ail Ryfel Byd. Mae modd cyrraedd Ynys Catrin o Draeth y Castell pan mae’r môr ar drai ond byddwch yn ofalus wrth ddod yn ôl rhag i chi fynd yn sownd yno!