Cadw ein cwsmeriaid yn ddiogel yn ystod digwyddiadau

Gall digwyddiadau mawr olygu bod mwy o bobl nag arfer yn defnyddio ein gwasanaethau. Byddwn yn cymryd camau ychwanegol i gadw ein cwsmeriaid i deithio’n ddiogel ac yn ddibynadwy.

  • Sut ydych chi'n penderfynu pa giwiau sy'n symud a phwy sy'n gorfod aros y tu allan?
    • Cynlluniwyd ein system giwio

      Cynlluniwyd ein system giwio, sydd gyda’r mwyaf blaengar yn y diwydiant, i ganiatáu mynediad i gwsmeriaid i drenau ar sail ‘cyntaf i’r felin’ ac rydym yn rhyddhau pob ciw yn ôl y lle sydd ar gael ar y gwasanaeth nesaf, gan ddal y ciw nes i’r trên nesaf gyrraedd.

      Os oes rhaid i ni ofyn i gwsmeriaid aros y tu allan i orsafoedd am fwy o amser nag yr hoffem, rydyn ni wastad yn dosbarthu ponchos dal dŵr.

      Mae hyn yn helpu i wneud y profiad mor gyffyrddus â phosibl i bawb ac i sicrhau eu bod yn cyrraedd adref yn ddiogel.

  • Sut ydw i'n gwybod beth sy'n digwydd ar y diwrnod?
    • Mae cyfathrebu â chwsmeriaid yn rhan allweddol o sut mae pethau’n gweithio ar ddiwrnod y digwyddiad.

      Ar y diwrnod, mae gennym nifer fawr o staff ar gael i gynnig gwybodaeth uniongyrchol a chyhoeddwyr ychwanegol yn y gorsafoedd i sicrhau bod yr wybodaeth yn rheolaidd ac yn gyson. Rydym hyd yn oed yn gweithredu llif trydar penodol i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf yn fyw o'r orsaf.

      Mae’r llif trydar yn cael ei reoli gan aelod o'n tîm digwyddiadau, sydd wedi'i leoli yn ein Canolfan Rheoli Torfeydd, a dyma'r ffynhonnell orau o wybodaeth fyw o bell ffordd ar ddiwrnod y digwyddiad os oes gennych fynediad i Twitter.

      Cyn teithio, mae hefyd yn bwysig taro golwg ar ein gwefan, sydd â thudalen benodol ar gyfer pob digwyddiad.

      Edrychwch yma i gael yr wybodaeth am y system giwio, manylion unrhyw wasanaethau trên ychwanegol, a chyngor defnyddiol arall fel pa mor hir y gall cwsmeriaid ddisgwyl ciwio, mynediad i bobl anabl a lleoliad toiledau cyhoeddus.

  • Pam mae’n rhaid i fi aros tu allan i'r orsaf?
    • Rheoli torfeydd

      Y ffordd orau i ni reoli'r nifer fawr o gwsmeriaid mewn ffordd ddiogel yw gweithredu gweithdrefnau rheoli torfeydd cyn ac ar ôl y digwyddiadau, fel systemau ciwio a chyfyngu ar y symudiadau mewn gorsafoedd.

      Rydym yn cyflogi gweithwyr proffesiynol i reoli torfeydd ac i reoli llif cwsmeriaid, ac fe'u cefnogir gan dîm o staff cymwys a phrofiadol y rheilffordd sy'n cynnig cymorth i gwsmeriaid ar y platfformau ac yn cydlynu'r broses yn y ganolfan rheoli torfeydd.

      Fel gallwch chi ddychmygu, pe byddai’r holl gwsmeriaid yn cael caniatâd i ddod i mewn i'r orsaf heb unrhyw fath o drefn rheoli torfeydd, byddai peryglon diogelwch o ran gorlenwi platfformau a chwsmeriaid yn cael eu hatal rhag mynd ar y gwasanaethau trên maen nhw’n ceisio eu dal.

  • Pam nad ydych chi'n defnyddio mwy o gerbydau ar ddiwrnod digwyddiadau?
    • Rydym yn treulio hyd at dri mis cyn gêm yn cynllunio'r gwasanaeth trên a rheoli torfeydd.

      Mae hyn yn cynnwys darparu cerbydau a gwasanaethau ychwanegol ar y llwybrau mwyaf poblogaidd sy'n mynd â phobl i'r lleoliadau hyn ac oddi yno. Rydym yn gwneud hyn i gyd gan ystyried cyfyngiadau'r fflyd sydd ar gael i ni.

      Er enghraifft, mae’r effaith y mae 72,500 o bobl yn y stadiwm yn ei chael ar orsaf Caerdydd Canolog, o ystyried ei leoliad a manteision teithio ar reilffordd yn hytrach na’r ffordd, yn golygu y gall hyn arwain at nifer uwch o lawer o gwsmeriaid yn defnyddio'r orsaf ar ddiwrnod y digwyddiad.

      Fel arwydd cyffredinol o boblogrwydd gwasanaethau, cyn digwyddiadau yng Nghaerdydd, gall tua 30,000 o gwsmeriaid gyrraedd yr orsaf cyn y digwyddiad, a bydd hyd at 40,000 o gwsmeriaid yn dychwelyd i'r orsaf i fynd adref. Yn ystod y dyddiau hynny, mae'r depo’n wag, gan fod pob trên sydd ar gael i ni ar waith, oni bai fod gwaith cynnal a chadw yn gwbl hanfodol.

 

Jest y tocyn

Beth am wrando ar sut rydyn ni'n paratoi ar gyfer digwyddiadau mawr ar ein podlediad Jest y Tocyn.