Mwynhewch bryd o fwyd ar ein trenau
Darganfyddwch eich blas ar antur
P'un a ydych chi'n mynd adref o'r gwaith, yn mentro am benwythnos i ffwrdd neu'n dathlu achlysur arbennig, mae gennym ni amrywiaeth flasus o fwyd a diod i chi ei mwynhau ar rai o'n gwasanaethau.
Mae'n blasu'n wych, mae'n ffres ac o ansawdd uchel. Yn bwysicaf oll, mae llawer ohono'n cael ei gynhyrchu’n lleol gan gyflenwyr bwyd a diod talentog ledled Cymru.
Hoffech chi damaid i’w fwyta ar y trên?
A oes chwant bwyd arnoch? Dyma sut i archebu
| Mynnwch fyrbryd neu ddiod o'r troli: Rhowch wybod i'ch gwesteiwr beth rydych chi am ei fwyta pan ddaw'r troli heibio a thalwch â cherdyn. | |
| Archebwch bryd Dosbarth Safonol (Gwasanaethau o’r Radd Flaenaf yn unig): Gofynnwch i'ch gwesteiwr beth sydd ar gael neu sganiwch y cod QR ar y sedd neu'r bwrdd i weld y fwydlen ac archebwch ar-lein. Rhowch wybod i ni beth ydych chi’n dymuno ei brynu a thalwch gyda cherdyn. | |
| Archebwch bryd o fwyd Dosbarth Cyntaf (Gwasanaethau o’r Radd Flaenaf yn unig): Gweler pa ffefrynnau tymhorol sy’n eich temtio chi o'r fwydlen bwyta cain ar eich bwrdd. A fyddwch yn dewis dau neu dri chwrs? Rhowch wybod i'ch gwesteiwr a thalwch â cherdyn. |
Cwestiynau Cyffredin am fwyd a diod
Pa fwyd a diod sydd ar gael ar y trên?
O fwyd tymhorol cain yn yr ardal Dosbarth Cyntaf i frecwast llawn wedi’i goginio’n ffres, opsiynau ysgafnach neu fyrbrydau blasus o'r troli. Mae gennym ni amrywiaeth flasus o fwyd a diod i chi ei mwynhau.
Pa wasanaethau sydd â bwyd a diod?
Ar hyn o bryd, dim ond ar ein Gwasanaethau o’r Radd Flaenaf rhwng Caerdydd a Chaergybi a rhwng Caerdydd a Manceinion y mae ein gwasanaeth bwyta Dosbarth Cyntaf a'n bar bwyd ar gael.
Fel arfer, byddwn yn darparu gwasanaeth troli gydag amrywiaeth o fyrbrydau blasus a diodydd poeth ac oer ar y llwybrau canlynol:
- Caerfyrddin <> Manceinion Piccadilly
- Caerdydd Canolog <> Caergybi
- Aberystwyth <> Birmingham Rhyngwladol
- Cyffordd Llandudno <> Maes Awyr Manceinion
- Caergybi <> Birmingham Rhyngwladol
Mae ein holl wasanaethau bwyd a diod ar y trên yn amodol ar faint sydd ar gael.
A allaf ddod â’m bwyd a'm diod fy hun ar y trên?
Gallwch, gallwch ddod â'ch bwyd a'ch diod eich hun ar y trên.
A oes opsiynau heb alergenau, heb glwten, fegan a llysieuol?
Oes, mae gennym ni opsiynau heb alergenau, heb glwten, fegan a llysieuol nad ydynt yn cyfaddawdu ar flas. Gofynnwch i'ch gwesteiwr ar y trên roi gwybod i chi beth sydd ar gael.
A oes bwyd a diod i blant?
Er nad oes gennym fwydlen benodol i blant, mae gan ein gwasanaeth troli a'n bar bwyd fyrbrydau a diodydd sy'n addas i blant. Gofynnwch i'ch gwesteiwr ar y trên roi gwybod i chi beth sydd ar gael.
Rydym yn diweddaru ein bwydlen gyda'r tymhorau i gadw pethau'n ffres. Efallai na fydd rhai eitemau ar gael bob amser.