"Rydym yn newid y ffordd y mae’r diwydiant trafnidiaeth yn edrych. Drwy ddathlu a chroesawu gwahaniaethau, rydym yn adeiladu gweithlu sy’n cynrychioli Cymru. Mae angen pobl dalentog o bob cefndir a diwylliant arnom i gyfrannu eu safbwyntiau a’u profiadau gwahanol. Mae timau amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell ac yn sbarduno arloesedd."

RY'N NI'N GWNEUD Y PETH IAWN | RY'N NI'N HERIO EIN HUNAIN | UN YDYM NI

Rydym am gynrychioli a chefnogi cymunedau amrywiol Cymru. Dyna pam rydym yn ymgorffori ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhopeth a wnawn - o'r gwasanaethau a ddarparwn i'r diwylliant a feithrinwn.

Rydym yn gwybod bod newid ystyrlon yn gofyn am ymrwymiad hirdymor, meddwl agored ac atebolrwydd. Dyna pam rydym wedi datblygu gweledigaeth a chynllun gweithredu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant clir, wedi'u cefnogi gan bolisïau sy'n sicrhau tegwch a chyfle i bawb.

 

Ein gweledigaeth

Rydym yn adeiladu Cymru decach a mwy cynhwysol - lle mae pawb yn teimlo'n ddiogel, yn cael eu gweld, eu clywed a'u gwerthfawrogi. Mae’r weledigaeth wedi'i seilio ar dri nod allweddol:

  • Diwylliant cynhwysol - Hyrwyddo amgylchedd lle mae pob cydweithiwr a chwsmer yn teimlo eu bod yn cael eu parchu ac yn gallu bod yn nhw eu hunain.
  • Gweithio'n deg - Ymgorffori cynhwysiant a hygyrchedd yn y ffordd rydym yn cynllunio, recriwtio, cyflawni a gwerthuso ein gwaith.
  • Gweithlu cynrychioliadol - Sicrhau bod ein gweithlu'n adlewyrchu'r cymunedau amrywiol rydym yn eu gwasanaethu.

Mae'r nodau hyn wrth wraidd ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28.

 

Dyma rai o'r camau rydym yn eu cymryd i roi ein gweledigaeth ar waith:

Gwrth-hiliaeth

Fel cefnogwr balch o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru, rydym wedi cyhoeddi ein Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth ein hunain. Mae hyn yn cynnwys:

  • Gwrando ar brofiadau bywyd er mwyn llunio ein dull gweithredu.
  • Ymgyrchoedd hyfforddi ac ymwybyddiaeth i bob cydweithiwr.
  • Allgymorth a recriwtio wedi'u targedu i wella cynrychiolaeth ethnig ar draws ein gweithlu.

 

Rhwydweithiau cymorth i gydweithwyr

Mae ein rhwydweithiau dan arweiniad cydweithwyr yn creu mannau iddynt gysylltu, rhannu profiadau a llunio diwylliant ein gweithle. Maent yn cynnwys:

  • Enfys - rhwydwaith LHDTC+
  • Croeso i Bawb - rhwydwaith anabledd a lle i gydweithwyr niwroamrywiol
  • Rhwydwaith rhywedd - lle i ddynion a lle i fenywod
  • Rhwydwaith teuluoedd a gofalwyr
  • Criw Cymraeg - rhwydwaith diwylliant Cymru
  • Rhwydwaith ffydd
  • Rhwydwaith hil

 

Cynnydd a thryloywder

Rydym yn mesur ein llwyddiant nid yn unig yn ôl yr hyn a ddywedwn, ond yn ôl yr hyn a wnawn. Bob blwyddyn rydym yn:

Mae ein Cynllun Busnes 2025/26 yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i adeiladu sefydliad cynhwysol sy'n barod ar gyfer y dyfodol.

 

Yn ogystal â'n hymrwymiadau i'n cydweithwyr, rydym hefyd wedi ymrwymo i greu teithiau mwy cynhwysol i'n cwsmeriaid. Rydym am i bawb deimlo'n hyderus wrth ddefnyddio ein gwasanaethau.

Mae ein tudalen Teithio Hygyrch yn amlinellu sut rydym yn cefnogi cwsmeriaid ag anghenion ychwanegol - gan gynnwys cynlluniau fel y Laniard blodau’r haul, y Waled Oren ac offer dehongli Iaith Arwyddion Prydain.