Parcio eich beic yn ein gorsafoedd a'ch taith ymlaen

Mae gennym fannau parcio beic diogel a hygyrch mewn llawer o'n gorsafoedd a chynlluniau ar y gweill i greu mwy. Gallwch wirio cyfleusterau parcio beiciau yn ein gorsafoedd rheilffordd gan ddefnyddio ein teclyn gwirio ar-lein.

Er mwyn diogelwch a bod yn saff, pan fyddwch yn parcio eich beic yn un o'n gorsafoedd, cofiwch fynd a pannier neu fagiau eraill gyda chi.  Gall bagiau a adewir heb oruchwyliaeth yn ein gorsafoedd gael eu gwirio a'u symud gan staff yr orsaf, neu staff diogelwch. Sylwch nad cyfrifioldeb TrC yw unrhyw feic a adewir yn ein gorsafoedd ond cyfrifoldeb y perchennog.