Mae ein system dracio ein cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth yn dangos y cynnydd yr ydym yn ei wneud mewn dod yn sefydliad sy’n fwy cynhwysol, teg a gwrth-hiliol. Mae’n rhoi darlun clir o’r ymrwymiadau yr ydym wedi’u gwneud, y ffyrdd yr ydym yn gweithredu arnynt a’r canlyniadau yr ydym yn gweithio tuag atynt er mwyn creu newid ystyrlon, a fydd yn para, er lles ein cydweithwyr, ein cwsmeriaid, a’n cymunedau.
Rydym yn adolygu ac yn diweddaru ein system dracio pob chwarter yn dilyn ein cyfarfodydd Grŵp Llywio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Mae hyn yn ein helpu ni i aros yn atebol, i dracio ein cynnydd, ac i gadw pawb yn hysbys. Mae gan bob gweithrediad arweinydd ac amserlen, sy’n ein helpu ni i fonitro cyflawniad, i gydnabod llwyddiannau, ac i nodi’r mannau lle bod angen gweithredu ym mhellach er mwyn cwrdd â’n hymrwymiadau a pharhau i ddatblygu.
| Thema | Ymrwymiad | Y wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd | Statws | Diweddarwyd ddiwethaf |
| Addysg ac Ymwybyddiaeth | Datblygu adnoddau dysgu i helpu cydweithwyr i ddeall hiliaeth, rhagfarn a chydraddoldeb. | Datblygwyd deunyddiau dysgu gwrth-hiliaeth ac fe’u lansiwyd i uwch arweinwyr ac arweinwyr gweithredol. | Ar y gweill | 02/09/26 |
| Addysg ac Ymwybyddiaeth | Sefydlu Panel Cynghori ar Wrth-hiliaeth. | Sefydlwyd y Panel Cynghori ym mis Medi 2025 ac mae'r panel yn cyfarfod bob chwarter i adolygu cynnydd. | Wedi’i gwblhau | 01/09/25 |
| Polisïau a Gweithdrefnau Cynhwysol | Datblygu polisi gwrth-hiliaeth. | Mae polisi wrthi’n cael ei ddatblygu gyda chefnogaeth y Panel Cynghori ar Wrth-hiliaeth. | Ar y gweill | |
| Polisïau a Gweithdrefnau Cynhwysol | Cyflwyno gwell mecanweithiau adrodd ar gyfer hiliaeth a gwahaniaethu. | Mae opsiynau adrodd mewnol wedi'u datblygu ac maent yn cael eu hadolygu. | Ar y gweill | |
| Polisïau a Gweithdrefnau Cynhwysol | Adolygu prosesau gwerthuso perfformiad ar gyfer tegwch a chydraddoldeb. | Mae'r adolygiad ar y gweill trwy Wasanaethau Pobl. | Ar y gweill | |
| Polisïau a Gweithdrefnau Cynhwysol | Darparu mannau i gefnogi arferion ffydd ac arferion diwylliannol. | Mae ystafelloedd tawel ar gael ar draws lleoliadau TrC ac mae gwaith safoni yn parhau. | Ar y gweill | |
| Rhwydweithiau Cymorth i Gydweithwyr | Cryfhau rhwydweithiau cydweithwyr sy'n hyrwyddo cydraddoldeb hiliol. | Mae Rhwydweithiau Cymorth i Gydweithwyr yn parhau i gefnogi mentrau tegwch hiliol ac mae rhwydwaith hil pwrpasol wrthi’n cael ei ddatblygu. | Ar y gweill | |
| Ymgysylltu â'r Gymuned a Phartneriaethau | Gweithio gyda sefydliadau cymunedol i lunio gwasanaethau trafnidiaeth. | Mae partneriaethau’n cael eu cryfhau i wella ymgysylltiad â chymunedau lleiafrifoedd hiliol. | Wedi’i gwblhau | 01/0926 |
| Ymgysylltu â'r Gymuned a Phartneriaethau | Gweithio gydag undebau llafur ar amrywiaeth a chynhwysiant. | Mae trafodaethau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn parhau trwy gyfarfodydd i Weithwyr o Bob Gradd gyda phartneriaid Undebau Llafur. | Ar y gweill | |
| Recriwtio a Chyfleoedd | Adeiladu perthnasoedd â sefydliadau amlddiwylliannol. | Mae gweithgarwch â phartneriaethau wedi cefnogi rhaglenni cyflogadwyedd a lleoliadau gwaith. | Wedi’i gwblhau | 31/12/25 |
| Recriwtio a Chyfleoedd | Cynyddu’r niferoedd sy’n manteisio ar brentisiaethau o blith cymunedau lleiafrifoedd ethnig. | Mae gweithgareddau allgymorth gyda Gyrfa Cymru a phartneriaid cymunedol yn parhau. | Wedi’i gwblhau | 31/12/25 |
| Recriwtio a Chyfleoedd | Darparu hyfforddiant i reolwyr llogi ar ragfarn a recriwtio cynhwysol. | Mae hyfforddiant wedi'i ddatblygu a mesurau lleihau rhagfarn wedi'u cyflwyno o fewn systemau recriwtio. | Ar y gweill | |
| Recriwtio a Chyfleoedd | Adolygu rhaglenni llwybrau a chyfleoedd gyrfa. | Datblygwyd y fframwaith ac mae gwaith pellach ar y gweill. | Ar y gweill | |
| Cyfathrebu | Datblygu cyfathrebu mewnol gwrth-hiliol. | Mae hyfforddiant wedi'i gyflwyno i gydweithwyr cyfathrebu ac mae gwrth-hiliaeth wedi'i ymgorffori mewn prosesau cynllunio. | Wedi’i gwblhau | 30/06/25 |
| Cyfathrebu | Cryfhau cyfathrebu allanol ar hiliaeth. | Mae cyfleoedd yn cael eu harchwilio i wneud negeseuon gwrth-hiliaeth yn fwy eglur o fewn ymgyrchoedd cwsmeriaid. | Ar y gweill | |
| Cyfathrebu | Sicrhau cynrychiolaeth amrywiol ar draws ymgyrchoedd a marchnata. | Mae brandio, delweddau a deunyddiau cyfathrebu newydd yn cael eu cyflwyno. | Ar y gweill | |
| Gwerthuso Parhaus | Gwella’r gwaith o gasglu a dadansoddi data am amrywiaeth y gweithlu. | Mae gwaith ar y gweill i wella ansawdd data demograffig ac adrodd arno. | Ar y gweill | |
| Gwerthuso Parhaus | Casglu adborth cydweithwyr ar gynhwysiant a thegwch hiliol. | Mae canlyniadau'r arolwg diwylliant yn cael eu hadolygu ac mae gweithgareddau ymgysylltu yn cael eu cynllunio ar gyfer y dyfodol. | Ar y gweill | |
| Gwerthuso Parhaus | Creu dangosfwrdd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. | Mae gwaith cwmpasu cychwynnol ar y gweill gydag adrannau Data a Mewnwelediadau a Gwasanaethau Pobl. | Ar y gweill |