Submitted by LewisMorgan on

Tryloywder

Fel corff a noddir yn gyhoeddus, mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i ddangos ein bod yn agored a thryloyw wrth weithredu ein busnes ac yn y ffordd rydym yn cyfathrebu â’n cwsmeriaid a’n rhanddeiliaid.

Dylai gweithredu mewn ffordd agored a thryloyw helpu i drawsnewid ein dulliau gweithredu. Mae’n cryfhau ein cysylltiad â chwsmeriaid a rhanddeiliaid ac yn codi ymwybyddiaeth o’r ffordd rydym yn cydweithio â chymunedau a busnesau lleol er mwyn gwella gwasanaethau trafnidiaeth yng Nghymru.