Rydym bob amser yn ceisio sicrhau bod ein trenau yn rhedeg ar amser, ond mae oedi yn digwydd weithiau a pan mae hyn yn digwydd fe fyddwn yn cynnig iawndal teg a phriodol.
Os bydd un o’n trenau yn hwyr neu’n cael ei chanslo am unrhyw reswm, ac o ganlyniad i hynny eich bod yn cyrraedd yr orsaf lle’r oeddech chi’n bwriadu gorffen eich taith 15 munud neu'n fwy yn hwyrach na'r disgwyl, bydd ‘Ad-daliad am Oedi’ yn dod i rym.
Rhaid i bob cais am iawndal gael ei dderbyn gennym o fewn 28 diwrnod i gwblhau'ch taith. Cliciwch ar y botwm isod i lenwi ffurflen Ad-dalu Oedi.
Mi fydd rhaid i chi ddarparu:
- Dyddiad y daith
- Amser y trên a chafodd ei oedi
- Tarddiad a chyrchfan eich taith
- Llun neu sgan o’r tocynnau a brynwyd ar gyfer eich taith
- Os na allwch ddarparu sgrinlun o god bar y tocyn, gallwch anfon sgrinlun o'r e-bost yn cadarnhau eich archeb. Byddwn yn derbyn hwn fel tystiolaeth.
- Cyn gwneud cais, defnyddiwch ein cyfrifiannell isod i gael amcangyfrif o swm yr ad-daliad.
{{ labels.title }}
{{ errors.ticket_type }}
{{ errors.delay_time }}
{{ errors.ticket_price }}
{{labels.result_copy}}: £ {{ repay_result }}-
Oeddech chi’n gwybod?Teithiwch yn SaffachGallwch gynllunio ymlaen llaw a phenderfynu pryd i deithio gan ddefnyddio ein Gwiriwr Capasiti.Gwirio capasiti