Pŵer pedlo
Mae llawer o fanteision i feicio. Mae’n hwyl, mae’n iach ac mae’n dda i’n hamgylchedd. Mae’n tynnu traffig oddi ar ein ffyrdd, yn lleihau llygredd, yn gallu arbed arian ac yn gwella llesiant.
Gall beicio fod yn hawdd ac yn gyfleus - yn enwedig ar gyfer teithiau byr bob dydd fel mynd i’r gwaith, mynd â’r plant i’r ysgol, mynd i’r siopau neu gyrraedd yr orsaf. Mae hefyd yn wych ar gyfer hamdden ac adloniant.
Dyna pam, p’un a ydych chi’n cerdded, yn olwynio neu’n beicio, ein nod yw gwneud teithio o ddrws i ddrws yn fwy diogel, cynaliadwy a chysylltiedig. Gadewch i ni ffafrio’r dulliau teithio yma.
Beth sy'n digwydd yn eich ardal chi?
Yn ôl y gyfraith, rhaid i awdurdodau lleol annog cerdded, olwynio a beicio. Maen nhw’n gwneud hyn drwy gynlluniau fel gwella llwybrau cerdded a beicio lleol. Cewch wybod beth sy’n digwydd yn eich ardal chi yma.